Mae cynllun Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO) yn darparu tryloywder i ddefnyddwyr ynghylch cyfran y trydan y mae cyflenwyr yn ei gael o gynhyrchu adnewyddadwy.
Dylai holl gwsmeriaid y GCC fod wedi derbyn eu tystysgrifau REGO ar gyfer 2019/20. Mae'r tystysgrifau'n cadarnhau bod:
- 100% o'r trydan a gyflenwir drwy EDF yn adnewyddadwy
- 63% o'r trydan a gyflenwir drwy EDF yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru Mae hyn yn gynnydd o 23% ar y 40% y flwyddyn flaenorol.
Ar hyn o bryd mae ein cwsmeriaid yn symud oddi wrth eu cyflenwyr nwy presennol, Corona Energy (CE), i Total Gas and Power (TGP). Mae'r contract newydd gyda TGP yn dechrau ar 1 Ebrill 2021.
Mae Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS) yn gweithio gyda chwsmeriaid i'w helpu gyda'r broses bontio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'n rheolwr cyfrif gwasanaethu yn TGP, Rachel Edney, dros y ffôn: 01737 275567; neu e-bostiwch: ccs@totalgp.com
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, e-bostiwch: NPSUtilities@llyw.cymru