Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl y Grŵp Cyngor Technegol

Diben

Diben Grŵp Cyngor Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gwybodaeth a chyngor gwyddonol a thechnegol, gan gynnwys cyngor sy'n dod oddi wrth Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE)1, 2, 3 ar gyfer COVID-19, yn cael ei ddatblygu a'i ddehongli er mwyn:

  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael mynediad amserol at yr wybodaeth wyddonol a thechnegol ddiweddaraf sy'n gysylltiedig â'r pandemig.
  • Dehongli allbynnau SAGE a'u goblygiadau ar gyfer cyd-destun Cymreig.
  • Comisiynu a dehongli modelau data, allbynnau ymchwil a mesuriadau sy'n benodol i anghenion Cymru ac sy'n helpu i ddeall natur, cwmpas a lledaeniad COVID-19 yng Nghymru.
  • Fel aelodau o SAGE, trosglwyddo cwestiynau gwyddonol gan Lywodraeth Cymru a chyfrannu papurau, cyngor neu ddata gwyddonol perthnasol.
  • Cefnogi dull colegol o ran cyngor ac ymchwil gwyddoniaeth a thechnoleg ym mhob maes o COVID-19 gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y pedair gwlad.
  • Darparu cyngor a data i hysbysu Llywodraeth Cymru, y GIG, Gofal Cymdeithasol a gwaith polisi a chynllunio ehangach y sector cyhoeddus.
  • Cyfathrebu a rhannu dealltwriaeth o'r feirws gyda'r sector cyhoeddus a'r cyhoedd mewn ffordd agored a thryloyw.

Nid yw TAG yn:

  • disodli swyddogaethau grwpiau Cydgysylltu Strategol na Chelloedd Technegol Gwyddonol lleol.
  • disodli swyddogaethau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • datblygu polisïau Llywodraeth Cymru nac yn rhoi sylwadau ar benderfyniadau Gweinidogion Cymru, er y gall roi cyngor i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a’r rhai sy’n llunio polisïau.

Mae TAG yn rhan o ymateb brys Llywodraeth Cymru i COVID-19.

Blaenoriaethau ar gyfer TAG

Er ein bod yn cydnabod bod tystiolaeth wyddonol yn aml yn anghyflawn ac yn amodol, blaenoriaeth gyffredinol TAG yw darparu'r cyngor gwyddonol a thechnegol gorau posibl i gefnogi'r ymateb i’r pandemig COVID-19 yng Nghymru.

Fel grŵp cynghori gwyddonol, nid penderfynu ar bolisïau yw rôl TAG ond crynhoi a distyllu'r ymchwil sydd ar gael i helpu i arwain Gweinidogion wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Mae'r blaenoriaethau presennol yn datblygu o hyn ac yn agored i newid, ond maent yn cynnwys:

  • Deall a dehongli epidemioleg y feirws yng Nghymru, yn y DU ac mewn cyd-destun byd-eang yn well, gan gynnwys ffactorau risg sy'n ymwneud â demograffeg, daearyddiaeth a grwpiau agored i niwed (e.e. oedran).
  • Darparu gwaith modelu megis amcangyfrifon a senarios a ragwelir i gynorthwyo gyda chynllunio a gwneud penderfyniadau ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19.
  • Cynghori ar y ffyrdd mwyaf priodol o ganfod a monitro lledaeniad COVID-19 yng Nghymru mewn ffordd mor effeithiol â phosibl.
  • Cynghori ar ymyriadau priodol i ddiogelu lles poblogaeth Cymru rhag COVID-19, i dynnu sylw at y niwed anuniongyrchol y gellid ei achosi o ganlyniad i ymyriadau arfaethedig ac i helpu llunwyr polisïau i nodi mesurau lliniaru priodol.
  • Darparu mewnwelediad i wyddoniaeth ymddygiadol a chyfathrebu risg i hysbysu llunwyr polisïau a chyfathrebu â'r cyhoedd.
  • Ystyried cyfleoedd therapiwtig, diagnostig a chyfleoedd eraill sy'n datblygu i drin, canfod neu fonitro SARS-CoV2
  • Ystyried genomeg y feirws, ac amrywiolynnau sy'n datblygu, a chynghori ar oblygiadau posibl ar gyfer ymyriadau cyfredol ac arfaethedig.
  • Cydweithio â Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru ac ystyried y tirlun ymchwil a thystiolaeth ehangach.
  • Cynorthwyo’r newid o bandemig i endemig ac ystyried y gofynion gwyddonol a thechnegol tymor hwy ar gyfer ail-ymddangosiad pandemig COVID-19 a phandemigau eraill yn y dyfodol.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a deall effaith strategaethau adfer yn sgil COVID-19.

