Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gyfradd ailgylchu ar gyfer Cymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda'r wlad yn ei chyfanrwydd yn rhagori ar y targed ailgylchu diweddaraf, ac yn ailgylchu 65.14% o wastraff yn 2019/20, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

2019/20 yw’r flwyddyn gyntaf â tharged ailgylchu statudol o 64%, yn dilyn targed o 58% ers 2015/16.

Mae'r dadansoddiad fesul awdurdod lleol yn dangos bod 18 o'r 22 awdurdod wedi cyrraedd y targed uwch yn y flwyddyn gyntaf un. Gyda thri awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyrraedd lefel sy'n rhagori ar y targed nesaf o 70% erbyn 2025.

Mae'r ffigurau'n dangos i 1.51 miliwn tunnell o ddeunydd gael eu cynhyrchu yn awdurdodau lleol Cymru yn 2019-20, gostyngiad o bron i 2 y cant ers 2018/19. Cafodd bron i filiwn o dunelli (984,935 tunnell) ohonynt eu hailgylchu, eu hailddefnyddio neu eu compostio.

Ers datganoli mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu gwastraff y cartref.

Wrth groesawu'r llwyddiant, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths:

"Mae'r ffaith bod Cymru yn ei chyfanrwydd wedi rhagori ar y targed yn y flwyddyn gyntaf yn dyst i'r ymdrech sylweddol mae pawb wedi'i gwneud. Allen ni ddim bod wedi cyflawni’r lefelau uchaf o ailgylchu yng Nghymru erioed heb waith caled ein hawdurdodau lleol a'n cartrefi ledled Cymru, a hoffwn i longyfarch yn arbennig yr awdurdodau hynny sydd wedi rhagori ar y targed ar gyfer y pum mlynedd yn gynnar!”

“Mae Cymru eisoes yn genedl ailgylchu ac rydyn ni’n falch iawn o'n cyflawniadau.   Mae'r ffigurau hyn nid yn unig yn dangos ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nod o ddyfodol diwastraff erbyn 2050, ond mae hefyd yn dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at economi gylchol, carbon isel.”