Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr holl geisiadau'n cael eu hadolygu o fewn 6 mis i'r dyddiad pan fo gan y GIG yr holl wybodaeth y mae ei hangen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn becyn gofal sy'n cael ei ddarparu'n rhad ac am ddim gan y gwasanaeth iechyd i'r bobl hynny ag anghenion gofal iechyd cymhleth. Gall y gofal hwnnw gael ei ddarparu mewn cartref gofal neu yng nghartref yr unigolyn.

Os yw unigolion o'r farn eu bod nhw, neu rywun y maen nhw'n gofalu amdano, yn gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a'u bod wedi talu am y gofal eu hunain, yn rhannol neu’n llwyr, gallan nhw gyflwyno cais.

Mae gan yr unigolion hyn tan 31 Hydref i gofrestru eu bwriad o wneud cais ar gyfer costau gofal iechyd parhaus a ysgwyddwyd rhwng 1 Hydref 2014 a 30 Hydref 2015.

Bydd y GIG yn rhoi cyngor i bawb sydd am wneud cais, a byddan nhw hefyd yn gwneud yr holl waith sydd ei angen i adolygu eu hachos am ddim. Nid proses gyfreithiol yw hon, ac nid oes angen i bobl gael cyfreithiwr. Fodd bynnag, os bydd cyfreithiwr yn cael ei benodi, ni ellir ysgwyddo'r costau hynny. 

Bydd yr holl geisiadau'n cael eu hadolygu o fewn 6 mis i'r dyddiad pan fo gan y GIG yr holl wybodaeth y mae ei hangen. Mae ymgyrch gyhoeddusrwydd yn cael ei lansio hefyd i gyhoeddi'r dyddiad cau, gan gynnwys gwybodaeth am ble i fynd i gael cyngor pellach.  

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

“Mae pobl â salwch neu anabledd angen gofal hirdymor weithiau i'w helpu nhw, ac i helpu eu teuluoedd, i ymdopi. Bydd rhai pobl wedi talu am y gofal hwnnw eu hunain pan ddylai fod wedi cael ei ddarparu am ddim gan y gwasanaeth iechyd.

“Os yw unigolion, neu eu teuluoedd, o'r farn eu bod yn bodloni'r meini prawf i'w gofal gael ei dalu drwy Ofal Iechyd Parhaus y GIG, ond eu bod wedi talu am y gofal hwnnw eu hunain, rwy'n eu hannog i wneud cais. 

“Bydd y byrddau iechyd yn cynnig cyngor am ddim i unigolion sydd am wneud cais, a byddant hefyd yn cwblhau'r gwaith papur ar eu rhan.”