Nid yw'r rhestr hon o flaenoriaethau yn gyfyngedig, a dylai'r Cyd-gadeiryddion ei hadolygu a'i diweddaru o bryd i'w gilydd, gyda mewnbwn gan TAG.

  1. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/80087/sage-guidance.pdf
  2. https://www.gov.uk/government/groups/scientific-advisory-group-for-emergencies-sage
  3. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/61252/the2009influenzapandemic-review.pdf

TAG a TAC

TAG yw'r Grŵp Cyngor Technegol, sy'n cynnwys arbenigwyr gwyddonol a thechnegol sy'n rhoi cyngor ac arweiniad gwyddonol Lywodraeth Cymru mewn ymateb i COVID-19.

Grŵp am gyfnod cyfyngedig yw TAG a bydd yn cael ei ddirwyn i ben ar ôl diwedd yr argyfwng.

TAC yw'r Gell Cyngor Technegol, sy'n cynnwys tîm craidd o weision sifil Llywodraeth Cymru ac mae'n darparu swyddogaeth ysgrifenyddol i TAG a'i is-grwpiau cysylltiedig.

Adrodd a Chomisiynu

Mae TAG yn darparu cyngor gwyddonol a thechnegol annibynnol ar draws Llywodraeth Cymru ar COVID-19. Mae'r cyfrifoldeb a'r atebolrwydd am TAG yn nwylo’r Cyd-gadeiryddion sydd, yn eu tro, yn cael eu rheoli gan Fwrdd Goruchwylio sy'n cynnwys y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid a'r Prif Swyddog Meddygol.

Mae cyfarfod wythnosol o Gadeiryddion is-grwpiau TAG yn cytuno ar gomisiynau a meysydd sy'n peri pryder y mae angen rhagor o wybodaeth a thrafodaeth arnynt yn TAG. Mae Cyd-gadeiryddion TAG hefyd yn mynychu cyfarfodydd Grŵp Cydgysylltu Gwyddoniaeth wythnosol y DU, er mwyn sicrhau cydgysylltiad â gweithgarwch SAGE sydd ar y gweill, ac yn mynychu cyfarfodydd Grŵp Cydgysylltu Gwyddonol y Pedair Gwlad bob pythefnos, i ystyried materion gwyddonol mwy strategol.

Mynediad a rhannu gwybodaeth

Mae gwybodaeth sy'n deillio o TAG yn swyddogol-sensitif ac nid yw'n cael ei rhannu y tu allan i'r strwythurau hyn heb gymeradwyaeth Cyd-gadeiryddion TAG neu Gadeiryddion is-grwpiau TAG cyn eu cyhoeddi. Ystyrir bod trafodaethau yn ystod cyfarfodydd TAG a’i is-grwpiau yn swyddogol-sensitif ac ni ddylid dyfynnu ohonynt na chyfeirio atynt heb ganiatâd perthnasol. 

Mae gwybodaeth sy'n deillio o SAGE a'i is-grwpiau yn swyddogol-sensitif ac ni ddylid ei rhannu y tu hwnt i anghenion y weinyddiaeth ddatganoledig heb gymeradwyaeth ysgrifenyddiaeth SAGE.

Mae'n ofynnol i bob aelod o TAG a’i is-grwpiau lofnodi Datganiad Buddiant.

