Neidio i'r prif gynnwy

Swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn bresennol

James Biott
Ann Burgoyne
Erika Dawson-Davies

Meini prawf ariannu a chymhwystra

A yw hygyrch i'r cyhoedd ond gyda chanlyniadau economaidd yn cyfeirio at gynhyrchion pren er enghraifft?

Bydd angen i goetiroedd a fydd yn dod yn rhan o Goedwig Genedlaethol i Gymru gyflawni'r canlyniadau hanfodol, h.y. coetiroedd hygyrch o ansawdd da sy'n cael eu rheoli'n dda, sy'n cynnwys y gymuned. Cyn belled â bod y canlyniadau hyn yn cael eu bodloni (neu fod gwaith yn cael ei wneud i'w cyflawni) gallai gynnwys coetiroedd sy'n tyfu pren i'w gynaeafu.

Os nad yw safle arfaethedig o fewn ffin yr ardaloedd a sgoriwyd ar gyfer creu coetiroedd, ai'r sefyllfa yw na fydd yn cael ei ystyried?

Nid yw cymhwystra wedi'i gyfyngu i ardaloedd a sgoriwyd ar gyfer creu coetiroedd. Awgrymwn eich bod yn ymgynghori â'r Map Cyfleoedd Coetir i weld ble mae'r cyfleoedd i blannu yn eich ardal: http://lle.llyw.cymru/apiau/cyfleoeddcoetir

A ellid gwneud cais i wella coetir Gwarchodfa Natur Leol yn 2020/21?

Mae Cynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn agored i geisiadau gan dirfeddianwyr a'r rhai sydd â rheolaeth lawn dros dir. Byddai angen i'r gwelliant fodloni'r meini prawf cymhwystra fel yn llyfryn rheolau grant TWIG

A ellir defnyddio'r arian i dalu am ail-blannu ar Lwybrau Cenedlaethol, Llwybr Arfordir Cymru neu lwybrau beicio mynydd, tra byddant yn cyflawni gwaith cynnal a chadw neu ddatblygu?

Cyn belled â bod y prosiect yn cyd-fynd â'r meini prawf cymhwystra a Chanlyniadau’r Goedwig Genedlaethol i Gymru, yna gellir ei gynnwys.

A ellir clirio ardaloedd adfywio pren meddal mewn coedwig pren caled sy'n bodoli eisoes?

Oes, fodd bynnag, mae angen i'r prosiect yn ei gyfanrwydd fodloni'r meini prawf cymhwystra. Bydd pob prosiect yn cael ei asesu i ddechrau ar ei werth am arian, i ba raddau mae'n cyd-fynd â'r weledigaeth hirdymor ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, a oes modd ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2022 a chynaliadwyedd hirdymor y coetiroedd.

A yw adfywio naturiol yn gymwys?

Ydy, fodd bynnag, mae angen i'r prosiect yn ei gyfanrwydd fodloni'r meini prawf cymhwystra. Bydd pob prosiect yn cael ei asesu i ddechrau ar ei werth am arian, sut mae'n cyd-fynd â'r weledigaeth hirdymor ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, a oes modd ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2022 a chynaliadwyedd hirdymor y coetiroedd.

A oes modd cyflwyno cais am arian yn dybiannol ar gyfer prosiectau yn eu camau cynnar?

Oes, cyn belled â bod modd rhagweld y bydd yr holl hawliadau'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn unol â'r proffil cyflawni y cytunwyd arno ac erbyn 31 Mawrth 2022 fan bellaf. Dim ond ar wariant sydd wedi'i dalu y gellir talu grantiau, hynny yw, ar daliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.

A yw'r cynllun yn darparu arian ar gyfer rheoli coetir sydd newydd ei sefydlu yn barhaus?

Cynllun blwyddyn yn unig yw TWIG, felly rhaid cwblhau unrhyw waith o dan y cylch hwn erbyn 31 Mawrth 2022.

A oes rhaid i'r arian gefnogi'r holl ganlyniadau neu un o leiaf?

Does dim rhaid iddo gefnogi'r holl Ganlyniadau, ond bydd y cais yn gryfach po fwyaf o Ganlyniadau y mae'n eu cefnogi'n sylweddol.

A yw TWIG yn gymwys ar gyfer plannu trefol, er enghraifft gan gynnwys arian ar gyfer pyllau coed a seilwaith?

