Neidio i'r prif gynnwy

Gall busnesau bellach ddod i wybod a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o gam nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gwiriwr cymhwysedd ar-lein wedi ail-agor heddiw a bydd busnesau yn gallu gwneud ceisiadau am gymorth o’r cam hwn o’r gronfa erbyn diwedd y mis.

Mae’r Gronfa wedi’i chynllunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau, nad ydynt yn gymwys am gynlluniau cymorth eraill Llywodraeth y DU.

Bydd cam nesaf y gronfa yn galluogi busnesau i gael mynediad at £10 miliwn yn ychwanegol o gymorth ariannol. Caiff ei dargedu at microfusnesau, BBaChau a busnesau mawr o bwysigrwydd economaidd hanfodol, sydd heb dderbyn cymorth hyd yma gan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Mae ein pecyn o gymorth ar gyfer busnesau o Gymru wedi bod yn hollol hanfodol i gefnogi miloedd o gwmnïau drwy’r cyfnod hynod anodd hwn.

Mae bron £200 miliwn bellach wedi’i ddarparu i fusnesau o’r Gronfa Cadernid Economaidd gyda phob cais sydd wedi ei brosesu.

Rydyn ni heddiw yn ail-agor ein gwiriwr cymhwysedd ar gyfer cam nesaf y cyllid. Bydd hyn yn rhoi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau, cyn i’r gronfa ail-agor ar gyfer ceisiadau ar ddiwedd y mis.

Mae’r mesurau yr ydyn ni wedi’u cymryd yn ychwanegol i’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan wneud ein pecyn y pecyn mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU.

Bydd y cam nesaf yn cyrraedd busnesau sydd heb dderbyn cyllid hyd yn hyn, ond rydym yn gwybod na fydd yn cyrraedd pawb sydd mewn angen. Rydyn ni’n gweithio’n broactif ar opsiynau pellach, ond mae’n amlwg bod angen i Lywodraeth y DU gamu i mewn a darparu’r cyllid mwy hirdymor ac ychwanegol sydd ei angen i fynd â busnesau Cymru drwy’r pandemig hwn.

Bydd y cam diweddaraf hwn yn gweithredu yn yr un modd â’r cam cyntaf mwy neu lai ond gan ddiweddaru pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun micro. Bydd hyn yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru gyda TAW i gael mynediad at y gronfa, ar yr amod bod y meini prawf eraill yn cael eu bodloni.

Mae’n bosibl y bydd busnesau mawr, sydd wedi gweld gostyngiad o dros 60% mewn trosiant ers 1 Mawrth 2020 hefyd yn gymwys ar gyfer cyllid os ydynt yn bodloni amodau eraill. Mae £10 miliwn yn ychwanegol wedi bod ar gael drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi cwmnïau mwy.

Hyd yma, mae bron £200 miliwn o gyllid y Gronfa Cadernid Economaidd wedi ei ddosbarthu i gwmnïau ledled Cymru, gan gefnogi ystod eang o fusnesau i ddelio gydag effaith y coronafeirws.

Mae hyn yn cynnwys elfen cynllun benthyca Banc Datblygu Cymru y gronfa, sydd wedi gweld dros £90 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn dros 1,300 o gwmnïau.

Mae’r gwaith yn parhau i ddatblygu rhagor o opsiynau i gefnogi’r busnesau hyn, nad ydynt wedi gallu derbyn cymorth hyd yn hyn, megis cwmnïau newydd sydd ddim yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm Llywodraeth y DU i’r Hunangyflogedig.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19.