Papurau a chyhoeddiadau

Mewn egwyddor, mae TAG wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth a chanfyddiadau â'r cyhoedd pryd bynnag y bo modd yn unol â'r comisiwn gwreiddiol. Bydd TAG yn gwneud pob ymdrech i gyhoeddi allbynnau technegol mor brydlon â phosibl.  Anogir cyfranwyr TAG i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn cyfnodolion perthnasol a adolygir gan gymheiriaid. Gall rhai papurau fod yn ddibynnol ar gyhoeddi papurau eraill megis y rhai a ddatblygir gan SAGE, ac mewn achosion eraill gellir teimlo bod risg sylweddol o gamliwio neu gamddealltwriaeth os cânt eu cyhoeddi. O ganlyniad gellir cadw'r papurau hyn yn swyddogol-sensitif.

Cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw unrhyw aelod o TAG na'i is-grwpiau yn cael ei dalu i fod yn aelod. Mae Cyd-gadeiryddion TAG yn ddiolchgar am y cyfraniadau enfawr o ran amser, ymdrech ac arbenigedd sydd wedi'u gwirfoddoli i ddiwallu anghenion yr argyfwng hwn yng Nghymru. I gydnabod hynny, byddant yn ymdrechu i ddarparu llythyrau cyfeirio at yr Is-gangellorion perthnasol yn tynnu sylw at gyfraniad perthnasol aelodau y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer cydnabyddiaeth o dan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 lle bo hynny'n berthnasol.

Trefniadau ar gyfer cyfarfodydd

Lleoliad

Mynediad o bell lle bo modd.

Pa mor aml y cynhelir Cyfarfodydd

Boreau Mawrth a Gwener, yn gweithio ar y cyd â Chyfarfodydd SAGE (dydd Iau ar hyn o bryd) ac is-grwpiau eraill.

Eitemau Agenda

Bydd Cyd-gadeiryddion TAG yn cytuno ar yr agenda derfynol ar gyfer pob cyfarfod o'r TAG. Gall unrhyw fynychwr ofyn am gynnwys eitem neu bapur ar yr agenda.

Dosbarthu Papurau

Bydd agendâu, papurau ategol a chofnodion y cyfarfod blaenorol yn cael eu dosbarthu i'r rhai sy'n bresennol cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

Bydd cofnodion a chamau gweithredu'r cyfarfod diweddaraf hefyd yn cael eu dosbarthu cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl y cyfarfod.

Aelodaeth

Er mwyn cadw annibyniaeth a chydbwysedd yr arbenigedd sydd ei angen i roi cyngor gwyddonol a thechnegol i Lywodraeth Cymru, dylid tynnu'r rhan fwyaf o aelodau TAG a'r is-grwpiau o'r byd academaidd a chyrff priodol yn y sector cyhoeddus.

Mae aelodaeth TAG drwy wahoddiad Cyd-gadeiryddion TAG. Bydd Cadeiryddion is-grwpiau TAG yn fynychwyr sefydlog. Bydd aelodau is-grwopiau TAG yn eu mynychu drwy wahoddiad Cadeiryddion is-grwpiau TAG drwy gytundeb â Chyd-gadeiryddion TAG. Ategir yr aelodaeth gan arbenigwyr pwnc-benodol yn unol ag eitemau agenda neu feysydd trafod.

Arsylwyr

Gellir gwahodd unigolion i arsylwi lle y bo'n berthnasol, yn ôl disgresiwn Cyd-gadeiryddion TAG. Ni ddylai arsylwyr gymryd rhan mewn trafodaethau oni bai bod Cyd-gadeiryddion TAG yn galw arnynt.

Presenoldeb

Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, dylai pob aelod o TAG ymdrechu i fynychu pob cyfarfod.

Gofyn i unigolion adael y cyfarfod

Yn ôl disgresiwn Cyd-gadeiryddion TAG, gellir gofyn i unrhyw un neu bob unigolyn sy'n bresennol mewn cyfarfod o TAG dynnu'n ôl o rannau o'r cyfarfod er mwyn hwyluso trafodaeth lawn a gonest.