Gall plannu trefol fod yn gymwys cyn belled â bod y Prosiect yn gallu dangos sut y bydd y gwaith yn helpu'r coetir i fodloni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol (gweler Atodiad 1 llyfryn rheolau grant TWIG i gael rhagor o wybodaeth) neu sut y mae'n gweithio tuag at eu bodloni o leiaf:

Canlyniadau Hanfodol:

  • Coetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi'u cynllunio’n dda ac sy’n cael eu rheoli’n dda
  • Coetiroedd sy'n hygyrch i bobl
  • Bod y gymuned yn cyfrannu at y coetir

Canlyniadau Hynod Ddymunol:

  • Coetiroedd Cysylltiedig
  • Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas
  • Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi

Rhaid i brosiectau sy'n gofyn am arian gyd-fynd â'r canlyniadau hyn a gwneud cyfraniad i'r weledigaeth hirdymor drosfwaol ar gyfer Coedwig Genedlaethol.

A yw TWIG yn gymwys ar gyfer gweithredu coetir pori, er enghraifft plannu coed gwasgaredig mewn tir pori presennol?

Ydy, os gellir dangos ei fod yn bodloni'r canlyniadau, cyfrannu at y weledigaeth ar gyfer y Goedwig Genedlaethol a bodloni'r meini prawf cymhwystra e.e. gwariant o £10 mil ac ati.

A oes angen i chi gael rhif CRN (Cyfeirnod y Cwsmer) i allu gwneud cais?

Oes, Cyfeirnod Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru yw hwn.

O ran hygyrchedd a yw gwella llwybrau a darparu cyfleusterau fel toiledau newydd/toiledau i'r anabl yn briodol?

Ystyrir bod yr enghreifftiau hyn yn briodol gan ein bod am i'r Goedwig Genedlaethol fod ar gael i bawb cyn belled ag y bo modd. Bydd pob cais yn cael ei adolygu ar sail sut mae'r prosiect yn ei gyfanrwydd yn bodloni'r meini prawf. Bydd yn ofynnol i'r Prosiect ddangos sut y bydd y gwaith yn helpu'r coetir i fodloni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol (gweler Atodiad 1 llyfryn rheolau grant TWIG i gael rhagor o wybodaeth) neu sut y mae'n gweithio tuag at eu bodloni o leiaf:

Canlyniadau Hanfodol:

  • Coetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi'u cynllunio’n dda ac sy’n cael eu rheoli’n dda
  • Coetiroedd sy'n hygyrch i bobl
  • Bod y gymuned yn cyfrannu at y coetir

Canlyniadau Hynod Ddymunol:

  • Coetiroedd Cysylltiedig
  • Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas
  • Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi

Rhaid i brosiectau sy'n gofyn am arian gyd-fynd â'r canlyniadau hyn a gwneud cyfraniad i'r weledigaeth hirdymor drosfwaol ar gyfer Coedwig Genedlaethol.

A yw cwympo coed sy'n farw neu'n heintus yn gymwys?

Byddai angen i gwympo coed marw neu heintus fod yn rhan fach o brosiect gwella ac nid unig ddiben y prosiect e.e. cael gwared ohonynt am eu bod yn peri risg i iechyd a diogelwch. Bydd pob prosiect yn cael ei asesu i ddechrau ar sail ei werth am arian, sut mae'n cyd-fynd â'r weledigaeth hirdymor ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, a oes modd ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2022 a chynaliadwyedd hirdymor y coetiroedd. Po fwyaf yw'r cyfraniad y gall y prosiect ei wneud at amcanion a chanlyniadau priodol y Goedwig Genedlaethol, y mwyaf tebygol ydyw o gael ei argymell ar gyfer ei ddethol.

A yw meysydd fel mapio coed trefol, nodi cyfleoedd plannu coed yn gymwys?

Nac ydyn, mae'r cynllun yn darparu grantiau i wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU, sydd â'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol.

Pa lefel o gyfranogiad cymunedol sydd ei angen er mwyn i brosiect fod yn gymwys?

Mae dogfen ganllawiau TWIG yn cynnwys rhagor o fanylion am y canlyniadau yn Atodiad 1. Yn ei hanfod, rydym yn chwilio am dystiolaeth eich bod neu y byddwch yn estyn allan at gymunedau lleol er mwyn iddynt gael dweud eu dweud ynghylch y cynlluniau ar gyfer y coetir. Lle y bo'n briodol, gall hyn olygu eu bod yn cymryd rhan yn y gwaith o blannu a rheoli'r coetir.

Bydd rhagor o fanylion am y canlyniadau yn y cynllun Statws Coedwig Genedlaethol sydd i'w gyhoeddi'n ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mewn ardaloedd o goetiroedd heb eu rheoli'n ddigonol lle nad oes ardaloedd helaeth sy'n addas ar gyfer plannu newydd, a yw datblygu dull rheoli a mynediad o ddatblygu coetiroedd presennol yn y dyfodol yn gymwys?

Ydy, mae'r cyllid ar gyfer coetiroedd newydd a/neu goetiroedd sy'n bodoli eisoes.

A yw mapio cyfleoedd plannu coed gan Awdurdodau Lleol wedi'i gynnwys mewn ceisiadau TWIG sy'n ymwneud â Threfi Coed a'r goedwig drefol sy'n datblygu neu'n ehangu?

