Neidio i'r prif gynnwy

Mae dull cydweithredol  o weithio gyda phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r system cyfiawnder ieuenctid wedi cael ei ganmol mewn adroddiad annibynnol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datblygwyd y dull Rheoli Achosion Uwch gan Lywodraeth Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Timau Troseddwyr Ifanc a Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig y Glasoed Cymru Gyfan. Mae'r dull wedi'i seilio ar baru ymyrraeth a chymorth gydag ymddygiadau ac anghenion sylfaenol pobl ifanc sy'n troseddu. 

Cafodd y dull ei dreialu gan Dimau Troseddwyr Ifanc yn Sir y Fflint, Blaenau Gwent a Chaerffili, a Sir Gaerfyrddin gan ganolbwyntio ar weithio gyda phobl ifanc â hanes helaeth o droseddu ac a chanddynt anghenion cymhleth.

Canfu'r gwaith ymchwil fod y mwyafrif o'r un ar hugain o bobl ifanc a oedd yn rhan o'r prosiect wedi nodi gwelliannau yn eu bywydau, fel cynnydd yn eu hunanhyder a'u gwytnwch emosiynol etc. Yn achos rhai, nid oeddynt wedi torri amodau eu gorchmynion neu wedi aildroseddu mor aml, yn ystod y prosiect nac wedi iddo ddod i ben.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: 

"Mae clywed bod ymchwil wedi dangos bod y dull Rheoli Achosion Uwch wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc wedi fy nghalonogi. Dw i'n croesawu'r argymhelliad iddo gael ei ddefnyddio'n ehangach yn fawr, gan ein bod yn gweithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i roi'r dull hwn ar waith yn y pedwar Tîm Troseddwyr Ifanc yn Ne Cymru'r haf hwn."