Bydd Juventus a Real Madrid yn cystadlu am deitl enillwyr Cynghrair Pencampwyr UEFA.
Mae’r llwyfan ar gyfer Ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA yn barod, ac mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi wedi amlinellu’r hyn y gall cefnogwyr dau o glybiau mwyaf y byd ei ddisgwyl wrth iddynt ddod i Gymru ym mis Mehefin.
Mae Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn ddigwyddiad di-guro o ran maint. Disgwylir y bydd tua 170,000 o ymwelwyr ychwanegol yn dod i Gaerdydd a bydd dros 200 miliwn yn gwylio’r digwyddiad ar deledu mewn 200 o wledydd a thiriogaethau. Bydd Caerdydd yn brysur ofnadwy ac yn ferw o Sbaeneg ac Eidaleg, yn ogystal â phobl ac ieithoedd o bedwar ban byd, heb sôn am oddeutu 2,500 o aelodau o’r cyfryngau. Bydd mesurau diogelwch sy’n gweddu i ddigwyddiad o’r fath yn eu lle, sy’n anelu at sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant ac yn ddiogel i ymwelwyr a’r trigolion lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Dyma ddau glwb a dwy ddinas sydd â chysylltiad cryf â phêl-droed Cymru. Mae Real a Juventus yn rhannu’n edmygedd ni o fawrion y gamp: John Charles, Ian Rush, John Toshack a Gareth Bale i enwi ond ychydig.
“Ond i lawer o’r cefnogwyr, dyma’u hymweliad cyntaf â’n gwlad. Bydd Cymru yn barod amdanynt ac yn benderfynol o ddarparu digwyddiad bythgofiadwy sydd wedi’i drefnu a’i ariannu’n dda - dyma ddathlu pêl-droed yn ein prifddinas a thu hwnt iddi. Gellir teimlo’r cyffro yng Nghymru.
“Nid oes digwyddiad pwysig o’r maint yma wedi cael ei gynnal mewn dinas o faint Caerdydd a gwlad o faint Cymru o’r blaen. Mae’n ychwanegiad at y rhestr o ddigwyddiadau llwyddiannus diweddar yng Nghymru: y Cwpan Ryder, rhan o Gyfres y Lludw a Chynhadledd NATO ymhlith eraill. Dyma ddigwyddiad fydd yn cryfhau enw da Cymru fel gwlad groesawgar sy’n lle heb ei ail i gynnal digwyddiadau.
“Dyma gyfle euraid i bobl y byd weld beth y gall Cymru ei wneud. Mae’n rhoi cyfle i lawer mwy o bobl gael blas ar ein cynnyrch ac i brofi’n hatyniadau i dwristiaid a’r cynigion busnes sydd ar gael yma.
“Croeso. Welcome. Bienvenido. Benvenuto. Rydym yn barod ac yn disgwyl yn eiddgar i gynnal digwyddiad chwaraeon mwyaf y flwyddyn ac yn edrych ymlaen at gael croesawu chwaraewyr a chefnogwyr y ddau glwb enfawr hwn sy’n ymuno â ni ar gyfer digwyddiad pêl-droed mwyaf 2017.”