Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru wedi helpu i warchod 257 o swyddi gyda cwmni gweithgynhyrchu rhannau ceir ym Mhontypŵl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd ZF Automotive UK Limited, sy’n gyflogwr pwysig yn yr ardal ac sy’n cyflenwi rhannau o frandiau ceir amlwg ledled y byd, wedi gweld effaith sylweddol o’r pandemig.

Er mwyn cefnogi’r cwmni a’i weithwyr yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £267,000 i helpu gydag arian parod ac i warchod bywoliaeth y staff. 

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth Llywodraeth Cymru gwerth £2 biliwn ar gyfer busnesau, yn darparu cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru, ac mae eisoes wedi helpu i warchod 125,000 o swyddi.  Mae’r gronfa yn ategu’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. 

Meddai Jonathan Williams, rheolwr gweithfeydd ZF Automotive UK Limited ym Mhontypŵl:

“Roedd effaith Covid 19 ar ZF Pontypool yn ddramatig a chyflym.  Bu’r safle ar gau am ddeufis wrth inni asesu y risg i’n gweithrediadau, ail-drefnu cynllun y ffatri a gosod gofynion pellter cymdeithasol a Chyfarpar Diogelu Personol.   

Roedd llif arian yn hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn, gyda costau sylweddol yn parhau.  Roedd cefnogaeth gan y Gronfa Cadernid Economaidd yn allweddol i gadw hylifedd y busnes a gwarchod swyddi y 257 o weithwyr ar y safle.” 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn allweddol yn ein hymdrechion i warchod cwmnïau, swyddi a bywoliaeth rhag effeithiau economaidd difrifol y feirws. 

“Ers dechrau’r pandemig hwn, rydym wedi cynnig pecyn sylweddol o gymorth i fusnesau Cymru, wedi’u darparu’n gyflym, gwerth dros £2 biliwn. Dyma’r cynnig mwyaf hael i fusnesau mewn unrhyw fan yn y DU. 

“Dwi’n falch ei fod wedi darparu cymorth ariannol hollbwysig i ZF Automotive UK Limited mewn cyfnod pan oeddent ei angen fwyaf ac wedi helpu i warchod 257 o swyddi pwysig.

“Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i warchod ein busnesau a’n pobl yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.”