Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gogledd-ddwyrain yn elwa ar ffrwyth swyddi o ansawdd da a buddsoddi mewn seilwaith, diolch i’r polisïau sy’n sail i Gynllun Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru ar yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynlluniau ar gyfer Hyb Trafnidiaeth a Busnes newydd yn Wrecsam, agor uned fusnes newydd i Trafnidiaeth Cymru, Canolfan Entrepreneuriaeth Busnes Cymru ac agor pencadlys newydd Banc Datblygu Cymru – dyna rai o’r manteision sydd wedi dod i’r rhanbarth o ganlyniad i’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Mewn araith am y Cynllun Gweithredu ar yr Economi wrth gynulleidfa o bobl fusnes yn swyddfeydd Moneypenny yn Wrecsam, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae’n Cynllun Gweithredu ar yr Economi’n glir ynghylch ein ffocws ar fuddsoddi arian cyhoeddus at ddibenion cymdeithasol, ar werth gweithio mewn partneriaeth ac ar ein hymrwymiad llwyr i ddatblygu cryfderau economaidd ein rhanbarthau.

“O gofio hynny, mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr ar gynlluniau i ddatblygu Hyb Trafnidiaeth a Busnes newydd i integreiddio’r ardal o gwmpas Gorsaf Ganolog Wrecsam yn llwyr.

“O dan gytundeb partneriaeth newydd, bydd yr holl garfannau’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynllun i wella a chymhathu’r cysylltiadau cludiant yn yr orsaf a’i chyffiniau a chreu cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer swyddi a thwf masnachol.

“Gyda chyfarfod cynta’r bartneriaeth ar fin digwydd ym mis Medi, rwy’n disgwyl ymlaen at allu dangos hynt y gwaith.

“Mae’n bleser imi gael cadarnhau bod Trafnidiaeth Cymru’n agor uned fusnes ar gyfer y Gogledd yn Wrecsam, gan greu 30 o swyddi newydd cyn diwedd 2019.

“A chyda Chanolfan Entrepreneuriaeth Busnes Cymru’n agor fis diwethaf, a’r Banc Datblygu’n agor ei bencadlys yn Wrecsam yn yr Hydref gan ddod â 50 o swyddi bras, dyna brawf bod ein polisïau economaidd yn dwyn ffrwyth yn Wrecsam.”

Wrth siarad am y cynlluniau ar gyfer Wrecsam, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Gallai hyn weddnewid Wrecsam gan gael effaith aruthrol ar ein heconomi.

“Mae cysylltiadau cludiant da yn rhan hanfodol o economi iach, er mwyn helpu busnesau i gadw mewn cysylltiad â’u cyflenwyr, cleientiaid a gweithwyr a chreu mwy o gyfleoedd gwaith i bobl trwy eu galluogi i gymudo a theithio i’r gwaith.

“Dyma gyfle aruthrol i’r sir ac mae’n enghraifft wych o’r cyngor, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Glyndŵr a chyrff eraill yn gweithio gyda’i gilydd er lles pobl Wrecsam a’r Gogledd.” 

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:

“Mae’r cynigion hyn yn rhai cyffrous ac yn dod ar adeg dyngedfennol i Wrecsam. Fel Prifysgol, rydyn ni newydd ddadorchuddio ein Strategaeth 2025 gwerth £60 miliwn ar gyfer ein campws fydd yn creu amgylchedd dysgu pwrpasol a deniadol ar gyfer ein myfyrwyr – gan ddod â manteision helaeth i’r ardal gyfan hefyd.  

“Mae’n newyddion da i Wrecsam bod ein cynlluniau’n ategu rhai Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer buddsoddi a gwella seilwaith. Rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda nhw, Cyngor Wrecsam a Thrafnidiaeth Cymru i roi hwb i’n tref a’n rhanbarth.   Ymhen ychydig flynyddoedd, bydd Wrecsam wedi’i gweddnewid." 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd bod gwaith Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn cael ei estyn i sicrhau parhad a dilyniant ac er mwyn newid yn rhwydd i gyfrwng ehangach o gefnogi datblygiad yr economi yn Sir y Fflint a Wrecsam, gan ddilyn esiampl uno dwy Ardal Fenter yn y Gogledd-orllewin flwyddyn nesaf.