Yr wythnos hon, cafodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y cyfle i groesawu Tim Peake, gofodwr y British European Space Agency, i Gymru.
Ymwelodd Tim â Chanolfan Techniquest ym Mae Caerdydd i roi hanes ei brofiadau personol o fywyd yn y gofod i blant o bob rhan o Gymru. Roedd y cyswllt byw â digwyddiad Gyrfaoedd SgiliauCymru yn Arena Motorpoint yn golygu bod dros 1,000 o fyfyrwyr ychwanegol wedi cael clywed Tim yn siarad am yr arbrofion gwyddonol pwysig yr oedd wedi eu cynnal yn ystod ei daith i’r gorfod.
Cafodd yr arbrofion hyn eu cynnal ar ran ymchwilwyr o bedwar ban byd, ac roedden nhw’n cynnwys ceisio tyfu pibelli gwaed a chrisialau protein, a defnyddio ffwrnais i doddi ac i oeri aloion metel wrth iddyn nhw nofio’n rhydd yn yr awyr.
Dywedodd Tim Peake:
“Mae’r gefnogaeth y mae’r cyhoedd wedi ei ddangos ym Mhrydain wedi golygu llawer iawn imi, cyn, yn ystod, ac ar ôl fy nhaith i’r Orsaf Ryngwladol yn y Gofod. Mae’r daith hon drwy Brydain nawr yn rhoi’r cyfle imi ddiolch i gynifer o’r bobl hynny â phosibl.
“Mae wedi bod yn wych ymweld â Techniquest, a chlywed sut mae’r ganolfan wedi helpu plant ledled Cymru i ddathlu’r daith i’r gofod, drwy gynnal eu harbrofion eu hunain, gwylio rocedi ac offer y gofod yn cael eu harddangos, a hefyd wylio fideos byw o’r Orsaf Ryngwladol yn y Gofod. Roedd cyflwyniad Ysgol Gynradd Blaenymaes wedi gwneud cryn argraff arna i – mae’n wych gweld y diddordeb mawr oedd gan y disgyblion yn hynt fy nhaith i’r gofod.”
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
“Mae anturiaethau Tim Peake wedi bod mas o’r byd ’ma ym mhob ystyr. Maen nhw wedi ysbrydoli cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc i geisio dilyn yr un llwybr a darganfod cyffro byd y gwyddonwyr.
“Roedd taith Tim i’r Orsaf Ryngwladol yn y Gofod y llynedd yn ddigwyddiad hanesyddol i Brydain. Dw i’n cofio’r holl edrych ymlaen, a chyffro gwylio’r lansiad. Felly mae’n beth mawr bod yma heddiw i wrando ar Tim ei hun, a chael y cyfle i ddiolch iddo am ddod â holl antur byd gwyddoniaeth i ystafelloedd byw a bywydau miloedd o bobl yng Nghymru.”