Bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn agor y rownd ddiweddaraf o gyllid ar gyfer Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi pan fydd hi'n ymweld â Phafiliwn Grange yng Nghaerdydd heddiw.
Mae'r cynllun, a reolir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, eisoes wedi cefnogi mwy na 44 o brosiectau amgylcheddol a chymunedol lleol ac mae cyfanswm o £1.7 miliwn wedi'i roi mewn cyllid grant ers i'r cynllun gael ei lansio y llynedd.
Un o'r prosiectau sy'n elwa ar y cyllid yw prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd – Pafiliwn Grange. Gan weithio'n agos gyda phreswylwyr lleol, ysgolion cynradd a myfyrwyr israddedig sy'n astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r prosiect yn trawsnewid pafiliwn bowlio a man gwyrdd a oedd wedi'u hesgeuluso yn ganolfan gymdeithasol newydd i'r gymuned. Bydd y ganolfan newydd yn cynnig sawl man i'w defnyddio gan y gymuned, caffi cymunedol a gardd i annog llesiant, chwarae, addysg, twf a bioamrywiaeth.
Bydd cyllid y Cynllun hwn yn helpu i wella gwerth bioamrywiaeth yr ardal fel rhan o'r rhaglen waith fwy o faint hon.
Gan ddathlu llwyddiant y cynllun, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Rwy'n falch bod arian sydd wedi'i godi drwy'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cymunedol gwych fel Pafiliwn Grange. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft ardderchog o amcan y cynllun, sef meithrin cymunedau cadarn sy'n groesawgar ac sy’n mwynhau dod at ei gilydd, gan wneud lles i'r amgylchedd ar yr un pryd.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Catherine Miller, Rheolwr Cyllid Grant Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
Mae prosiect Pafiliwn Grange yn enghraifft wych o drawsnewid man cymunedol sydd wedi mynd â'i ben iddo yn fan gwyrdd i'w ddefnyddio gan bob cenhedlaeth yn y gymuned leol. Mae'r gymuned yn ymroi'n llwyr i ddatblygu a gweithredu'r prosiect a bydd yn arwain at greu man cyhoeddus gwerthfawr sy’n cynnwys mwy o fioamrywiaeth.
Dywedodd Mhairi McVicar, Arweinydd y Prosiect Porth Cymunedol:
Mae Pafiliwn Grange yn cael ei ailddatblygu o ganlyniad i saith mlynedd o waith caled gan gynifer o aelodau o gymuned Grangetown. Mae hi'n fraint gallu cefnogi eu gweledigaeth drwy bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Bydd arweinyddiaeth gymunedol barhaus y cyfleuster hwn yn cael ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Cymdeithas Tai Taf, RSPB Cymru a Chlwb Rotari Bae Caerdydd. Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r prosiect drwy Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 13 Ionawr 2020.