Nac ydy, nid yn y cylch ariannu presennol. Diben y cynllun hwn yw darparu grantiau i wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU, sydd â'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol.

A yw bod mewn ardal sgorio isel ar gyfer Map Cyfleoedd Coetir Glastir yn llesteirio'r siawns o fod yn gymwys o dan TWIG?

Nac ydy, bydd pob prosiect yn cael ei asesu i ddechrau ar ei werth am arian, i ba raddau mae'n cyd-fynd â'r weledigaeth hirdymor ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, a oes modd ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2022 a chynaliadwyedd hirdymor y coetiroedd.

A ellid defnyddio cyllid TWIG i gysylltu cymuned â choetir i helpu i wella Teithio Llesol / Hygyrchedd?

Gellid, ond yn ddelfrydol byddai'n rhan o brosiect yn hytrach na'r unig ffocws ar gyfer y cyllid, gan fod y cynllun yn darparu grantiau i wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Amserlenni

Mae'r amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau a chyflawni prosiectau yn dynn iawn ar gyfer prosiectau creu coetiroedd mawr a all gymryd misoedd lawer i gael cymeradwyaeth AEA a chymeradwyaeth grant. A fydd y prosesau cymeradwyo'n cael eu symleiddio i'w gwneud yn haws i dirfeddianwyr preifat wneud cais?

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r amserlenni eleni'n ddelfrydol ar gyfer prosiectau creu coetiroedd mawr ac ni fydd rhai prosiectau'n bosibl o fewn yr amserlen. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn deall y bydd prosiectau, mewn rhai achosion, yn mynd drwy'r prosesau cydsynio ar hyn o bryd, ac na fyddant felly'n gallu cael pob caniatâd yn ei le wrth wneud cais. Felly, yn yr achos hwn, derbynnir ceisiadau cyn y cytundebau angenrheidiol. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i'r cytundebau hyn gael eu nodi yn y cais a bydd yn ofynnol eu cael cyn i'r prosiect ddechrau. Bydd methu â chael y trwyddedau a'r cytundebau angenrheidiol yn eu lle erbyn y dyddiadau y cytunir arnynt yn y cais yn arwain at dynnu dyfarniad grant yn ôl.

Ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu nes bod y drwydded wreiddiol a/neu'r dogfennau cymeradwyo cytundeb wedi'u derbyn a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Pam mae'n derfyn amser mor dynn?

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r amserlenni eleni yn ddelfrydol ar gyfer llawer o brosiectau creu coetiroedd ac ni fydd rhai prosiectau'n bosibl o fewn yr amserlen. Fodd bynnag, rydym yn gweithio dan gyfyngiad dyraniad cyllideb blwyddyn.

Bydd pob cais yn cael ei asesu ar ôl y dyddiad cau (27 Awst), mae angen i ni ganiatáu digon o amser i'r tir gael ei baratoi ac i'r plannu ddigwydd cyn i'r costau gael eu talu ac i grantiau gael eu hawlio cyn 31 Mawrth 2022.

Mewn cyfnod mor fyr, sut y rhagwelir y bydd ymgeiswyr yn gallu llunio prosiect hirdymor sy'n seiliedig ar goetir a chyflwyno eu cais erbyn diwedd mis Awst yn ogystal â gwario hyd at £250 mil erbyn mis Mawrth nesaf?

Deallwn efallai na ellir cyflawni hyn ar gyfer pob prosiect creu coetir, ond eleni rydym yn gaeth i amserlen gyllideb fer. Os oes gennych brosiect a allai greu coetir Coedwig Genedlaethol o bosibl, ond na ellir ei gyflawni eleni o dan y cynllun hwn, hoffai tîm y Goedwig Genedlaethol glywed gennych i'n helpu i ddatblygu a mireinio'r cynllun ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Mae angen rheoli coed sydd newydd eu plannu yn barhaus dros gyfnod o flynyddoedd wrth iddynt sefydlu, sut mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cynllun sy'n gofyn am wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol? A oes perygl y bydd coed a gaiff eu plannu yn methu o dan y dull hwn?

Rydym yn cydnabod bod cynnal a chadw hirdymor yn hanfodol ar gyfer coetiroedd o safon. Mae'r cynllun yn darparu grantiau i wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd, sydd â'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol, yn unol â Safon Coedwigaeth y DU. Fel rhan o'r cais, bydd angen darparu cynllun rheoli sy'n nodi sut y caiff y coed eu cynnal a chadw. Mae TWIG yn gofyn am ymrwymiad o 20 mlynedd a mwy.

