Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Hydref 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 132 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi pennu codi safonau llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion yn flaenoriaeth.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yn ei brif araith 'Codi Safonau Ysgolion' ar 29 Mehefin 2011 gerbron y Sefydliad Materion Cymreig cyhoeddodd y bwriad i gyflwyno Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol newydd ar gyfer pob dysgwr 5 i 14 oed.
Mae'r Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar a'r Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i'w chyhoeddi yn fuan yn gosod gweithrediadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith ar gyfer gwella safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru. Mae'r cynlluniau am fframwaith cenedlaethol statudol ac am gyfundrefn o brofion cenedlaethol yn rhan annatod o'r ddwy rhaglen.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd i sylwebu ac ymateb i gynigion Llywodraeth Cymru ar y canlynol:
- Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) statudol
- Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.