Y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg: canllawiau i ymgeiswyr
Sut i wneud cais a pwy all wneud cais am y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg o 1 Medi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
ISBN: 978-1-83504-879-5
Trosolwg
Mae'r Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg ('Y Fwrsariaeth') yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a'i nod yn benodol yw cynyddu nifer yr athrawon uwchradd Cymraeg a chyfrwng Cymraeg drwy eu hannog i aros yn y proffesiwn.
Mae’r Fwrsariaeth o £5,000 ar gael i athrawon sydd wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o addysgu mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol ddwyieithog, neu sydd wedi addysgu Cymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir yng Nghymru.
Mae’r Fwrsariaeth yn gynllun peilot a lansiwyd yn 2023 ac a fydd ar gael hyd ddiwedd y cyfnod peilot yn 2028. Bydd bwrsariaethau terfynol y cyfnod peilot yn cael eu talu yn ystod hydref 2028.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ddarparu cymorth ariannol o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn hybu recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Gwneir y Bwrsariaeth wrth arfer y pwerau hynny.
Meini prawf
Mae’r meini prawf cymhwystra yr un fath pa un a ydych yn gweithio'n llawnamser, yn rhan-amser neu wedi ymgymryd â chymysgedd o'r ddau batrwm gwaith. Mae’r meini prawf cymhwystra hefyd yr un fath lle bynnag yr ydych ar y raddfa gyflog athrawon a pha un a ydych yn cael lwfansau cyfrifoldebau ychwanegol ai peidio, er enghraifft Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu ar gyfer pennaeth grŵp blwyddyn.
Rhaid i athrawon cymwys fod wedi:
- ennill statws athro cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen
- cwblhau 3 blynedd o addysgu yn dilyn y dyddiad y dyfarnwyd y statws athro cymwysedig
- cwblhau 3 blynedd o addysgu:
- Cymraeg fel pwnc mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir, neu
- unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir
Byddai athrawon sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sydd yng nghategorïau 2 a 3 yn ôl Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gymwys i wneud cais am Y Fwrsariaeth.
Bydd athrawon sydd eisoes wedi cael y cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn gymwys i hawlio'r Fwrsariaeth i gadw athrawon, cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf.
Hefyd, cyn belled â bod y meini prawf wedi eu bodloni, rydych hefyd yn gymwys os ydych:
- wedi hyfforddi y tu allan i Gymru a bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cydnabod eich statws athro cymwysedig
- wedi hyfforddi drwy raglenni'r Brifysgol Agored neu
- heb hyfforddi yn benodol i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ond eich bod yn gwneud hynny erbyn hyn.
Bydd athrawon sydd wedi bod i ffwrdd o'r ysgol oherwydd salwch neu absenoldeb rhiant, neu oherwydd gweithdrefnau disgyblu, yn gymwys am daliadau cyn belled nad oes toriad contractiol mewn gwasanaeth wedi bod, a’u bod wedi cael eu cyflogi am dair blynedd ar ôl ennill statws athro cymwysedig.
Mae athrawon mewn ysgolion 3 i 19 oed (ysgolion canol) yn gymwys cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf a amlinellir uchod a bod mwy na 50% o'u hamserlen addysgu ym mhob un o’r blynyddoedd perthnasol yn dilyn SAC wedi’i neilltuo i addysgu dysgwyr ym mlynyddoedd 7 hyd at13. Bydd angen i'r ymgeisydd a’r pennaeth presennol ddilysu hyn yn rhan o'r ffurflen hawlio.
Mae athrawon sydd wedi ennill statws athro cymwysedig drwy ddilyn llwybr i addysgu a oedd yn seiliedig ar gyflogaeth yn gymwys , cyn belled â bod y statws athro cymwysedig wedi'i ddyfarnu ers mis Awst 2020 a’ch bod wedi cwblhau tair blynedd o addysgu.
Nid yw swyddi addysgu mewn ysgol annibynnol, coleg chweched dosbarth neu sefydliad addysg bellach yn gymwys. I fod yn gymwys, rhaid i'r hawlydd fod wedi cwblhau tair blynedd o addysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl cael statws athro cymwysedig mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol ddwyieithog neu gyfrwng Cymraeg a gynhelir yng Nghymru.
Manylion y Fwrsariaeth
Bydd athrawon cymwys yn cael tâl o £5,000 yn ystod eu pedwaredd flwyddyn o addysgu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu am y dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn perthynas â’r Fwrsariaeth.