Drwy ariannu prosiect yn y tymor byr sy'n gofyn am ymrwymiad hirdymor sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu i reoli coetiroedd presennol neu goetiroedd sydd newydd eu plannu yn yr hirdymor fel rhan o'r fenter hon?

Dim ond am flwyddyn y mae gennym fynediad at gyllid ar hyn o bryd. Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Rhaglen y Goedwig Genedlaethol bydd ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni a fydd yn mynd i'r afael â meysydd fel hyn.

Cydnawsedd cyllid

A oes unrhyw gyfyngiadau pan fydd safle wedi bod yn llwyddiannus drwy TWIG ac yna yn y dyfodol am wneud cais am fwy o arian grant neu dderbyn taliadau o ffynonellau eraill fel buddsoddiadau preifat ar gyfer gwasanaethau ecosystem / taliadau cyfalaf naturiol?

Ni fydd TWIG yn cyfyngu ar gyllid yn y dyfodol. Mae Adran F yn llyfryn rheolau grant TWIG yn rhoi rhagor o fanylion am fonitro'r prosiect.

A ellir cyfuno TWIG â chyllid arall sydd eisoes wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau?

Gellir cyfuno TWIG â chyllid arall – bydd pob achos yn cael ei asesu i sicrhau nad oes unrhyw 'gyllido dwbl' h.y. pob ffynhonnell ariannu sy'n talu am yr un gwariant.

Bydd angen i'r dystiolaeth ddangos sut mae'r cyllid yn cyd-fynd â Chanlyniadau’r Goedwig Genedlaethol i Gymru, gweler llyfryn rheolau TWIG i gael rhagor o wybodaeth '... cyfuno grantiau TWIG â ffrydiau ariannu eraill. Er enghraifft, os ydych wedi plannu coetir newydd yn ddiweddar, neu ar fin gwneud hynny, drwy arian o ffynonellau eraill, megis Cynllun Creu Coetir Glastir Llywodraeth Cymru neu fuddsoddi preifat, ac mae agweddau ar y coetir y gellid eu gwella â chyllid ychwanegol gan y cynllun hwn e.e. i greu mynediad newydd neu well ar gyfer y cyhoedd.’

Pwy all wneud cais

A yw'r cynllun yn agored i grwpiau sydd â chytundeb rheoli ar hyn o bryd ar gyfer coetir Cyfoeth Naturiol Cymru?

Mae TWIG yn agored i geisiadau gan bob tirfeddiannwr a'r rhai sydd â rheolaeth lawn dros dir ar gyfer coetiroedd y tu hwnt i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, felly yn yr achos hwn mae'n annhebygol y byddech yn gallu gwneud cais.

A yw Awdurdodau Lleol yn gymwys i wneud cais?

Ydyn, mae'r cynllun yn agored i geisiadau gan bob tirfeddiannwr a'r rhai sydd â rheolaeth lawn dros dir.

Meysydd cysylltiedig â chyfalaf

Pa ganran o'r cyllid sydd ar gael ar gyfer eitemau cyfalaf?

Gall cyllid fod yn gyfalaf o 100%.

Gellir cynnwys uchafswm o 10% o gostau prosiect refeniw yn y cais.

Ar gyfer grwpiau gwirfoddol cymunedol nad oes ganddynt y gallu i gyflawni coetiroedd newydd at ddibenion cymdeithasol yn ogystal â natur heb unrhyw gydgysylltu â thâl, a fydd cronfa sy'n galluogi cymhareb uwch o refeniw i gyfalaf?

Na fydd, mae cyllid TWIG yn caniatáu uchafswm o hyd at 10% o gyfanswm cost y prosiect, ar gyfer gwariant refeniw.

Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Rhaglen y Goedwig Genedlaethol bydd ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni a fydd yn mynd i'r afael â meysydd fel hyn.

A ellir gwneud eithriadau ar gyfer grwpiau sy'n gwbl wirfoddol?

Ni ellir gwneud unrhyw eithriadau o fewn y gronfa grant hon.

A oes modd gwario'r cyllid tuag at gyflogaeth er mwyn cael cymorth ychwanegol?

Oes, mae cyllid refeniw hyd at 10% o gyfanswm cost y prosiect ar gael i ariannu'r gwaith o wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd a all gynnwys gwariant tuag at gyflogaeth.

A fyddai cyllid yn cael ei ystyried ar gyfer seilwaith i ddiogelu ardaloedd adfywio naturiol e.e. gerllaw safleoedd coetir hynafol presennol?

Gellid ei ystyried. Mae TWIG yn darparu cyllid ar gyfer ffensio ac ati.

A ellir defnyddio'r grant i ariannu prynu tir?

Gellir ariannu prynu tir, ond am ddim mwy na 10% o gyfanswm cost y prosiect.

A oes modd defnyddio cyllid TWIG i brynu llain o dir diffaith a fyddai'n cael ei blannu'n llawn â choed a'i ddarparu i'r gymuned leol?

