Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl sy'n credu y dylai'r GIG fod wedi talu am eu gofal i gofrestru eu bwriad i wneud cais am ad-daliad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pecyn gofal a ddarperir am ddim gan y GIG yw gofal iechyd parhaus. Mae'n cael ei gynnig i bobl sydd ag anghenion iechyd cymhleth a gall gael ei ddarparu mewn cartref gofal neu yng nghartref yr unigolyn.

Mae unrhyw un sy'n credu y gallai fod wedi bod yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, ond sydd wedi talu am ei ofal i gyd, neu ran ohono, neu'r sawl sy'n gofalu am unigolion felly, yn gallu gwneud cais. 

Mae gan y rheini sydd am wneud hynny hyd at 31 Hydref 2017 i gofrestru eu bwriad i hawlio'r costau gofal iechyd parhaus y bu'n rhaid iddynt eu talu rhwng 1 Hydref 2015 a 31 Hydref 2016.

Bydd y GIG yn rhoi cyngor i bawb sydd am hawlio ad-daliad, a bydd yn cwblhau'r holl waith o adolygu eu hachos am ddim. Nid proses gyfreithiol yw hon, ac nid oes angen i bobl droi at gyfreithiwr. Fodd bynnag, os defnyddir gwasanaeth cyfreithiwr , ni ellir ad-dalu'r costau sydd ynghlwm wrth hynny. 

Bydd pob cais yn cael ei adolygu o fewn chwe mis i'r GIG dderbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol. 

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

“Weithiau bydd angen i bobl anabl, neu bobl sy'n byw gydag afiechyd, gael gofal tymor hir i'w helpu nhw a'u teuluoedd i ymdopi. Mae rhai pobl wedi talu am y gofal hwnnw eu hunain pan ddylai'r gofal fod wedi cael ei ddarparu am ddim gan y GIG. 

“Os bydd unigolion, neu eu teuluoedd, o'r farn eu bod yn bodloni meini prawf Gofal Iechyd Parhaus, ond eu bod wedi talu am y gofal hwnnw eu hunain, dylen nhw gofrestru i ddweud eu bod yn cyflwyno cais.