Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, â Ratio:Production yn Aberbargoed i weld sut mae Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol wedi helpu i dyfu'r busnes ac i ddeall mwy am ei wasanaethau i'r diwydiant cerddoriaeth a digwyddiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyfarnodd Cymru Greadigol, drwy'r Gronfa Cyfalaf Cerddoriaeth, fwy na £524 mil i 58 o leoliadau cerddoriaeth ledled Cymru. Mae'r gronfa wedi cynorthwyo busnesau cerddoriaeth bach a chanolig eu maint i wella a chynyddu eu rhagolygon masnachol a'u cynaliadwyedd a chyfrannu at ddatblygiad a thwf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Cafodd Ratio:Production gyllid drwy'r Gronfa Cyfalaf Cerddoriaeth i ddatblygu stiwdio recordio bwrpasol ar gyfer recordio perfformiadau byw a chreu cyfryngau i artistiaid, yn ogystal â'r cyfleusterau i wasanaethu Iaith Arwyddion Prydain a dehongli ar gyfer cyngherddau cerddoriaeth fyw.

Mae'r cyllid hwn yn dilyn y gefnogaeth hanfodol a gafodd y busnes yn ystod pandemig Covid o'r Gronfa Adfer Diwylliannol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

"Mae'r Gronfa Cyfalaf Cerddoriaeth wedi annog newid sylweddol yn y diwydiant cerddoriaeth. Bydd gwell cyfleusterau yn ychwanegu at yr ystod o ddefnydd o leoliadau, yn denu gwell artistiaid ac yn cynyddu nifer y cynulleidfaoedd. Bydd hyn i gyd yn rhoi budd economaidd uniongyrchol i fusnesau cerddoriaeth, eu cadwyni cyflenwi, a'r diwydiant yn ei gyfanrwydd.

"Roeddwn i wrth fy modd yn gweld sut mae Ratio:Production wedi gwneud y gorau o'r cyllid – ac yn dymuno pob llwyddiant iddo ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Emily Darlington o Ratio:Production:

"Mae'r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan y Llywodraeth yn ystod ac ers y pandemig wedi bod yn rhagorol, rydym wedi gallu cynnal ein gweithwyr llawrydd drwy gydol y broses a diogelu ein busnes am flynyddoedd i ddod."

Fel cymorth ychwanegol i'r sector Cerddoriaeth yng Nghymru, bydd Cymru Greadigol yn lansio Cronfa Refeniw Cerddoriaeth newydd gwerth £250,000 ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022.

Nod y Gronfa Refeniw Cerddoriaeth yw annog labeli cerddoriaeth a busnesau rheoli cerddoriaeth i wneud cais am gyllid a fydd yn rhoi cymorth ychwanegol i ymgyrchoedd cryfach pan fydd cerddoriaeth newydd yn cael ei rhyddhau. Gwella eu rhagolygon masnachol a'u cynaliadwyedd; ac o ganlyniad, cyfrannu at ddatblygiad a thwf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.