Cynnal busnes brys

Lle mae'n ofynnol cynnal busnes brys rhwng cyfarfodydd, bydd Cyd-gadeiryddion TAG yn trefnu i geisio safbwyntiau'r aelodau drwy e-bost a bydd y canlyniad yn cael ei adrodd i gyfarfod nesaf TAG.

Gwneud penderfyniadau ac uwchgyfeirio

Bydd TAG yn ceisio gwneud penderfyniadau drwy gonsensws. Os na cheir consensws, tynnir sylw at hyn yn yr adroddiad neu'r datganiad perthnasol.

Datgan Buddiannau

Bydd angen i fynychwyr TAG ddatgan buddiannau a bydd cofrestr buddiannau yn cael ei chadw gan yr ysgrifenyddiaeth a'i diweddaru o bryd i'w gilydd.

Egwyddorion Nolan

Rhaid i'r rhai sy'n bresennol ymrwymo i saith egwyddor bywyd cyhoeddus (Nolan) a glynu wrthynt.

Cadeiryddion TAG a'i is-grwpiau

EnwTeitl/Sefydliad
Fliss BennéeCyd-gadeirydd TAG, Llywodraeth Cymru
Dr Rob OrfordCyd-gadeirydd TAG, Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd, Llywodraeth Cymru
Dr Brendan CollinsCyd-gadeirydd yr Is-grwpiau Modelu ac Economaidd-gymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Craiger SolomonsCyd-gadeirydd y Grŵp Modelu Polisïau a Fforwm Modelu Cymru Gyfan, Llywodraeth Cymru
Dr Robin HoweCadeirydd y Grŵp Cyngor Technegol ar Brofi, Microbiolegydd Ymgynghorol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yr Athro Ann JohnCadeirydd y Grŵp Hysbysu am Risg a Deall Ymddygiad, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg, Prifysgol Abertawe
Dr Robert HoyleCadeirydd y Grŵp Gwybodaeth Ryngwladol, Llywodraeth Cymru
Yr Athro Davey JonesCadeirydd y Grŵp Gwyddor Amgylcheddol, Athro Gwyddorau Pridd a'r Amgylchedd, Prifysgol Bangor
Dr Heather PayneCadeirydd y Grŵp Plant ac Addysg, Uwch-swyddog Meddygol Iechyd Plant, Llywodraeth Cymru
Yr Athro Kieran WalsheCadeirydd y Grŵp Ymchwil a Datblygu, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Jonathan PriceCyd-gadeirydd yr Is-grŵp Niwed Economaidd-Gymdeithasol, Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru

Is-grwpiau, fforymau a'r cylch gorchwyl

Bydd is-grwpiau'n cael eu creu pan fydd angen ystyried maes penodol yn fanylach. Mae pob is-grŵp yn rhoi cyngor ar eu meysydd unigol a disgwylir y bydd is-grwpiau'n defnyddio'n rhagweithiol yr arbenigedd sydd ar gael o fewn TAG a TAC wrth wneud hynny. Bydd pob is-grŵp yn gweithredu o fewn cwmpas a nodir mewn dogfen Cylch Gorchwyl. Yr is-grwpiau presennol yw:

Is-grŵpDiben
Fforwm Modelu Cenedlaethol Cymru GyfanDiben y fforwm hwn yw cytuno ar ddulliau a negeseuon cyson a chydlynol ynghylch modelau COVID-19 i'w defnyddio yng Nghymru gan wasanaethau iechyd Cymru.
Modelu PolisïauMae'r is-grŵp Modelu Polisïau yn cydlynu modelu i gefnogi polisïau a phenderfyniadau a gwybodaeth Llywodraeth Cymru, megis senarios modelu Sefyllfaoedd Gwaethaf y mae’n Rhesymol eu Tybied a gweithgareddau gwyliadwriaeth eraill a yrrir gan ddata. Mae'r Cadeiryddion a rhai aelodau yn aelodau cyfranogol o SPI-M
Ymchwil

