Neidio i'r prif gynnwy

Mae cannoedd o swyddi gyda Kronospan, y cwmni o’r Waun, wedi eu diogelu gyda cymorth o Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cwmni, sy’n cynhyrchu paneli pren, yn brif gyflogwr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru gyda dros 620 o weithwyr.

Gwelodd Kronospan ostyngiad dramatig mewn gwerthiant o ganlyniad i’r pandemig a’r tarfu a fu wedi hynny ar lif arian parod, a olygodd bod y cwmni yn wynebu cyfnod hynod heriol.

Derbyniodd £622,000 o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sydd wedi helpu’r busnes i barhau i weithredu drwy gyfnod y pandemig a diogelu’r gweithlu yn y pen draw.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru i fusnesau, yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru. Mae’n ategu’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU.

Hyd yma, mae dros 13,000 o fusnesau wedi derbyn cymorth ariannol gwerth dros £280miliwn ac mae’r gronfa wedi helpu i warchod dros 75,000 o swyddi.

Meddai Ben Spruce, prif swyddog ariannol Kronospan:

Mae’r cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi helpu inni warchod swyddi a chefnogi ein cyflenwyr lleol.

Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n tîm cyfan, y rhai sydd wedi gweithio drwy gydol y cyfnod a’r rhai oedd ar ffyrlo ac sydd bellach wedi dychwelyd.

Mae’r cymorth a gafwyd wedi dangos inni ddull proactif Llywodraeth Cymru o weithredu yn ystod yr argyfwng hwn i gefnogi busnesau, diogelu swyddi a helpu’r economi ranbarthol i ddod yn ôl yn gryfach.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi:

Mae Kronspan yn gyflogwr pwysig yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu darparu’r cymorth ariannol hollbwysig yn ystod cyfnod pan oedd y cwmni ei angen fwyaf, gan helpu i warchod cannoedd o swyddi.

Mae’r coronafeirws wedi creu heriau hynod anodd i’n cymuned fusnes a’n hymateb cyntaf oedd ceisio gwarchod cwmnïau, swyddi a bywoliaeth pobl drwy becyn o gymorth nas gwelwyd mo’i debyg, yn cael ei gynnig ar unwaith, gwerth £1.7 biliwn.

Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn rhan allweddol o hynny ac yn hanfodol er mwyn cefnogi miloedd o fusnesau ledled Cymru, a delio gydag effeithiau economaidd y pandemig.