Neidio i'r prif gynnwy

Yr wythnos hon, bu'r Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn ymweld â'r Gogledd lle mae busnesau twristiaeth yn paratoi ar gyfer y Pasg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Agorodd Surf Snowdonia – lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd − yn 2015 ac mae'n edrych ymlaen at dymor llawn cyffro, gan gynnig nifer o ddigwyddiadau newydd yn yr atyniad yn ystod 2018. 
Bydd tonnau cyntaf y tymor yn dechrau codi ddydd Sadwrn 24 Mawrth, a dyna'r dyddiad hefyd pan fydd  Surf Snowdonia yn cynnal Tonnau, Mwd a Mynyddoed − digwyddiad anhygoel lle cynhelir ras rwystrau mwdlyd ar safle’r atyniad ac yn ei gyffiniau. Dyma'r cyntaf ymhlith nifer o ddigwyddiadau − bydd y 'Great Outdoors Event', digwyddiad i ddathlu antur yn y Gogledd, yn dod yn dynn ar ei sodlau ar 7 Ebrill.
Yn ystod ei ymweliad, cafodd y Gweinidog y cyfle i weld y cyfleusterau bendigedig sydd yno a thrafod dyheadau'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Andy Ainscough, ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Andy: 
"Roedd hi'n bleser dangos y gweinidog o gwmpas ac i drafod ein cynlluniau ar gyfer 2018. Gan edrych ar yr archebion yr ydym eisoes wedi’i chael ar gyfer gweithgareddau a llety, mae twristiaeth yng Ngogledd Cymru yn edrych yn barod am flwyddyn ddisglair arall. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o sector bywiog, creadigol sydd mor bwysig yn economaidd i’r rhanbarth hon."

Bu'r Gweindiog yn ymweld hefyd â Venue Cymru, Llandudno, lle bydd gwaith yn dechrau cyn hir ar brosiect i ddiweddaru'r hyn y gall Venue Cymru ei gynnig ar gyfer digwyddiadau busnes. Mae'r prosiect hwn wedi llwyddo i ddenu bron £1 filiwn o gyllid Ewropeaidd o dan y prosiect Cyrchfan Denu Twristiaeth. Bydd rhaglen i ad-drefnu tu mewn yr adeilad presennol yn golygu y bydd modd gwneud defnydd gwell o'r lle sydd ar gael er mwyn darparu ar gyfer yr arlwy amrywiol o sioeau a digwyddiadau a gynigir yno. Bydd arlwy o ansawdd uwch yn denu rhagor o ymwelwyr i'r Gogledd ac i Venue Cymru, gan helpu i estyn y tymor ymwelwyr.  
Heddiw yn y Gogledd-ddwyrain, cafodd y Gweinidog gyfle i lansio prosiect newydd a sefydlwyd gan Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd gyda chyllid o Gronfa Arloesi Cynnyrch Croeso Cymru. Mae MythFest yn antur hudolus 3 awr o hyd yn yr awyr agored lle mae teuluoedd yn cael cyfle i ymgolli mewn chwedlau, cerddoriaeth a chrefftau naturiol gyda chreaduriaid mytholegol lleol o ddyfroedd gwyllt y Gogledd-ddwyrain. Bydd yn cael ei gynnal mewn pedwar lleoliad ar draws y Gogledd-ddwyrain yn yr haf. Bwriad y digwyddiad a gynhaliwyd heddiw i lansio'r prosiect oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau twristiaeth lleol am y gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal a sicrhau bod yr economi leol yn cael y budd mwyaf posibl ohonynt. 
Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: 
"Ar ôl y tywydd garw a gafwyd yn ddiweddar, dwi'n hynod falch o weld bod busnesau twristiaeth wrthi'n paratoi ar gyfer Pasg prysur a bod ganddyn nhw gynlluniau arloesol a chyffrous ar droed ar gyfer Blwyddyn y Môr yng Nghymru.
"Mae ymgyrch ryngwladol Croeso Cymru ar gyfer y gwanwyn wedi dechrau hefyd: bydd ganddo bresenoldeb mewn digwyddiadau byd-eang fel ITB Berlin; mae ymgyrch farchnata proffil uchel ar gyfer Blwyddyn y Môr ar waith hefyd yn y DU, Iwerddon a'r Almaen, gan gynnwys hysbysebion ar y teledu gydag un o sêr Hollywood, Luke Evans, yn chwarae'r brif ran. Mae ymgyrchoedd yn cael eu cynnal hefyd mewn partneriaeth â brandiau o bwys yn y byd teithio a thwristiaeth – pob un ohonyn nhw'n annog cwsmeriaid i ddewis Cymru ar gyfer eu gwyliau drwy ddefnyddio delweddau a straeon creadigol a difyr o bob cwr o'r wlad. A dweud y gwir, mae ansawdd ein gwaith yn cael ei gydnabod ledled y DU – yn ddiweddar, enillodd Croeso Cymru yr ail a'r drydedd wobr yn y Gwobrau Marchnata Twristiaeth, gan gystadlu â'r goreuon yn y maes."
“Roedd y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, yn llwyfan i ddangos yr ansawdd a'r amrywiaeth o brofiadau y gall Cymru eu cynnig. Roedden nhw hefyd yn dangos ymroddiad a phroffesiynoldeb ein sector twristiaeth llewyrchus wrth iddo groesawu ymwelwyr i Gymru a chynnig profiadau bendigedig iddyn nhw.  Wrth gwrs, allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau − a da yw gweld ein hatyniadau a'n busnesau yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu ac i dyfu eu busnesau er mwyn bodloni disgwyliadau cwsmeriaid yn y diwydiant byd-eang hwn, sy'n un mor gystadleuol."