Mae'r is-grŵp Ymchwil yn cydlynu dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â strategaeth a chynllunio ymchwil iechyd a gofal COVID-19. Ei swyddogaethau craidd yw:

  • cydlynu ymdrechion ymchwil COVID-19 ar draws Llywodraeth Cymru a gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, a darparu cysylltiadau effeithiol â strategaeth a phroses ar lefel y DU;
  • rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau ymchwil sy'n dod i'r amlwg ar draws sefydliadau yng Nghymru ac ymwybyddiaeth o ddatblygiadau yn y DU/rhyngwladol;
  • cydweithio â Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a chydweithio â'r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer cyfuno tystiolaeth a pharatoi gwybodaeth ynghylch COVID-19.
Niwed Economaidd-gymdeithasolMae'r is-grŵp Niwed Economaidd-Gymdeithasol yn goruchwylio prosiectau sy'n ceisio deall yn well effaith COVID-19 ar sectorau a grwpiau sydd eisoes dan anfantais yng Nghymru. Mae'r is-grŵp yn defnyddio cyfuno tystiolaeth i nodi opsiynau polisi posibl a allai liniaru'r niwed cymdeithasol, y niwed economaidd a’r niwed o ran tegwch yn sgil COVID-19. Mae'r is-grŵp hefyd yn goruchwylio'r gwaith o werthuso ymchwil a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol sy'n dod i'r amlwg ar COVID-19 yng nghyd-destun yr economi a'r niwed posibl a allai gael ei achosi i sectorau a grwpiau penodol yng Nghymru.
Gwybodaeth RyngwladolMae'r is-grŵp Gwybodaeth Ryngwladol yn gwerthuso ymchwil a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol sy'n dod i'r amlwg ar COVID-19 yng nghyd-destun: cyfraddau heintio, cyfraddau marwolaethau, profi, olrhain a dulliau olrhain, gosod a llacio mesurau rheoli, defnyddio brechlynnau a’u llwyddiant, cyfyngiadau teithio i mewn ac allan o wledydd, mesurau cwarantîn a ffactorau eraill y gellir dysgu gwersi ohonynt sy'n berthnasol i Gymru.
Feiroleg a PhrofiMae'r is-grŵp Feiroleg a Phrofi yn rhoi ystyriaeth fanwl a strategol i'r dystiolaeth wyddonol a thechnegol ar COVID-19 fel y mae’n ymwneud yn uniongyrchol â feiroleg a phrofion.
Plant ac YsgolionMae'r is-grŵp Plant ac Ysgolion yn rhoi ystyriaeth fanwl a strategol i'r dystiolaeth wyddonol a thechnegol ar COVID-19 fel y mae'n berthnasol i leoliadau plant ac ysgolion. Mae'r Cadeirydd yn mynychu'r grŵp SAGE SPI-Kids

Hysbysu am Risg a Deall Ymddygiad

 

Mae'r is-grŵp Hysbysu am Risg a Deall Ymddygiad yn darparu mewnwelediad ynghylch hysbysu am risg a deall ymddygiad i lywio gwaith TAG a’r dehongli, y gweithredu a’r effaith mewn perthynas â’r ymateb parhaus i ymdrin â’r coronafeirws. Mae'r is-grŵp yn asesu'r risgiau, yr effeithiau a'r niwed presennol a phosibl sy'n gysylltiedig ag ymddygiad pobl ledled Cymru mewn perthynas â COVID-19 sy'n cynnwys:

  • hysbysu pobl a deall ymddygiadau;
  • cefnogi penderfyniadau rhanddeiliaid a llunwyr polisïau; ac
  • ymgysylltu â’r gymdeithas ehangach.

Mae'r Cadeirydd a rhai o’r aelodau yn aelodau cyfranogol o SPI-B.

Gwyddor AmgylcheddolMae'r is-grŵp Gwyddor Amgylcheddol yn trafod ac yn ymchwilio i'r holl astudiaethau amgylcheddol a gwyddonol mewn perthynas â COVID-19. Mae'r cadeirydd yn aelod o grŵp EMG SAGE.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: HSSG.TAC@llyw.cymru