Neidio i'r prif gynnwy

Rwy’n gwybod mor bwysig yw cwestiwn arholiadau’r flwyddyn nesaf i lawer o ddysgwyr a’u teuluoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn cynhadledd i’r wasg yr wythnos diwethaf, dywedais y byddwn yn dod i benderfyniad yn fuan ynghylch beth fyddai’r sefyllfa o ran cymwysterau yng Nghymru y flwyddyn nesaf, ac y byddwn yn cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw ddydd Mawrth, Tachwedd 10.

Y rheswm dros aros tan hynny yw y bydd pob dysgwr yn ôl yn yr ysgol ar ôl y cyfnod clo byr ac y bydd eu hathrawon wrth law i’w cefnogi.

Dywedais hefyd fy mod am aros am wybodaeth a chyngor pwysig ynghylch cymwysterau cyn dod i unrhyw benderfyniad.

Mae hyn yn cynnwys argymhellion interim adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gen i, a chyngor pellach gan Gymwysterau Cymru, gyda ffocws penodol ar ymarferoldeb a chyfleoedd cyfartal. 

Heddiw, rwy’n falch o gael cadarnhau bod y cyngor hwn wedi dod i law o’r ddwy ffynhonnell, ac maent ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn y dolenni isod.

Hoffwn ddiolch i Gymwysterau Cymru a’r panel adolygu a gadeiriwyd gan Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, am eu gwaith trwyadl ac am baratoi’r dogfennau pwysig hyn inni eu hystyried.

Rwyf wedi dweud bob amser ei bod yn hollbwysig clywed gan ddysgwyr a gafodd eu cymwysterau eleni, a’r rheini a fydd yn cael eu cymwysterau y flwyddyn nesaf, er mwyn dysgu o’u profiadau nhw cyn dod i benderfyniad terfynol.

Roedd ymgynghoriad diweddar yr adolygiad annibynnol yn agored i ddysgwyr. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr hyn a oedd ganddynt i’w ddweud, ac rwy’n falch bod yr wybodaeth hon nawr yn mynd i’n helpu i ddod i’n penderfyniad terfynol ynghylch arholiadau’r flwyddyn nesaf.

Byddaf nawr yn ystyried y cyngor hwn cyn mynd ati yr wythnos nesaf i drafod gyda phobl ifanc a’r gweithlu, cyn cyhoeddi ein penderfyniad ddydd Mawrth, Tachwedd 10.

Diolch yn fawr.