Neidio i'r prif gynnwy

Ymgasglodd gweithwyr proffesiynol caffael yn ICC Cymru, Casnewydd, yr wythnos hon (5 Tachwedd) ar gyfer Procurex Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae prif ddigwyddiad caffael y genedl, a drefnir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i brynwyr a chyflenwyr, ynghyd ag ystod o randdeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, i gyfarfod, rhwydweithio a thrafod y materion allweddol sy'n wynebu'r sector caffael.  

Roedd digwyddiad 2024 yn cynnwys Cynhadledd Caffael Cymru, a gynhaliwyd gan y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Sian Lloyd a chafwyd anerchiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS. Roedd diwygio caffael yn uchel ar yr agenda, wrth i brynwyr a chyflenwyr barhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth newydd y llywodraeth, gyda'r potensial i drawsnewid y sector caffael.  

Cynhaliodd pedwar Parth Datblygu Sgiliau ystod o sgyrsiau a sesiynau trwy gydol y dydd, yn cwmpasu meysydd fel deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ddigidol, rheoli contractau, cyflawni newid sefydliadol, gwerth cymdeithasol, cynaliadwyedd a gwytnwch y gadwyn gyflenwi. 

Daeth Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru ag amrywiaeth o bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, CYD, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, GwerthwchiGymru a CLlLC. Roedd y Pafiliwn hefyd yn cynnal hwb gaffael gydweithredol, wedi'i staffio gan gynrychiolwyr sy'n gyfrifol am reoli rhai o fframweithiau caffael mwyaf Cymru. I gael gwybod mwy am ein fframweithiau cydweithredol, ewch i'n llyfryn fframwaith newydd sbon. Roedd cyrff cyhoeddus eraill â phresenoldeb mawr yn y digwyddiad yn cynnwys Busnes Cymru a Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a oedd yn arddangos ochr yn ochr ag amrywiaeth o gyflenwyr blaenllaw’r sector cyhoeddus.

Am fanylion am ein holl adnoddau defnyddiol, ewch i LLYW.CYMRU.

Am y tro cyntaf i Procurex Cymru, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ymuno â’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd i greu ParthMicro, BBaCh a'r Trydydd Sector. Yn cynnwys cyflenwyr ac arddangosiad cynnyrch ar thema bwyd a diod, datblygwyd y parth mewn ymateb i'r cyfleoedd sy'n bodoli o Ddeddf Caffael 2023 ac fe'i cynlluniwyd i helpu prynwyr sector cyhoeddus i archwilio cyfleoedd i ehangu eu cadwyni cyflenwi i gynnwys nifer fwy o fusnesau bach a micro, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau dielw. Roedd partneriaid ar y Parth Micro, BBaCh a'r Trydydd Sector yn cynnwys Cwmpas, CYD Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a Bwyd a Diod Cymru.  

Roedd Procurex Cymru hefyd yn nodi lansiad ymgyrch Caffael Callach, Cymru Gryfach gan Lywodraeth Cymru – yn helpu prynwyr a chyflenwyr i ddeall y newidiadau i ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu caffael cyhoeddus, gan gynnwys Deddf Caffael (2023), a ddaw i rym ym mis Chwefror 2025. 

Bydd y newidiadau yn effeithio ar bob sefydliad sector cyhoeddus, yn ogystal ag unrhyw gyflenwr cynhyrchion a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus, gan gynnwys y GIG. Bydd angen i bob cyflenwr gofrestru ar yr holl byrth perthnasol i ddod o hyd i gontractau sector cyhoeddus newydd a gwneud cais amdanynt. Nod y ddeddfwriaeth newydd yw sicrhau: 

  • Contractau teg a thryloyw 
  • Buddion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol 
  • Prosesau symlach  
  • Mwy o gydweithrediad ac arloesedd  
  • Mwy o hyblygrwydd 
  • Buddion ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig; Mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol 

Darganfyddwch fwy am y ddeddfwriaeth newydd ar LLYW.CYMRU.