Prif sefydliadau technoleg a seiber Cymru i gyflwyno Uwchgynhadledd Technoleg ar 1 Mawrth, gyda dirprwyaeth yn ymuno â'r digwyddiad er mwyn chwilio am gyfleoedd masnach.
Mae Llywodraeth Cymru yn dod â rhai o brif fusnesau a sefydliadau Cymru ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, technoleg ariannol ac e-symudedd at ei gilydd i gynnal Uwchgynhadledd Dechnoleg yn Expo 2020 Dubai ar 1 Mawrth. Bydd dirprwyaeth benodol o fusnesau a sefydliadau technoleg Cymru yn ymuno â'r digwyddiad i chwilio am bartneriaethau masnach.
Bydd y digwyddiad, 'Technoleg ar gyfer Symudedd yn y Dyfodol: Grymuso, Diogelu a Moneteiddio' yn arddangos technoleg ac arloesedd seiber o ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ein clwstwr unigryw o led-ddargludyddion cyfansawdd, yn ogystal â'n sectorau seiberddiogelwch a thechnoleg ariannol ffyniannus.
Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio twf e-symudedd, a’r dechnoleg gysylltiedig ledled Cymru, a'i botensial i gefnogi'r chwyldro cerbydau trydan a mabwysiadu technolegau carbon isel.
Arloesi ym maes technoleg yng Nghymru
Mae Cymru yn gartref i glwstwr cyntaf y byd o led-ddargludyddion cyfansawdd, sef CSconnected, cymuned sydd wrth wraidd amrediad eang o farchnadoedd sy'n gyrru megadueddiadau’r dyfodol. Mae lled-dargludyddion yn llawer mwy cymhleth na’r dechnoleg silicon hirsefydlog, ac maent yn rhan annatod o’r gwaith o ddatblygu 5G a systemau cyfathrebu â lloeren, electroneg bŵer, dyfeisiau RF a di-wifr, ffotoneg a chyfrifiadura cwantwm yn ogystal â chymwysiadau bob dydd eraill.
Mae cydweithio’n ganolig i sector technoleg Cymru ac mae hyn yn arbennig o wir am ein cymuned technoleg ariannol fywiog, gyda’r cwmni dielw Fintech Cymru yn cynrychioli un o'r brif ddeg canolfan dechnoleg ariannol yn y DU, sy’n canolbwyntio ar feithrin talent a chysylltu a galluogi ecosystem y sector.
Yn yr un modd, mae Cyber Wales yn un o glystyrau seiberddiogelwch mwyaf y DU, ac mae'n un o 14 aelod sefydlu Global EPIC sy'n dwyn ynghyd gymunedau seiberddiogelwch mwyaf blaenllaw'r byd o 18 o wledydd i gydweithio ar arloesedd seiberddiogelwch. Ar ôl cefnogi sefydliadau lleol i ffurfio Clwstwr Seiberddiogelwch yn Dubai, mae aelodau Cyber Wales bellach yn cryfhau'r cydweithio â'r UAE a'r Dwyrain Canol drwy gynnal cyfarfodydd clwstwr seiberddiogelwch rhithwir pwrpasol.
Y ddirprwyaeth
Mae'r Emiradau Arabaidd Unedig wedi’u hen sefydlu fel un o bartneriaid masnachu rhyngwladol pwysicaf Cymru. Ar hyn o bryd, hon yw marchnad allforio sifil fwyaf y DU yn y Dwyrain Canol, a chyn COVID-19, yr UAE oedd marchnad allforio fwyaf Cymru y tu allan i'r UE ac UDA, gyda chyfanswm gwerth yr allforion yn agos at £500 miliwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal presenoldeb cryf yn yr UAE, ac mae wedi bod â chanolfan barhaol yn y wlad ers 2004, pan sefydlodd swyddfa yn Llysgenhadaeth Prydain yn Dubai. Ers hynny, mae'r swyddfa wedi gweithio i hyrwyddo Cymru a chynrychioli ei buddiannau masnach o fewn yr Emiradau ac ar draws rhanbarth ehangach MENA (y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica).
Fel rhan o'r ymdrechion i gryfhau ymhellach gysylltiadau'r sector â'r UAE a rhanbarth ehangach MENA, ynghyd â marchnadoedd byd-eang eraill, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi naw busnes yn y digwyddiad, sy'n cynrychioli trawstoriad o sector technoleg Cymru ar draws amrediad o ddiwydiannau.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, a fydd yn brif siaradwr y digwyddiad:
"Rydyn ni’n hynod falch o safon y sefydliadau a’r ecosystemau technoleg sy'n gweithredu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ecosystem lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy'n wirioneddol flaenllaw ar lwyfan byd-eang, sy'n helpu i yrru'r chwyldro diwydiannol nesaf yn ogystal â busnesau technoleg ariannol a seiberddiogelwch uchel eu bri .
"Mae gyrru'r newid i gymdeithas carbon isel a mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd yn flaenoriaeth yng Nghymru, ac yn thema bwysig ar gyfer ein digwyddiad. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at y trafodaethau y gallwn ni eu sbarduno yn y digwyddiad hwn, gyda chynaliadwyedd yn thema allweddol sy'n dod i'r amlwg yn Expo eleni.
"Mae cael y cyfle i arddangos sector technoleg Cymru i farchnad strategol mor allweddol ac mewn digwyddiad gwirioneddol fyd-eang yn fraint enfawr, a byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle amhrisiadwy hwn i gwrdd â busnesau a sefydliadau blaenllaw'r DU, a rhannu syniadau â nhw."
I gael y newyddion, y cyhoeddiadau a'r digwyddiadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn Expo 2020 Dubai, ewch i Wales at Dubai Expo 2020 a dilynwch @walesinmena ar Twitter a Chymru yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA) ar LinkedIn.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i fuddsoddwyr tramor, ewch i wefan Masnach a Buddsoddi Cymru.
Cofrestrwch eich presenoldeb ar gyfer y digwyddiad yn rhithwir.