Oes, gellir ariannu prynu tir, ond am ddim mwy na 10% o gyfanswm cost y prosiect.

Math o goetir / coed

A oes canllawiau o ran pa rywogaethau o goed i'w plannu (e.e. rhywogaethau brodorol, rhywogaethau sy'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd etc.)?

Nid oes meini prawf penodol o ran pa goed i'w plannu ar gyfer TWIG, ond rydym yn cefnogi syniad 'y goeden gywir ar gyfer y lle cywir' ac mae'r holl waith i'w wneud yn unol â Safon Coedwigaeth y DU. I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar reoli a gwella coetiroedd, ewch i:

Beth yw'r gyfran o goed conwydd o gymharu â choed llydanddail yr ydych yn gobeithio eu plannu?

Nid oes targed wedi'i osod.

O ran bod coetiroedd newydd yn cyd-fynd â Safonau Coedwigaeth y DU, a yw hyn yn golygu mai dim ond conwydd yn hytrach na chollddail fydd coedwigoedd newydd?

Nac ydy, mae Safonau Coedwigaeth y DU yn berthnasol i bob coetir.

Yn aml, mae pobl yn canolbwyntio ar dir gwael o safbwynt amaethyddol ar gyfer creu coetiroedd. Yn aml mae hwn yn dir o werth uchel o ran bioamrywiaeth, tirwedd, diwylliannol/hanesyddol. Pwy sy'n penderfynu pa gynefin sy'n cael blaenoriaeth - coetir newydd neu laswelltiroedd heb eu gwella/wedi'u lled-wella, ardaloedd o brysgwydd gwasgaredig ac ati sydd mor bwysig ar gyfer llawer o fflora a ffawna?

Nid oes blaenoriaeth o ran cynefin ar hyn o bryd. Asesir pob cais am TWIG ar sail y meini prawf a amlinellir yn y canllawiau.

Elfen mynediad i'r cyhoedd

Ai dim ond coetiroedd cyhoeddus neu'r rhai a fydd yn dod yn goetiroedd cyhoeddus y bydd y gronfa'n eu cefnogi?

Coetiroedd sy'n hygyrch i bobl yw un o ganlyniadau hanfodol y Goedwig Genedlaethol i Gymru. Felly, bydd angen i ni weld tystiolaeth ei bod yn hygyrch i'r cyhoedd yn awr neu fod hynny'n rhan o'r cynllun yn y dyfodol, unwaith y bydd y coetir wedi cael ychydig flynyddoedd i sefydlu, er enghraifft.

Pa gyfran o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru sy'n hygyrch i'r cyhoedd? 

Cyfeiriwch at Cyfoeth Naturiol Cymru i gael y wybodaeth hon: Cyfoeth Naturiol Cymru / Lleoedd i ymweld â hwy

A yw'r agwedd mynediad cyhoeddus ar sail ganiataol neu am byth?

Mae hyn yn benodol i'r safle. Mae TWIG yn gofyn am ymrwymiad o 20 mlynedd a mwy.

A oes angen i'r ardal lawn a blennir fod yn hygyrch?

Diben y cyllid yw helpu coetiroedd i weithio tuag at fod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Wrth weithio tuag at hyn, rydym yn deall efallai na fydd rhai ardaloedd ar gael i ddechrau, yn yr hirdymor disgwylir y byddant yn hygyrch. Ond rydym yn sylweddoli y gallai fod rhai ardaloedd y mae angen eu cyfyngu i'r cyhoedd am gyfnod amhenodol.

A oes angen i fynediad cyhoeddus fod yn gwbl agored neu a all fod ar sail reoledig megis ar ddiwrnodau agored rheolaidd?

Disgwylir y bydd coetiroedd ar gael i'r cyhoedd gydol y flwyddyn gan fod hwn yn ganlyniad allweddol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, ond nid oes angen i'r safle cyfan fod ar agor i'r cyhoedd os oes rhesymau da dros beidio â gwneud hynny.  

Beth fydd yn cyfarwyddo'r cyhoedd i gael mynediad i'r safleoedd? Map neu wefan o goedwigoedd?

Bydd pob safle'n cael ei frandio'n Goedwig Genedlaethol i Gymru ac mae gwybodaeth am y safle ar gael ar hyn o bryd ar Coedwig Genedlaethol i Gymru: safleoedd coetiroedd | LLYW.CYMRU . Yn y dyfodol efallai y byddwn yn datblygu adnoddau eraill i annog pobl i ymweld â safleoedd, fel ap.

Ennill statws Coedwig Genedlaethol

Sut ydw i'n trefnu bod ardaloedd o goetir yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn bodloni'r safonau a ddisgwylir?

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am sut y gall coetiroedd ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn ddiweddarach eleni.

