Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (12 Gorffennaf), cyflwynodd y Frenhines Groes y Brenin Siôr i Brif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget a’r Ymgynghorydd Gofal Dwys Dr Ami Jones mewn seremoni yng Nghastell Windsor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedden nhw’n derbyn y wobr ar ran holl weithwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru – nyrsys, meddygon, glanhawyr, parafeddygon, porthorion, therapyddion – i gydnabod eu dewrder, eu tosturi a’u medr.

Roedd Tywysog Cymru yn bresennol gyda’r Frenhines ar gyfer y cyflwyniad.

Dywedodd Judith Paget:

Mae’n fraint imi ymuno â Dr Jones i dderbyn Croes y Brenin Siôr ar ran y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dyma’r fedal uchaf am ddewrder sy’n cael ei rhoi i sifiliaid yn y Deyrnas Unedig. Mae’r wobr yn cydnabod gwasanaeth di-baid y Gwasanaeth Iechyd ers ei sefydlu 74 mlynedd yn ôl, gan gynnwys holl ddewrder, ymroddiad a gofal staff yn ystod y pandemig.

Fe welais i â’m llygaid fy hun ddewrder staff yn gofalu am ein hanwyliaid. Nhw yw anadl einioes y Gwasanaeth Iechyd. Mae hwn yn anrhydedd mawr ac yn ddiwrnod arbennig i bawb sy’n gweithio ac sydd wedi gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Dr Ami Jones, Ymgynghorydd Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Rwy’n eithriadol o falch o ymuno â Judith i gynrychioli holl staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i dderbyn Croes y Brenin Siôr.

Fel rhywun sy’n gwasanaethu yn y Fyddin, rwy’n gwybod mai dim ond y gorau sy’n cael y fedal hon ac mae ein staff iechyd rhagorol yn ei llawn haeddu.

Ni fyddai ein staff erioed wedi dychmygu y byddai pandemig mor ofnadwy yn digwydd yn ystod ein bywydau ni, ond fe roeson nhw eu hofnau eu hunain o’r neilltu i roi gofal rhagorol i’w cleifion a dod o hyd i atebion i’r problemau digynsail a oedd yn eu hwynebu bob dydd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Dyma achlysur y gall holl staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ymfalchïo ynddo, a hwythau wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau iechyd dan yr amgylchiadau anoddaf.

Ers geni’r Gwasanaeth Iechyd yn Nhredegar 74 mlynedd yn ôl, mae staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi bod yno bob amser i roi triniaeth, gofal a chymorth i ni a’n teuluoedd pan fo arnon ni eu hangen fwyaf.

Yn wyneb y bygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd yn ein hoes ni ar ddechrau’r pandemig, fe wnaethon nhw gamu ymlaen gyda dewrder ac arbenigedd di-ail ac rwy’n falch iawn bod hyn wedi cael ei gydnabod drwy ddyfarnu Croes y Brenin Siôr iddyn nhw.