Wrth i Gymru baratoi ar gyfer cyfnod prysur dros Ŵyl Banc y Sulgwyn a hanner tymor mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi dweud bod yr economi ymwelwyr yng Nghymru yn ffynnu
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae’r diwydiant twristiaeth ledled Cymru mewn sefyllfa bositif iawn. Ac mae hyn yn rhagor o newyddion da am berfformiad ein marchnadoedd rhyngwladol. Rydym yn cydnabod yn llawn pa mor gystadleuol yw’r farchnad a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant. Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol – yn enwedig o ystyried canlyniadau Refferendwm yr UE – yw gwneud mwy eto i adeiladu ar yr ymdeimlad hwn o hyder a momentwm i sicrhau ein bod yn rhyngwladol ein hagwedd.”
Mae ffigurau Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer teithio o dramor i Gymru yn 2016, yn dangos bod cynnydd yn y teithiau i Gymru bron 11% o gymharu â 2015, tra bod cynnydd o dros 8% ar y gwariant ar y teithiau i Gymru. Nifer yr ymweliadau rhyngwladol i Gymru yn 2016 oedd 1.074 miliwn, a’r gwariant cysylltiedig oedd £444 miliwn.
Roedd y cyntaf o flynyddoedd thematig Cymru yn llwyddiant mawr i Gymru, a llwyddodd gweithgarwch marchnata Croeso Cymru yn 2016 i gynhyrchu £370 miliwn yn ychwanegol i economi Cymru – sy’n gynnydd o 18% ar 2015. Dengys hyn bod ymwelwyr yn bendant wedi eu dylanwadu gan farchnata Croeso Cymru cyn mynd ar wyliau i Gymru. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar bod y blynyddoedd â themâu yn parhau gyda ‘Blwyddyn Darganfod’ newydd yn 2019 fydd yn adeiladu ar y y dair thema o antur, diwylliant a’r awyr agored.
Aeth Ysgrifennydd yr Economi yn ei flaen i ddweud:
“Er bod y rhan fwyaf o’n dangosyddion perfformiad yn dda ac er ein bod yn cael adborth cadarnhaol oddi wrth y diwydiant, mae’r ffigurau ar lefel Prydain yn dangos bod gostyngiad yn y niferoedd a fu’n aros dros nos yng Nghymru yn 2016 o gymharu â’r flwyddyn orau erioed yn 2015, a hynny yn unol â’r gostyngiadau ar gyfer Prydain drwyddi draw. Er hynny, mae’r darlun cyffredinol ar gyfer Cymru ‒ gan ystyried ymweliadau dydd gan dwristiaid, ymwelwyr rhyngwladol ac ymweliadau dros nos gan bobl o Brydain ‒ yn awgrymu y bydd Cymru yn gweld cynnydd sylweddol mewn twristiaeth yn gyffredinol o gymharu â 2015. Roedd cyfanswm yr ymweliadau ar draws pob un o’r tri chategori 16% yn uwch yn ystod y naw mis cyntaf ‒ sy’n adeiladu ar y ddwy flynedd flaenorol, a oedd ill dwy’n torri pob record.
“Mae gwaith yr ymgyrch farchnata yn parhau i droi’r diddordeb a’r cyfleoedd sy’n deillio o bunt wan yn archebion ar gyfer yr haf. Mae hwb i gyllid Croeso Cymru yn golygu bod £26.3m ar gael i fuddsoddi mewn marchnata a datblygu cynnyrch eleni. Felly, nawr, gallwn ni gydweithio ar raglen sy’n fwy uchelgeisiol nag erioed ar gyfer 2017.”
Mae prosiectau arloesol yn allweddol i lwyddiant yn y dyfodol. Mae £2 filiwn wedi ei gymeradwyo am gyfanswm o 38 o brosiectau ledled Cymru o dan y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol. Bydd y cyllid hwn yn galluogi’r sectorau preifat a chyhoeddus i ddatblygu prosiectau arloesol fydd yn sbarduno’r galw ac yn gwella’r hyn sy’n cael ei gynnig i ymwelwyr drwy gefnogi ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau tra’n edrych ymlaen at Flwyddyn y Môr ar yr un pryd.
Gwnaeth ymwelwyr o Brydain 9.56 miliwn o deithiau dros nos i Gymru yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2016. Roedd nifer y teithiau a wnaed i Gymru gan ymwelwyr o Brydain yn 11 mis cyntaf 2016 yn 8.62 miliwn, sef gostyngiad o 9.3% o gymharu ag 11 mis cyntaf 2015.