Effaith Y Fwrsariaeth ar fudd-daliadau
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn un o adrannau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt hwy ar eich amgylchiadau unigol.
Y Fwrsariaeth a phensiynau
Nid yw’r Fwrsariaeth yn bensiynadwy.
Y Fwrsariaeth a Benthyciadau Myfyriwr
Pan fydd athro yn ad-dalu benthyciad myfyriwr, ac mae taliad y Fwrsariaeth yn mynd â nhw dros y trothwy misol ar gyfer eu cynllun ad-dalu, bydd y Fwrsariaeth yn cael ei leihau gan unrhyw swm ad-dalu ychwanegol tuag at y benthyciad myfyriwr. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar wefan gov.uk: Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr: Trosolwg.
Sut i wneud cais
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr wneud cais am y Fwrsariaeth.
Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 1 Medi 2024. Dylai'r rhai sy'n credu eu bod yn gymwys wneud cais erbyn 30 Medi 2024. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Tachwedd a bydd y Fwrsariaeth yn cael ei thalu erbyn diwedd Chwefror 2025.
Gall unrhyw athro sydd heb 3 blynedd o wasanaeth pan fydd y cyfnod ymgeisio yn agor wneud cais yn y blynyddoedd dilynol pan fydd wedi cyflawni’r hyd gofynnol o wasanaeth.
Dylai’r ymgeiswyr lenwi'r ffurflen hawlio gan gynnwys eu dyddiad ennill statws athro cymwysedig, eu rhif cyfeirnod athro Cyngor y Gweithlu Addysg, eu cyflogwr presennol a rhestr o’u cyflogwyr blaenorol ynghyd â'r dyddiadau perthnasol.
Mae'r ffurflen gais ar gael Y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg.
Dylid cyflwyno ffurflenni drwy e-bost i athrawoncc.wmteachers@llyw.cymru.
Bydd ceisiadau anghyflawn neu a gyflwynir yn hwyr yn cael eu gwrthod. Bydd ymgeiswyr yn gallu ailgyflwyno cais y flwyddyn ganlynol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais o fewn 2 flynedd o fod wedi cyrraedd y 3 blynedd angenrheidiol o wasanaeth.
Bydd derbyniadau e-bost yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod negeseuon e-bost yn cyrraedd yn ddiogel. Dylai copïau o hawliadau a negeseuon e-bost a anfonir at Lywodraeth Cymru gael eu cadw gan ymgeiswyr fel cofnod. Dylid cadw cadarnhad o dderbyniadau e-bost a gafwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd. Os nad yw ymgeisydd wedi cael cadarnhad o dderbyn e-bost gan Lywodraeth Cymru o fewn 10 diwrnod, dylai gymryd yn ganiataol nad yw'r e-bost neu'r hawliad wedi cyrraedd.
Telerau ac amodau
Ni fydd unrhyw Fwrsariaeth yn cael ei thalu i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru, drwy law Llywodraeth Cymru, ar y ffurflen gywir a chyflwyno'r dystiolaeth y gofynnwyd amdani.
Hawlio’r Fwrsariaeth yn ôl
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw Fwrsariaeth a dalwyd gael ei had-dalu'n gyfan gwbl neu'n rhannol os, er enghraifft, yw'r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol iawn yn ei gais am Y Fwrsariaeth, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw.
Diogelu data a Rhyddid gwybodaeth
Mae gwybodaeth y mae unigolyn yn ei chyflwyno yn rhan o'i hawliad o dan y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ('Deddf 2000'), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 ('Rheoliadau 2004'), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data Cyffredinol (y 'GDPR') a Deddf Diogelu Data 2018 ('Deddf 2018').
Mae ymgeiswyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- a fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth a gawsom o dan y cyllid neu mewn cysylltiad ag ef i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu’r wybodaeth honno i berson sy’n gwneud cais datgelu o dan Ddeddf 2000 neu Reoliadau 2004
- a fydd unrhyw wybodaeth wedi’i hesemptio rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf 2000 neu Reoliadau 2004
Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol y byddwn yn eu casglu a'u rhannu ag awdurdodau lleol ac ysgolion yn cael eu rheoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y cynllun hwn.
Cysylltwch â ni
Dylai unigolion a chanddynt gwestiynau cysylltiedig neu gwestiynau sydd heb eu trafod yn yr wybodaeth hon gysylltu ag: athrawoncc.wmteachers@llyw.cymru.