Neidio i'r prif gynnwy

Gyda gwyliau’r haf ar fin dechrau, Ken Skates, ymhlith y cyntaf i weld gweithgaredd newydd fydd yn ychwanegu at yr hyn y mae Cymru’n ei gynnig ym mlwyddyn Antur 2016

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld Treetop Nets sy’n agor i’r cyhoedd yn Fforest Zip World ddydd Sadwrn.  Dyma’r antur ddiweddaraf i’w hychwanegu at y casgliad o atyniadau anturio sydd eisoes yn cynnwys y Weiren Wib gyflymaf yn y byd a thrampolinau tanddaearol, oll yn rhan o un ar ddeg o atyniadau ar dri safle ym Mlaenau Ffestiniog, Bethesda a Betws-y-Coed. 

Mae cymal diweddaraf ymgyrch farchnata Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel gwlad yr antur hefyd yn dechrau’r wythnos hon.  Bydd llythrennau anferth adlewyrchol 4 metr o uchder ac 11 metr o led sy’n ffurfio’r gair ‘EPIC’ yn ymddangos yn ddirybudd ar hyd ac ar led y wlad dros yr haf fel rhan o ymgyrch y Flwyddyn Antur – gyda’r cyntaf yn ymddangos ym Mhen-y-Gwryd, Nant Gwynant. 

Bydd y gosodiad celf teithiol arloesol hwn yn tyfu’n ganolbwynt i ymwelwyr dynnu hunluniau a’r nod yw annog pobl i rannu delweddau a deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #Gwladgwlad #Epic.  Yn ogystal â’r daith, cynhelir ymgyrch integredig sy’n cynnwys PR a gweithgareddau eraill ar y cyfryngau, fel hysbysebion digidol, marchnata drwy e-byst a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i deuluoedd ac ymwelwyr yn ein rhanbarthau craidd yng Ngogledd-orllewin, Canolbarth a De-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Cawsom ddechrau epic i’n haf, diolch i dîm pêl-droed Cymru ac mae eu llwyddiant wedi rhoi cyfle digynsail inni ddangos gorau Cymru i weddill y byd.  Bydd ein hymgyrch farchnata ddiweddaraf yn rhoi hwb i enw da Cymru fel lle am anturiaethau yn ystod ein Blwyddyn Antur. 

“Mae’n dda iawn gweld busnesau’r sector breifat  fel Zip World yn buddsoddi yn eu busnesau.  Mae’r Gogledd yn wir yn ardal o safon byd i anturio ynddi ac rwy’n disgwyl ymlaen at weld rhagor o gynlluniau cyffrous gan dîm Zip World yn y dyfodol. 

“Mae’r diwydiant yn teimlo’n hyderus ar ddechrau gwyliau’r haf.  Mae’r ffigurau’n dangos y cawsom wyliau banc diwedd Mai llwyddiannus, gydag 85% o fusnesau’n dweud bod lefel eu busnes naill ai’n uwch neu’n debyg i lefelau yr un adeg yn 2015.  Rydym newydd gael dwy flynedd o’r bron lle cafwyd mwy o ymwelwyr o Brydain yn aros yng Nghymru nag erioed, ac mae’r argoelion yn dda y bydd 2016 hefyd yn flwyddyn dda. Mae hyn yn dangos bod y strategaeth twristiaeth, sy’n anelu at dwf o 10%, yn gweithio ac yn creu’r amodau cywir i’r sector preifat ffynnu.” 

Ar ôl agor y datblygiad diweddaraf hwn, mae Cyfarwyddwr Masnachol Zip World, Sean Taylor, eisoes yn cynllunio’r antur nesaf.  Mae’r Alpine Coaster ar safle Fforest Zip World newydd gael caniatâd cynllunio.  Mae Sean yn hyderus ynghylch yr haf i ddod a meddai: 

“Mae twristiaeth antur yn ffynnu yn y Gogledd.  Yn wir, rydyn ni’n teimlo mor hyderus yn ei ddyfodol fel ein bod am fuddsoddi £5.5 miliwn dros y 12 mis nesaf i gryfhau ei le fel prifddinas y gwyliau antur. 

“Flwyddyn nesaf, byddwn yn dadorchuddio’r Alpine Rollercoaster, gwerth £1.5miliwn, hwn eto y cyntaf o’i fath yn y DU; yn agor canolfan ymwelwyr newydd sbon gyda lle ynddi i 150 o ymwelwyr; a chynyddu nifer ein hanturiaethau i 13.  Ac rydyn ni’n gwneud hyn i gyd am ein bod yn deall y fformiwla sy’n ein gwneud yn atyniad rhaid mynd iddo: ein gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid; anturiaethau arloesol sy’n annog pobl o bob oed i deithio a dychwelyd i’r ardal; a’n gallu i wneud y gorau o ysblander Eryri i greu profiad bythgofiadwy i’r ymwelydd.”