Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ymddiheuro’n bersonol i’r rhai a ddioddefodd yn sgil yr arfer hanesyddol o fabwysiadu gorfodol yn y 1950au, y 1960au a’r 1970au.
Wrth siarad yn y digwyddiad ‘Sgwrs Fawr ar Fabwysiadu’, dywedodd Julie Morgan:
Mae arferion mabwysiadu wedi cael eu diwygio’n sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf, er mwyn rhoi plant wrth wraidd penderfyniadau. Mae barn mabwysiadwyr a phlant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yn hanfodol er mwyn ein helpu i ddatblygu ein polisi, ein harferion a’n deddfwriaeth.
Er bod arferion mabwysiadu gorfodol yn bodoli ers cyn datganoli yng Nghymru, maen nhw wedi cael effaith barhaol ar bawb a’u profodd – ar y rhieni a’r plant. Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan fabwysiadu gorfodol hanesyddol.
Ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond gallaf roi sicrwydd bod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi’u cryfhau’n sylweddol ers hynny ac y byddwn yn ymdrechu i ddarparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn.
I’r holl ddioddefwyr, hoffwn fynegi fy edifeirwch a fy nghydymdeimlad dwysaf - eich bod wedi gorfod dioddef arferion hanesyddol mor ofnadwy - a hynny oherwydd methiannau cymdeithas. Am hyn, mae’n wirioneddol ddrwg gen i.
Daw’r ymddiheuriad personol wedi i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol gyhoeddi ei argymhellion yn dilyn ymchwiliad i ddeall profiadau menywod di-briod y cafodd eu plant eu mabwysiadu rhwng 1949 a 1976 yng Nghymru a Lloegr.
Aeth Julie Morgan yn ei blaen:
Rwy’n croesawu argymhellion yr ymchwiliad, y mae Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn eu hystyried yn ofalus i weld pa welliannau y gellir eu gwneud yng Nghymru.
Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan fabwysiadu gorfodol i gysylltu â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a fydd yn gallu cyfeirio unigolion at wasanaethau eraill gan gynnwys grwpiau cymorth cymheiriaid ac eiriolaeth, gwasanaethau cymorth ôl-fabwysiadu wedi’u cyllido gan Lywodraeth Cymru, a darparwyr gwasanaethau hirsefydlog eraill nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth.