Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi ymweld â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro i weld y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud i ganiatáu i ymwelwyr a thrigolion fwynhau'r dirwedd warchodedig hon, ei bywyd gwyllt a'i threftadaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod ei hymweliad â Thyddewi, cafodd y Dirprwy Weinidog ei chyflwyno i staff yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a gwirfoddolwyr. Siaradodd hi ag Aelodau a Swyddogion yr Awdurdod, gan drafod amrediad o faterion pwysig fel y newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, twristiaeth a thai fforddiadwy.

Yn ogystal cafodd y Dirprwy Weinidog daith o amgylch Oriel y Parc, oriel a chanolfan ymwelwyr arloesol sy'n cael eu gweithredu mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru. Mae Oriel y Parc yn dehongli ac yn rhoi bywyd i dirwedd y Parc Cenedlaethol ar gyfer y lluoedd sy'n ymweld ag ef.

Ymwelodd hi hefyd â St Justinian - a mwynhau cerdded ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Sir Benfro, sy'n cynnwys harbwr bach a Gorsaf Badau Achub Tyddewi.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Parciau Cenedlaethol Cymru a'u cymunedau'n llwyddo ac yn ffynnu wedi parhau, gyda bron £15 miliwn o gyllid yn cael ei gymeradwyo'n ddiweddar yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020–21. Bydd hyn yn cynnwys bron £5 o gyllid cyfalaf newydd i helpu Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac effeithiau twristiaeth.

Yn ystod yr ymweliad tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at yr angen i Awdurdodau Parc Cenedlaethol barhau i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030, wrth sbarduno’r manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a all ddeillio o'r gwaith hwn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

Mae ein Parciau Cenedlaethol rhagorol yn cynnig mynediad at rai o'r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru. Roedd yn wych dysgu mwy am y gwaith mae'r tîm yma yn Sir Benfro yn ei wneud, yn rheoli'r tirweddau hyn ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae ein parciau cenedlaethol a'n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn lleoedd arbennig iawn i bobl Cymru ac yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae'r tirweddau trawiadol hyn yn allweddol i gynnal ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chryf, gan ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd hamddena. Maen nhw hefyd mewn sefyllfa dda i ymateb i rai o'n heriau mwyaf mewn perthynas â'r angen taer i leihau allyriadau a helpu natur i adfer.

Dw i wrth fy modd ein bod yn gallu rhoi cyllid ychwanegol ar gyfer ein Parciau Cenedlaethol a'n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol y flwyddyn ariannol nesaf, i'w galluogi i gael effaith fwy byth yn yr ardaloedd hyn.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y Cyng. Paul Harries:

Roedd yn bleser gennyn ni groesawu'r Dirprwy Weinidog i Arfordir Penfro, ac egluro'r holl waith sy'n cael ei wneud wrth reoli'r Parc ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, diolch i'r cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru.