Yn dilyn cyhoeddi datganiad fis diwethaf am y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol, mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths am atgoffa ffermwyr heddiw am gam nesa’r rheoliadau fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2023 ac yn cyhoeddi ymgynghoriad ar gynllun trwyddedu.
Ym mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog ei bwriad i ddarparu estyniad byr i weithredu'r mesur i gyflwyno’r terfyn blynyddol fesul daliad o 170kg/ha o nitrogen o dail da byw tan Ebrill 2023, a dywedodd y byddai’n cynnal ymgynghoriad yn yr hydref ar gynllun trwyddedu a fydd yn para tan 2025 lle caiff unrhyw fusnes fferm wneud cais am drwydded i gynyddu’r terfyn nitrogen fesul daliad i hyd at 250kg/ha gan ddibynnu ar anghenion y cnwd ac ystyriaethau cyfreithiol eraill.
Mae’r cynllun trwyddedu’n rhan o becyn o fesurau y cytunodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru arno ym mis Hydref i hwyluso’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithredu i leihau llygredd amaethyddol.
Hefyd, cafodd hyd at £20m ei gyhoeddi ym mis Hydref i helpu ffermwyr i ddilyn y rheoliadau. Mae hyn yn ychwanegol at y pecyn cymorth presennol sydd ar gael trwy’r cynlluniau pontio a’r hyfforddiant a’r cyngor sylweddol sy’n cael eu cynnig.
Daw Cam 2 y rheoliadau i rym ar 1 Ionawr 2023, ac eithrio’r terfyn 170kg/ha nitrogen. Mae’r pethau ychwanegol y mae angen i ffermwyr eu gwneud i leihau llygredd a gwella ansawdd dŵr ac aer yn cynnwys:
- Cynlluniau Rheoli Maethynnau
- Storio tail organig (heblaw am slyri), gan gynnwys mesurau tynnach ar domennydd dros dro ar gaeau
- Map Risgiau
- Rheolau ar wasgaru gwrtaith nitrogen
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwy’n annog pob ffermwr i wneud yn siŵr ei fod yn barod ar gyfer cam nesa’r Rheoliadau Llygredd Amaethyddol a ddaw i rym yng Nghymru ym mis Ionawr. Bydd Cyswllt Ffermio a’n llinell gymorth ar gael i’ch cynghori os oes gennych gwestiynau am yr hyn sydd gofyn ichi wneud, a bydd gwybodaeth i chi hefyd ar ein stondin yn y Ffair Aeaf.
“Rydyn ni’n cyhoeddi’r ymgynghoriad ar y cynllun trwyddedu heddiw, lle gall busnes fferm o dan rai amgylchiadau wneud cais i gynyddu’r terfyn nitrogen fesul daliad i 250kg/ha tan 2025. Dylai pawb ddarllen yr ymgynghoriad a mynegi barn.
“Yn ogystal â phrysuro’r gwaith i chwilio am atebion technolegol eraill posibl, rwyf wedi ymroi trwy’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru i weithio gyda’r gymuned ffermio i ddefnyddio’r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer, gan dargedu’r gweithgareddau hynny rydyn ni’n gwybod sy’n creu llygredd.”
Mae’r ymgynghoriad 12 wythnos yn dechrau heddiw ac mae ar gael yma. https://llyw.cymru/rheoli-maethynnau-rheolir-defnydd-cynaliadwy-o-dail-da-byw