Heddiw bu'r Prif Weinidog, Carwyn Jones a'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates yn ymweld â Bontnewydd i gyhoeddi y bydd y gwaith i adeiladu'r ffordd osgoi arfaethedig i Gaernarfon i'w fynd ymlaen.
Mae'r prosiect, sy'n werth £135 miliwn, yn ddatblygiad pwysig yn y Gogledd-orllewin a bydd yn hanfodol er mwyn lleddfu'r tagfeydd traffig presennol a lleihau amserau teithio yn yr ardal.
Roedd adroddiad yr arolygydd yn argymell bwrw ymlaen â'r cynllun, ac ar ôl ei ystyried yn fanwl, ynghyd â chanfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol a'r holl dystiolaeth, mi fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r gorchmynion ar gyfer y ffordd osgoi.
Bydd y ffordd newydd 9.7 cilometr o hyd yn cael ei hadeiladu o gylchfan y Goat ar gyffordd yr A499/A487 hyd at gylchfan Plas Menai, o amgylch Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon gan osgoi canol y trefi. Bydd tair rhan i’r ffordd, gyda chylchfannau newydd ym Meifod a Chibyn.
Y cam nesaf fydd dyfarnu contract i ddylunio ac adeiladau’r ffordd osgoi gyda’r gwaith manwl i ddylunio’r cynllun yn dechrau ym mis Mehefin. Gallai’r gwaith adeiladu ddechrau wedyn ym mis Tachwedd 2018 a dod i ben yn ystod gwanwyn 2021.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
Mae'n newyddion gwych y byddwn ni'n bwrw ymlaen i adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.
Bydd y ffordd newydd yn helpu i gysylltu cymunedau yn yr ardal drwy seilwaith cynaliadwy a chadarn, a bydd hefyd yn gyswllt hanfodol i'r A55 a'r tu hwnt i Iwerddon, Lloegr ac Ewrop.
Mae hefyd yn gyfle mawr i sicrhau swyddi yn lleol, hyfforddiant i'r gweithlu a phrentisiaethau, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd y gwaith i adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yn mynd yn ei flaen. Mae'n gynllun mawr a bydd yn dod â llawer o fanteision i'r ardal. Bydd yn hwb gwirioneddol i'r ardal a bydd yn meithrin amodau ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy a chyfleoedd am swyddi.
Bydd y ffordd osgoi yn helpu i leihau tagfeydd traffig, gwella ansawdd yr aer a lleihau sŵn o gerbydau modur yng Nghaernarfon, Bontnewydd a'r pentrefi cyfagos. Drwy hyn, bydd ein cymunedau a'n hamgylchedd yn fwy iach. Bydd hefyd yn gwella'r cysylltiadau â mannau twristaidd ym Mhenrhyn Llŷn ac Eryri yn ogystal â darparu cyfleoedd gwych ar gyfer teithio llesol yn ardal Caernarfon drwy gysylltu'r dref â'r cymunedau cyfagos.