Ble mae gwybodaeth am pam mae'r safleoedd enghreifftiol wedi'u dewis?

Mae'r wybodaeth ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru: Safleoedd Enghreifftiol y Goedwig Genedlaethol i Gymru

 

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol/hirdymor

A fydd y cynllun ariannu nesaf (tebyg) yn darparu amserlen hirach i lunio ceisiadau o safon?

Y gobaith yw y bydd hyn yn digwydd.

Pryd ydych chi'n rhagweld y bydd y rownd nesaf yn agor?

Mae hyn yn dibynnu ar y dyraniad cyllid, y gobaith yw y bydd hyn yn bosibl ym mlwyddyn ariannol 2022/23.

Beth fydd y cymorth tymor hwy ar gyfer rheoli coetiroedd?

Bydd hyn yn rhan o ddatblygiad y Goedwig Genedlaethol i Gymru ar ôl yr ymgynghoriad. Disgwylir i'r ymgynghoriad gael ei ryddhau yn ddiweddarach eleni.  

Y broses gofrestru a chymhwyso

A oes pecynnau gwybodaeth am y cynllun/grant y gellid eu postio at bobl?

Gallwch gysylltu â'r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich anghenion.

A yw'r cwestiynau cais ar gael heb fewngofnodi i RPW Ar-lein?

Ydyn, gellir gweld y wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/coedwig-genedlaethol-i-gymru-y-grant-buddsoddi-mewn-coetir 

Faint o amser fydd gofyn i'r ymgeisydd ei dreulio ar y broses ymgeisio?

Bydd hyn yn dibynnu ar faint a chymhlethdod y prosiect. Rydym yn treialu ffurflen newydd, a fydd, gobeithio, yn gwneud y broses yn gyflymach ac yn symlach i ymgeiswyr a Llywodraeth Cymru.

Gweler y llyfryn rheolau grant TWIG i gael rhagor o wybodaeth am y broses.

Caiff llawer o anghenion / rhifau / cofrestriadau eu crybwyll. A allwch egluro'r rhain ar gyfer grwpiau cymunedol?

Mae'r broses yr un fath ar gyfer pob ymgeisydd.

Gweler y llyfryn rheolau grant TWIG i gael rhagor o wybodaeth am y broses.

Beth yw rhif CRN?

CRN (Cyfeirnod y Cwsmer) yw'r rhif a roddir i chi pan fyddwch yn creu cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Mae Taliadau Gwledig Cymru yn defnyddio'r rhif hwn i gysylltu â'ch cais. Gallwch gael Cyfeirnod y Cwsmer drwy gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru, canolfan cyswllt cwsmeriaid - 0300 062 5004 neu wneud cais ar-lein: RPW Ar-lein: sut i gofrestru | LLYW. CYMRU

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda Taliadau Gwledig Cymru byddwch yn gallu defnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein i wneud y canlynol:

  • Cwblhau Datganiadau o Ddiddordebau (EOIs) a Cheisiadau
  • Cael eich hysbysu drwy neges destun neu e-bost am unrhyw ddiweddariadau pwysig
  • Gwirio statws unrhyw hawliadau byw neu barhaus
  • Gofyn ac ymateb i ymholiadau gan Taliadau Gwledig Cymru, gan gynnwys lanlwytho dogfennau
  • Diweddaru manylion eich busnes
  • Rhoi caniatâd i gynrychiolwyr Undebau Ffermio ac Asiantwyr gwblhau busnes ar eich rhan, os dymunwch
  • Ychwanegu a rheoli Daliadau (CPH).

Sut i greu cyfrif RPW

Gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif RPW ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/rpw-ar-lein-sut-i-gofrestru

Mae gwybodaeth am y broses ar gyfer TWIG yn benodol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru hefyd: https://llyw.cymru/coedwig-genedlaethol-i-gymru-y-grant-buddsoddi-mewn-coetir-gan-ddefnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais

Cwestiynau cyffredinol

Faint yw’r gost o gael cynllun rheoli coetir wedi'i ysgrifennu'n broffesiynol?

Bydd cost cynllun rheoli yn dibynnu ar lawer o ffactorau gan gynnwys maint y coetir a pha mor gymhleth yw'r safle.

A oes cyllideb weithredu ar gael fel bod cymunedau yn gallu talu arbenigwyr i lunio ceisiadau?

Nac oes. Rydym yn awgrymu y dylech siarad â Llais y Goedwig am arweiniad yn y lle cyntaf. 

A yw elfennau coed a llwyni gwrychoedd, perllannau, coed mewn caeau, rhesi o goed ger ffiniau caeau, coed stryd trefol ac ati wedi'u cynnwys a'u hariannu'n ddigonol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio?

