Neidio i'r prif gynnwy

Mae cefn gwlad y Gorllewin ar fin dod yn un o’r prif gyflenwyr gwrthwenwyn ar gyfer Ewrop ac Affrica.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae MicroPharm Ltd yn datblygu cynnyrch imiwnotherapi i drin clefydau heintus a chyflyrau tocsig aciwt ac mae ganddo ddau wrthwenwyn ar y gweill ar gyfer trin brathiadau gan y wiber garped o Orllewin Affrica a'r wiber gyffredin.

Bydd y prosiect ehangu'n costio £2m, gyda Llywodraeth Cymru'n cyfrannu £150k at hwnnw ac yn golygu agor cyfleuster newydd yng Nghilgerran a chadw ei brif safle yng Nghastell Newydd Emlyn. Disgwylir i'r buddsoddiad hwn greu 15 o swyddi a diogelu 14 swydd arall, gan ddod â'r cyfanswm a gyflogir gan y cwmni i 51 .

Golyga y bydd MicroPharm felly, fel Protherics UK Ltd, sef cwmni yn Llandysul sy'n rhan o grŵp BTG International,  yn gyflenwr blaengar ym maes gwrthwenwynau o fewn Ewrop, Affrica ac UDA.

Mae'r clwstwr unigryw hwn o gwmnïau yn y Gorllewin yn cynnwys Ig-Innovations Ltd, hefyd yn Llandysul, yn cynhyrchu gwrthgyrff ar gyfer y sector ymchwil, diagnostig, biodechnegol a fferyllol, gan gynnwys MicroPharm, ac ar gyfer eu gwerthu'n uniongyrchol.

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 
"Mae'n dipyn o gamp bod yr ardal fach hon o gefn gwlad y Gorllewin wedi dod yn arweinydd byd mewn maes hynod arbenigol, cystadleuol ac uchel iawn ei werth. Mae'n dangos unwaith eto yr ystod o arbenigeddau sydd gennym yng Nghymru yn y sector gwyddorau bywyd.
"Mae MicroPharm yn rhan allweddol o'n harbenigedd  fel gwlad ac rwy'n falch iawn y bydd help gan Lywodraeth Cymru yn galluogi'r cwmni i fwrw ymlaen â'i gynlluniau i ehangu ar unwaith. Bydd y cwmni'n defnyddio'r buddsoddiad hwn i ddarparu'r cyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen iddo allu cwrdd â'r cynnydd yn y galw am ei gynnyrch trwy'r byd. Bydd y cwmni'n gallu cynyddu ei ystod o gynhyrchion a datblygu'i waith ymchwil i driniaethau ar gyfer clefydau difaol fel  Clostridium difficile (CDI) ac Ebola.
"Bydd y prosiect ehangu pwysig hwn yn dyfnhau gwreiddiau'r cwmni ymchwil fferyllol a gweithgynhyrchu arbenigol hwn yn y Gorllewin ac yn creu swyddi o'r ansawdd uchaf ar gyfer pobl leol."
Ychwanegodd y Gweinidog Sgiliau  a Gwyddoniaeth, Julie James: 
"Mae sector gwyddorau bywyd Cymru wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf a bydd y cyhoeddiad diweddaraf hwn yn newyddion da i'r gymuned leol, economi ehangach Cymru a'r farchnad fferyllol fyd-eang.
"Fel gwlad gymharol fach, mae Cymru'n gwneud rhyfeddodau o ran datblygiadau gwyddonol ac ymchwil o safon byd ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i helpu cwmnïau arloesol fel MicroPharm i sicrhau bod y sector aruthrol bwysig hwn yn parhau i dyfu yng Nghymru."
Dywedodd Pennaeth MicroPharm, Ian Cameron: 
"Mae'r safle yng Nghastell Newydd Emlyn bellach yn rhy fach i ni a bydd y cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghilgerran yn sylfaen y gall y cwmni dyfu arno at y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru  wedi helpu MicroPharm i dyfu ers ei ddechrau ac rydyn ni'n ddiolchgar iddi am barhau i'n helpu".
Arbenigedd MicroPharm yw ei ystod o gynnyrch imiwnotherapi clinigol - ar gyfer trin argyfyngau aciwt sy'n bygwth bywyd ac sydd eu hangen ar frys naill ai am nad oes triniaeth arall yn bod neu am fod triniaethau eraill yn beryglus neu'n aneffeithiol. 
Yn ogystal â datblygu gwrthwenwynau, mae MicroPharm yn gweithio hefyd ar wrthdocsin risin, hynny yn sgil ennill contract gwerth hyd at £7m gan y Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn (Dstl) ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOS). Mae'n golygu cynhyrchu gwrthgyrff defaid i risin a'u prosesu  i gynhyrchu cynnyrch sy'n addas i'w defnyddio gan bobl. Mae risin yn wenwyn angheuol a does dim gwrthwenwyn yn bod ar ei gyfer.

Mae gan MicroPharm nifer o gynnyrch imiwnotherapi newydd ar y gweill, i drin pobl ac anifeiliaid, rai ohonyn nhw ond yn dechrau cael eu datblygu ac eraill eisoes wedi cyrraedd cam y treialon clinigol ac a ddaw ar y farchnad rhwng 2018-2021.