Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 13 Ionawr) wedi dangos sut mae grant o £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod yn ‘gwneud gwahaniaeth go iawn’ i ysgolion ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r adroddiad yn dangos sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd o ran lleihau maint dosbarthiadau babanod yn yr ysgolion a dargedwyd ers lansio’r grant ym mis Ebrill 2017.

Roedd lleihau maint dosbarthiadau babanod yn rhan allweddol o’r Cytundeb Blaengar rhwng Kirsty Williams a Phrif Weinidog Cymru. Yn unol â thystiolaeth ryngwladol, mae’r polisi’n targedu’r ysgolion a fyddai’n elwa fwyaf ar gael dosbarthiadau llai, fel ysgolion â lefelau uchel o amddifadedd, anghenion dysgu ychwanegol a/neu lle mae angen gwella'r addysgu a'r dysgu.

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:

  • mae’r grant yn talu am 110 o athrawon ychwanegol, 42 o gynorthwywyr dysgu ychwanegol a 52 o ystafelloedd dosbarth ychwanegol a chyfleusterau gwell mewn 115 o ysgolion ledled Cymru;
  • mae canran y dosbarthiadau sy’n cynnwys dros 30 o fabanod neu ddysgwyr eraill wedi lleihau ers cyflwyno’r grant, gan leihau maint y dosbarthiadau ym mhob ysgol a dargedwyd;
  • mae nifer yr ysgolion yng nghategorïau coch neu oren y system categoreiddio ysgolion wedi lleihau yn ystod cyfnod y grant.

Ers ei gyflwyno, mae 388 o ddosbarthiadau babanod wedi elwa ar y polisi, gyda’r canlyniad fod 770 dysgwr yn ychwanegol mewn dosbarthiadau o lai nag 20, a 2,592 yn llai o ddysgwyr mewn dosbarthiadau o 29 a throsodd.

I gyd-fynd â chyhoeddi’r adroddiad, aeth y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i Ysgol Gynradd Penyrheol yn Abertawe - ysgol sydd wedi elwa, drwy’r prosiect, ar ddau athro ychwanegol, dau gynorthwyydd addysg a £162,812 o gyllid cyfalaf ar gyfer ystafelloedd dosbarth ychwanegol.

Maint dosbarthiadau babanod yr ysgol erbyn hyn yw 23 ar gyfartaledd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

Dw i eisiau i athrawon gael amser i addysgu ac i blant gael lle i ddysgu a dyma pam dw i wedi ymroi i leihau maint dosbarthiadau yn ein hysgolion.

Mae lleihau maint dosbarthiadau yn elfen allweddol o genhadaeth ein cenedl i godi safonau a chreu cyfleoedd i’n holl bobl ifanc fel bod gan bob person ifanc gyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf ac i wireddu eu potensial yn llwyr.   

Mae lleihau llwyth gwaith athrawon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru – mae dosbarthiadau llai o faint yn ysgafnhau’r baich ac ar yr un pryd yn cynyddu’r amser y gall athrawon ei dreulio â disgyblion ac yn gwella ansawdd yr amser hwnnw. Rydw i wrth fy modd â’r cynnydd a ddangoswyd yn yr adroddiad heddiw.

Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Gynradd Penyrheol, Alison Williams:

Mae’r cyllid ychwanegol a roddwyd gan y Gweinidog Addysg wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r plant yn Ysgol Gynradd Penyrheol.

Mae wedi ein helpu i gyflogi staff ychwanegol ac adnewyddu’r lle yn hyfryd, ac mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.