Diben y cynllun yw darparu grantiau i wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU, sydd â'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Rydym yn cydnabod bod sawl math o goed neu goetiroedd sy'n cyfrannu at liniaru newid yn yr hinsawdd, cynyddu bioamrywiaeth a chynefinoedd cynaliadwy, a chefnogi iechyd a llesiant.

A fyddwch yn ymgynghori â Cadw ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru i ystyried anghenion yr amgylchedd hanesyddol?

Byddwn, pan fydd hynny'n briodol. Gweler y Map Cyfleoedd Coetir. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd anghenion yr amgylchedd hanesyddol, cynefinoedd sefydledig a bioamrywiaeth (dull y goeden fwyaf priodol yn y man mwyaf addas).

A yw'r prosiect hwn yn cael ei ariannu drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig?

Nac ydy. Mae'n cael ei ariannu trwy gyllideb Rhaglen y Goedwig Genedlaethol i Gymru.

A oes diddordeb mewn buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer gweithio mewn coetiroedd?

Oes, mae diddordeb. Trafodwyd y mater hwn yn ein digwyddiad tri diwrnod ym mis Mawrth eleni. Mae recordiadau o'r digwyddiad ar gael yma: Y Goedwig Genedlaethol - YouTube

Mae rhai coetiroedd gwych ar gael ledled Cymru. Pam nad ydynt wedi'u cynnwys hyd yma?

Mae'r 14 safle enghreifftiol a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yn rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd mwy o goetiroedd yn dod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru maes o law.

Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd | GOV.CYMRU

A yw'r mapiau cysylltedd yn cynnwys coedwigaeth sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru?

Roedd y mapiau a nodwyd yng nghyflwyniad Coedwig Genedlaethol i Gymru yn ystod y digwyddiad TWIG (21 Gorffennaf) yn enghreifftiau o sut y gellid datblygu'r Goedwig Genedlaethol i Gymru dros amser. Nid yw lleoliadau coetir penodol wedi'u defnyddio. Byddai Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (sy'n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru) yn rhan o'r mapiau, er mae'n bosibl nad yw pob rhan ohoni yn Goedwig Genedlaethol.

A yw'r broses o gyflenwi coed wedi'i hystyried fel rhan o'r cyfle ariannu hwn?

Rydym wedi ariannu'r broses o feithrin gallu mewn Planhigfeydd drwy gyllid cyfalaf Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth (FIRS) a'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren (TBIS) eleni er mwyn cynorthwyo'r gwaith hwn. Byddwn yn monitro'r gofyniad am stoc wrth adolygu ceisiadau.

A oes unrhyw gynlluniau i gefnogi planhigfeydd coed newydd i ddarparu stoc?

Rydym wedi ariannu'r broses o feithrin gallu mewn Planhigfeydd drwy gyllid cyfalaf Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth (FIRS) a'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren (TBIS) eleni er mwyn cynorthwyo'r gwaith hwn. Byddwn yn monitro'r gofyniad am stoc wrth adolygu ceisiadau.

Pa mor fawr y mae Llywodraeth Cymru am i'r Goedwig Genedlaethol i Gymru fod?

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn rhaglen hirdymor sy'n cyfateb i raddfa ac uchelgais Llwybr Arfordir Cymru, gan gysylltu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru.

A yw bod yn aelod o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn golygu y bydd y coetir yn cael ei warchod a'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol, yn yr un modd â mewn Cyfamod?

Cynhelir Ymgynghoriad ddiwedd y flwyddyn hon i benderfynu sut y bydd y Goedwig Genedlaethol i Gymru yn cael ei datblygu a'i chyflwyno yn yr hirdymor – am genedlaethau i ddod.

A ragwelir y bydd defnyddwyr gwahanol yn cael mynediad at y Goedwig Genedlaethol i Gymru wrth iddi ddatblygu, neu ai darparu mynediad cyhoeddus ar gyfer cerddwyr yn unig yw'r bwriad?

Wrth gyfeirio at fynediad i'r cyhoedd, rydym am sicrhau mynediad i ddefnyddwyr gwahanol. Yn y pen draw, bydd y cyfan yn seiliedig ar beth sy'n briodol i'r safle.  

Cyflwynwyd tri opsiwn ar gyfer y Goedwig Genedlaethol. Pryd fyddwch chi'n dewis un ohonynt?

Cynhelir Ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni ac rydym yn annog pawb i fynegi barn.  Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar ôl yr Ymgynghoriad er mwyn ystyried pa opsiwn neu ddull sy'n fwyaf addas i'r Goedwig Genedlaethol i Gymru.

 

A fydd cyfleoedd cyllido eraill i ddod â’r ystad goedwig gyhoeddus o fewn y Goedwig Genedlaethol?

Bydd cyfleoedd ariannu ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn cael eu penderfynu trwy drefniadau â Cyfoeth Naturiol Cymru.

