Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gyfradd gyflogaeth yn parhau'n uwch, a'r gyfradd ddiweithdra a'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn parhau'n is yn y Gogledd nag yng Nghymru gyfan, yn ôl y Proffil Rhanbarthol diweddaraf ar gyfer y Farchnad Lafur a'r Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r proffil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac sy'n rhoi darlun rhanbarthol drwy gasglu'r ffigurau a gyhoeddwyd hyd at fis Medi 2019, yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth yn 75.9 y cant yn y gogledd, a'i bod yn uwch na'r cyfraddau ar gyfer Cymru gyfan ac ar gyfer y DU.

Tan y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019, roedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd yn is nag yr oedd yng Nghymru a'r DU gyfan. Syrthiodd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y rhanbarth hefyd, i 21 y cant, sef y ffigur isaf o blith tri rhanbarth Cymru.

Wrth groesawu'r ffigurau, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a'r gogledd:

“Mae diweithdra ar draws Cymru gyfan yn is nag erioed o'r blaen ac mae'n dda gweld yn y Proffil Economaidd Rhanbarthol fod rhanbarth y Gogledd yn gwneud yn dda unwaith eto.

“Mae'r rhanbarth mewn sefyllfa gref wrth inni wynebu'r dyfodol. Llwyddwyd i gyflawni nifer o ddatblygiadau cyffrous, ac mae eraill ar y gweill. Y llynedd, gwelon ni AMRC Cymru yn agor ym Mrychdyn. Bydd yn cael ei redeg gan Ganolfan Gweithgynhyrchu Uwch ac Ymchwil Prifysgol Sheffield, sy'n un fawr ei bri. Amcangyfrifir y gallai hyn arwain at gynnydd o hyd at £4 biliwn yng ngwerth ychwanegol gros (GVA) economi Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf.

“Rydyn ni'n buddsoddi yn seilwaith y rhanbarth, er enghraifft, mae'r gwaith ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yng Ngwynedd yn dod yn ei flaen yn dda. Y prosiect hwn yw un o'r prosiectau seilwaith mwyaf sydd gan Lywodraeth Cymru yn y rhanbarth. Cyhoeddais fuddsoddiad o £20 miliwn yn ddiweddar hefyd er mwyn bwrw ymlaen â Metro'r Gogledd, ac rydyn ni'n parhau â'n cynlluniau ar gyfer trydedd bont ar draws y Fenai.

“Ein nod yw parhau i fod yn gefn i’r Gogledd ac adeiladu ar lwyddiant y rhanbarth, gan sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu ar draws ein holl gymunedau.