Neidio i'r prif gynnwy

Erbyn hyn, gellir gwneud ceisiadau am gymorth o ail gam Cronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, gyhoeddi gwybodaeth fanwl ynghylch y gyfran hon o’r gronfa, cyfran sy’n werth £200m. Roedd yr wybodaeth hon yn cynnwys meini prawf cymhwysedd ar gyfer busnesau ac elusennau er mwyn iddynt allu paratoi i wneud cais.

Mae’r gronfa’n cynnig rhagor o gymorth ariannol i ddelio ag argyfwng y coronafeirws a bydd yn hanfodol er mwyn helpu sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bwriad hyn yw cau bylchau’r cynlluniau sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae hon yn ffrwd gyllido ychwanegol sy’n unigryw i Gymru.

Yn y cam cyntaf, roedd cynllun benthyciad gwerth £100 miliwn Banc Datblygu Cymru wedi ei ddefnyddio’n llawn mewn ychydig dros wythnos ac mae’r ceisiadau wrthi’n cael eu prosesu.

Mae’r cam hwn yn cael ei anelu at fusnesau micro, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr sydd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd allweddol i Gymru.

Gellir gwneud ceisiadau drwy wefan Busnes Cymru.

Mae mwy na 120 o staff dan gontract Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru bellach yn cael eu cyflogi i brosesu’r holl geisiadau a ddisgwyliwn. Bydd hyn yn sicrhau bod busnesau’n cael yr arian cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae’r cyllid hwn o ail gam y Gronfa Cadernid Economaidd yn mynd i fod yn gwbl hanfodol i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol os ydynt am oroesi’r cyfnod caled hwn.

“Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddais y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cyllid ac mae busnesau wedi defnyddio’r amser hwn i ystyried a ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol. Gall y rheini sy’n teimlo eu bod yn gymwys wneud cais drwy wefan Busnes Cymru o heddiw ymlaen.

“Byddwn yn prosesu ceisiadau mor gyflym â phosibl ac rydym wedi symud staff i rolau newydd at y diben hwn – er mwyn trosglwyddo arian yn gyflym i fusnesau sydd ei angen.

“Rydym am gefnogi cynifer o gwmnïau â phosibl gyda’r gyfran hon o’r gronfa, cyfran sy’n werth £200m. Fodd bynnag, rwyf wedi egluro na fydd y cyllid hwn yn cyrraedd pawb.

“Rydym yn gwneud popeth a allwn yn Llywodraeth Cymru ac, er ein bod yn deall yn llwyr mor anodd yw’r cyfnod hwn, rhaid i Lywodraeth y DU wneud rhagor i ddarparu’r arian sydd ei angen ar gwmnïau o bob maint yng Nghymru er mwyn iddynt allu goroesi ac adfer.”

Er mwyn cymhwyso ar gyfer ail gam cymorth y Gronfa Cadernid Economaidd, rhaid i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol fodloni’r meini prawf a ganlyn:

Gall Busnesau micro, gan gynnwys busnesau newydd, sy’n cyflogi hyd at naw gweithiwr fod yn gymwys am hyd at £10,000 o gymorth. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff. Gallai busnesau yn y categori hwn fod yn gymwys am gymorth gan y gronfa:

  • Os ydynt wedi gweld gostyngiad o 40% mewn trosiant ers 1 Mawrth 2020 
  • Os ydynt yn gallu dangos sut maent wedi ceisio cynnal gweithgarwch y busnes
  • Os nad ydynt yn gallu mynd ar drywydd mathau eraill o gymorth cyllid grant nad yw’n ad-daladwy gan Lywodraeth Cymru
  • Os na allant hawlio grantiau rhyddhad ardrethi busnes

 Gallai cwmnïau bach a chanolig sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o weithwyr fod yn gymwys am grantiau o hyd at £100,000:

  • Os ydynt wedi gweld gostyngiad o 60% mewn trosiant ers diwrnod cyntaf mis Mawrth 
  • Os nad ydynt yn gymwys i gael grantiau rhyddhad ardrethi busnes neu, os ydynt yn gymwys i’w cael, y byddai’r swm hwnnw’n cael ei dynnu o’u dyraniad o’r cyllid hwn 
  • Os oes ganddynt gynllun busnes cynaliadwy i fasnachu ar ôl i bandemig COVID-19 ddod i ben
  • Os gallant gadarnhau na fydd unrhyw weithwyr yn cael eu diswyddo’n orfodol cyhyd â bod y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws yn ei le
  • Os nad ydynt yn mynd ar drywydd mathau eraill o gymorth cyllid grant nad yw’n ad-daladwy gan Lywodraeth Cymru

Bydd cyllid hefyd ar gael i gefnogi cwmnïau mawr sydd â mwy na 249 o weithwyr. Bydd y ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos er mwyn ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o adleoli’r cyllid er mwyn ategu ffynonellau cymorth eraill.

I weld y broses ymgeisio ar gyfer busnesau sy’n gymwys i gael cymorth ariannol o’r Gronfa Cadernid Economaidd, ewch i: Gwiriwr Cymhywsedd Cymorth Fusnes COVID-19 ar Busnes Cymru.