A yw'n werth ystyried ardaloedd sydd eisoes yn adfywio'n naturiol (gan gynnwys yn y camau cynnar) ond lle byddai gwaith rheoli/gwarchod yn caniatáu iddynt ddatblygu'n goetiroedd yn gyflymach?

Bydd pob cais sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn cael ei ystyried.

A oes modd i mi gysylltu â chynhyrchwyr eginblanhigion er mwyn trosglwyddo datblygiadau arloesol?

Byddai angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol i holi.

A fydd cymorth ar gael i ariannu dewisiadau amgen ecogyfeillgar e.e. i warchod coed, er y gallent fod yn ddrutach?

Mae dogfen ganllawiau TWIG yn gofyn i ymgeiswyr ystyried materion amgylcheddol ehangach megis defnyddio dewisiadau bioddiraddiadwy yn hytrach na gorchuddion a chlymau coed plastig.

Beth yw cyfradd ymyrraeth y grant?

Cyfradd ymyrraeth y grant yw 100%.

Beth fydd y berthynas rhwng y Goedwig Genedlaethol i Gymru a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd?

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ardaloedd o goetir newydd ac yn helpu i adfer a chynnal rhai o'n coetiroedd hynafol anhepgor. Dros amser, bydd yn creu rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd ledled Cymru. Bydd hyn yn arwain at fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Mae'n bosibl y gallai rhagor o rannau o Barc Rhanbarthol y Cymoedd ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol os ydynt yn cyflawni'r deilliannau dymunol. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am sut y gall coetiroedd ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn ddiweddarach eleni.

Pam mae'r pwyslais ar gyllid yn mynd i ALlau yn hytrach na chymunedau? A oes modd annog ALlau i drosglwyddo darnau o dir nad ydynt yn eu defnyddio i'r Gymuned a mynd ati i dreialu perchnogaeth gymunedol?

Mae'r Grant Buddsoddi mewn Coetir yn agored i bob tirfeddiannwr a'r rhai sy'n rheoli tir - er enghraifft, lle mae cytundeb cyfreithiol ffurfiol ar waith rhwng grŵp Cymunedol a thirfeddiannwr (cyhoeddus neu breifat). Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo prosiectau cydweithredu a chyfranogiad cymunedol.  Mae'r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn brosiect hirdymor sy'n pontio'r cenedlaethau. Dros amser, rydym yn gobeithio gweld coetiroedd o safon ledled Cymru a fydd yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd modd i bobl ymweld â'r coetiroedd hyn a'u mwynhau, ond byddant hefyd yn darparu manteision economaidd i'r gymuned ehangach. Rydym yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a chymunedau yng Nghymru i hyrwyddo'r uchelgais hon ar gyfer Coedwig Genedlaethol i Gymru.

A yw creu coetir Glastir yn gynllun grant ar wahân i hyn?

Ydy.

A yw'r grant coetiroedd cymunedol ar gael o hyd?

Ydy, mae’r manylion ar gael yma: https://www.heritagefund.org.uk/funding/community-woodlands

A fydd recordiad o'r weminar hon ar gael ar ôl y digwyddiad?

Bydd. Cyflwyniad Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG). - YouTube

Allwch chi ddarparu dolen i'r Map Cyfleoedd Coetir?

http://lle.gov.wales/apps/woodlandopportunities/?lang=cy

Dolenni defnyddiol / gwybodaeth bellach

Canllawiau TWIG: https://llyw.cymru/coedwig-genedlaethol-i-gymru-y-grant-buddsoddi-mewn-coetir

Recordio digwyddiad cyflwyno TWIG: Cyflwyniad Grant Buddsoddi Mewn Coetir (TWIG). - YouTube

Sut i gofrestru ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru: RPW Ar-lein: sut i gofrestru | GOV. CYMRU

Safleoedd Coedwig Genedlaethol i Gymru: Coedwig Genedlaethol i Gymru: safleoedd coetiroedd | GOV. CYMRU

Pam y dewiswyd safleoedd enghreifftiol Coedwig Genedlaethol i Gymru: Safleoedd Enghreifftiol Coedwig Genedlaethol i Gymru

Safleoedd Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru / Lleoedd i ymweld â nhw

Rhestr chwarae YouTube Coedwig Genedlaethol i Gymru ar gyfer recordiadau o ddigwyddiadau a deunydd hyrwyddo: Y Goedwig Genedlaethol - YouTube

Map Cyfleoedd Coetir: http://lle.gov.wales/apps/woodlandopportunities/?lang=cy

Llyfryn rheolau grantiau TWIG

Gwybodaeth am y Gronfa Coetiroedd Cymunedol: https://www.heritagefund.org.uk/funding/community-woodlands

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 182 KB.

Maint Ffeil 182 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.