Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans wedi canmol canolfan ddementia yng Nghonwy, sydd wedi cael ei chydnabod am ei safonau uchel, am ganolbwyntio ar y gofal a roddir i unigolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021


Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae Tŷ Cariad wedi bod yn defnyddio ap newydd sydd wedi ei ddylunio ar y cyd gan y fenter gymdeithasol, ‘Book of You’, ac ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia sy’n rhan o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ap yn caniatáu i’r bobl sy’n byw yno a’u gofalwyr fwynhau a rhannu gweithgareddau fel gwrando ar gerddoriaeth neu greu stori o luniau digidol, gan gwblhau arolygon lles ar yr un pryd. Mae’r data sy’n cael eu casglu yn cael eu defnyddio i wella’r gofal a ddarperir.

Cafodd Tŷ Cariad ei gynllunio ar y cyd â’r Athro Bob Woods, cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Prifysgol Bangor, ac mae’n cael ei chydnabod fel Canolfan sydd ag un o’r amgylcheddau gorau ar gyfer dementia yn y DU.

Mae’r Ganolfan wedi ei rhannu’n bedwar cartref bach, bob un ar gyfer pobl sydd â gwahanol lefel o’r cyflwr ac felly sydd â gwahanol anghenion. Hefyd mae yna erddi mawr a drysau gwydr sy’n plygu’n ôl i adael y byd y tu allan i mewn, a thechnoleg arloesol i helpu cadw’r preswylwyr yn ddiogel.

Mae canolfannau fel Tŷ Cariad yn rhan allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud Cymru yn genedl sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia. Er mwyn helpu i wireddu’r weledigaeth hon, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3.3m ychwanegol eleni mewn gwasanaethau ar gyfer y rheini sydd â dementia, ac mae hefyd yn datblygu Cynllun Gweithredu Strategol ar Dementia newydd i Gymru.

Er mwyn gwella lles y bobl sy’n byw yno, mae Canolfan Gofal Dementia Tŷ Cariad, o eiddo Fairway Care, yn Abergele, yn gweithio gyda phawb sy’n rhan o’u bywydau, gan gynnwys teulu a ffrindiau.  

“Ar hyn o bryd, mae tua 37,000 o bobl yn byw gyda dementia. Bydd y nifer hwn yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac felly mae’n bwysig iawn sicrhau bod Cymru’n genedl sydd ag agwedd bositif a chefnogol at bobl sy’n gorfod byw gyda dementia. Rydyn ni am fyw mewn gwlad lle mae unigolion â dementia yn cael cymorth a gofal o’r radd flaenaf, sy’n parchu urddas yr unigolyn.
“Mae gwasanaethau fel Tŷ Cariad yn rhan allweddol o’n hymdrechion i wireddu ein gweledigaeth. Drwy ddefnyddio ymchwil arloesol, mae’r ganolfan yn creu amgylchedd positif ac yn darparu gofal sydd wedi ei deilwra i anghenion yr unigolyn.

“Dw i’n awyddus i weld rhagor o ganolfannau rhagorol fel hon, sy’n canolbwyntio ar les pobl sydd â dementia, yn cael eu sefydlu ledled Cymru.”

Dywedodd Mark Bailey, Rheolwr Gyfarwyddwr Fairways Care Ltd:

“Mae’n her enfawr ymateb i ddementia a gofalu am bobl sydd â dementia yng Nghymru. Mae cefnogaeth y Gweinidog yn galonogol iawn ac yn rhywbeth  rydyn ni’n ei gwerthfawrogi’n fawr.”