Bydd y gwaith ffordd arfaethedig ar yr A470 yn Nhalerddig sydd i fod i ddechrau ar 31 Hydref yn cael ei ohirio tan y Flwyddyn Newydd.
Cafodd y sefyllfa ei hadolygu yn dilyn y digwyddiad a fu ar y rheilffordd nos Lun.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Mae fy meddyliau gyda phawb a effeithiwyd gan y digwyddiad ar y rheilffordd, ac mae fy nghydymdeimlad gyda theulu'r dyn a gollodd ei fywyd.
"Gohirio'r gwaith yn Nhalerddig tan y Flwyddyn Newydd yw'r peth iawn i'w wneud ar hyn o bryd i roi amser i'r gymuned ddod i delerau â'r digwyddiadau trist. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, byddai dechrau'r gwaith yr wythnos nesaf wedi dod ag ansicrwydd ar adeg anodd.
"Byddwn yn darparu diweddariadau pellach ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y gwaith ffordd.”
Bydd goleuadau traffig yn parhau ar y ffordd am weddill y flwyddyn, gydag un lôn ar gau. Bydd y ffordd yn cael ei monitro'n rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn.