Grant i annog a chefnogi pobl i ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae £400,000 ar gael y flwyddyn i wella ymgysylltiadau â democratiaeth.
Gwybodaeth am y grant
Mae ein Rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i leihau'r diffyg democrataidd.
Mae'r grant hwn yn cefnogi ein nod o sicrhau bod pob dinesydd yn gallu ymgysylltu â democratiaeth.
Ein nod yw cyllido amrywiaeth o sefydliadau er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd pob grŵp. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau lledaeniad daearyddol. Bydd y panel grantiau yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau.
Pwy all ymgeisio am y grant?
- Sefydliadau o Gymru sydd wedi eu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau.
- Sefydliadau 'dielw'.
- Awdurdodau lleol yng Nghymru.
Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynnig gweithio mewn partneriaeth a gweithio ar y cyd. Dylai fod un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel deiliad y grant a'r rheolwr data.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd â chysylltiadau gwleidyddol.
Meini prawf angenrheidiol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â Phartneriaeth Ymgysylltu Democrataidd Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn cyfarfod yn rheolaidd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnig gwerthusiad ar ddiwedd cyfnod y grant.
Sut i ymgeisio
1. Ymgeisiwch drwy lenwi'r ffurflen gais.
Mae dwy ffurflen gais ar gyfer prosiectau sy'n gofyn am arian. Cyfeiriwch at y canllawiau i sicrhau bod y ffurflen gywir yn cael ei defnyddio.
Gallwch gyflwyno gwybodaeth ychwanegol rydych chi'n ei hystyried yn ddefnyddiol i gefnogi eich cais. Gall hyn fod yn gynlluniau prosiect, cynlluniau cyfathrebu, diagramau sefydliadau a pherthnasau.
2. E-bostiwch eich cais cyflawn at: Etholiadau.Elections@llyw.cymru.
Byddwn yn ysgrifennu at Ymgeisydd Arweiniol pob cais i roi gwybod iddynt beth yw’r canlyniad.
Llinell amser a gwybodaeth bellach
Rydym yn bwriadu agor cymaint o ffenestri cais grant â phosibl drwy gydol y flwyddyn. Rhaid derbyn ceisiadau am gyllid dros £1000 yn ystod cyfnod ymgeisio. Gellir cyflwyno ceisiadau am £1000 neu lai ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Dyddiadau a gwybodaeth allweddol i'w hystyried:
- 31 Mawrth 2025: agorir ffenestr ymgeisio grant.
- 9 Mai 2025: cau'r cyfnod ymgeisio am grant.
- 22 i 23 Mai 2025: ceisiadau wedi'u hasesu gan banel.
Ar ôl cau'r ffenestr ymgeisio, bydd ein panel grant yn cwrdd i asesu ceisiadau. Yna bydd sefydliadau'n cael gwybod am y penderfyniad yn ogystal â'r camau nesaf.
- 2 Mehefin 2025: dyddiad cychwyn ar gyfer ceisiadau llwyddiannus.
- 31 Mawrth 2026: diwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.