Neidio i'r prif gynnwy

O wersylla moethus i fwyty pum seren gyda ystafelloedd a thafarn hanesyddol - mae busnesau lletygarwch newydd a rhai sydd wedi'u hadnewyddu wedi agor eu drysau cyn y tymor twristiaeth newydd gyda chymorth Cronfa y Busnesau Micro a Bychan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Sandy Mount House yn Rhosneigr wobr Croeso Cymru am Fwyty 5 seren gydag Ystafelloedd cyn y Pasg a hefyd Wobr Aur Croeso Cymru - rhestr flynyddol sy'n cydnabod busnesau llety sy'n cynnig y safonau uchaf a chyfforddusrwydd a lletygarwch eithriadol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn £260,000 gan Y Gronfa Busnesau Micro a Bychan trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Gyda cyfanswm buddsoddiad o dros £2 filiwn, mae hen adeilad Sandymount ar Stryd Fawr Rhosneigr wedi cael ei adnewyddu'n gyfan-gwbl i greu lleoliad moethus a chyfoes sy'n boblogaidd iawn gyda'r bobl leol ac ymwelwyr.

Yn dilyn eu gwyl banc cyntaf, dywedodd perchennog Sandy Mount House, Louise Goodwin:

"Rydyn ni wrth ein boddau bod Sandy Mount House wedi ei groesawu gan y bobl leol a'r ymwelwyr. Mae'r grant wedi helpu i drawsnewid yr adeilad hwn yn rhywle gwych arall ar Ynys Môn ac rydym yn falch o fod yn bartneriaid i Lywodraeth Cymru.

Mae Canvas and Campfires ym Mhant yr Hwch ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, ac mae wedi agor yn ddiweddar gyda pump o bebyll saffari moethus - Seren, Afon, Aderyn, Enfys a Dyffryn - ble y gall ymwelwyr fwynhau y profiad o wersylla moethus. Cafodd y prosiect £25,000 gan y Gronfa Busnesau Micro a Bychain.

Meddai Ellie Waters, Canvas and Campfires:

"Cawsom ddechrau gwych i'r tymor. Roeddem yn llawn dros y Pasg a chawsom adborth gwych gan bawb fu'n aros. Mae ein gwesteion wedi mwynhau'r gwelliannau i'r safle'n fawr, fel ein twb poeth wedi'i gynhesu â pren, ble y gallant nawr eistedd a gwylio'r haul yn machlud mewn moethusrwydd llwyr.

Mae'r Three Eagles yn Llangollen yn dafarn hanesyddol yng nghanol Llangollen sydd wedi'i hadfer yn ofalus i ddarparu bwyty a bar newydd yn y dref.

Gyda chymorth £120,000 gan yr MSBF, agorodd y Three Eagles eu drysau ddiwedd Rhagfyr 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Mae eisoes wedi'i restru fel y bwyty gorau yn Llangollen ar Trip Advisor gyda'r addurno mewnol o safon uchel wedi creu argraff ar nifer o'r cwsmeriaid sydd eisoes wedi dod drwy'r drysau.

Meddai Shelley Davies o The Three Eagles;

"Gyda chymorth cyllid MSBF roedd modd inni wneud y gorau o'r adeiladau a chreu lleoliad unigryw sydd wedi denu nifer o westeion. Roedd ein gwyl banc cyntaf dros y Pasg yn llwyddiant mawr pan fu inni gyflwyno bwyta awyr agored.