Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i arweinwyr byd ymgynnull yng nghynhadledd fioamrywiaeth COP16 Cali yr wythnos hon, a fis cyn iddynt ddod at ei gilydd yn Baku ar gyfer COP 29, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth sy'n canolbwyntio ar ddarparu Cymru wedi'i haddasu ar gyfer ein hinsawdd sy'n newid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd Cymru ar gyfer 2024 - a rennir gan y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies - yn amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â'r achosion.

Mae'n nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud eisoes a beth y bydd yn ei wneud yn y dyfodol.

Mae'r ddogfen yn cynnwys cynlluniau i bob rhan o'r llywodraeth weithio gyda'i gilydd, o ddiogelu rhwydweithiau trafnidiaeth agored i niwed rhag tywydd eithafol i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â materion diogelwch bwyd. 

Mae'n dathlu cynnydd fel y buddsoddiad o £75m, y buddsoddiad mwyaf hyd yma,  i greu amddiffynfeydd gwell rhag llifogydd. 

Mae meysydd allweddol o ran datblygu polisi yn cael eu cydnabod, megis y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cefnogi ffermwyr i dyfu bwyd o ansawdd uchel mewn ffordd gynaliadwy. 

Mae'r strategaeth hefyd yn dogfennu ymrwymiadau allweddol fel diogelu a rheoli 30% o dir, dŵr croyw ac ardaloedd morol yn effeithiol; a elwir yn darged '30 erbyn 30'.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: 

Newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf, cyflymaf a mwyaf parhaol sy’n wynebu dynoliaeth. 

Rydym eisoes yn gweld effeithiau newid hinsawdd gyda gaeafau gwlypach, hafau cynhesach a phatrymau tywydd mwy anrhagweladwy. 

Bydd yr elfennau hyn yn dod fwyfwy i’r amlwg dros y blynyddoedd a’r degawdau nesaf.

Mae’r heriau o gyrraedd sefyllfa sero net ac addasu i newid hinsawdd yr un mor bwysig a thaer â’i gilydd.

Bwriad y strategaeth hon yw ymhelaethu ar y drafodaeth ynghylch addasu ac ysgogi pob un ohonom i achub ar y cyfleoedd, gan ddiogelu ein pobl a'n planed ar yr un pryd.

Yn ogystal â dogfennu mwy na 240 o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, mae hefyd yn cyfleu rolau pobl eraill, gan gynnwys cyrff partner fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Awdurdodau Lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft, wedi cyhoeddi'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd o ran newid hinsawdd yng Nghymru i helpu sefydliadau i asesu'r risgiau i iechyd a lles yn sgil newid hinsawdd, tra bod gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys atebion sy'n seiliedig ar natur i leihau llifogydd a datblygu cynlluniau peilot addasu arfordirol yn ardaloedd mwyaf agored i niwed Cymru.

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig o ran addasu i newid hinsawdd, ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.

Mae’r strategaeth hon yn cydnabod y gwaith pwysig a wneir gan ein partneriaid cyflawni hefyd.

Bydd yr hyn a wneir gan gymunedau, mudiadau’r sector gwirfoddol, busnesau ac eraill yn allweddol o ran rheoli newid hinsawdd.

Mae newid hinsawdd yn cyflwyno llawer o heriau anodd, cymhleth ac mae llawer mwy i'w wneud o hyd ond rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth newydd hon a gyhoeddir heddiw yn gatalydd ar gyfer gweithredu.

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae camau eisoes yn cael eu cymryd i addasu i'r hinsawdd sy'n newid.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ymrwymo i chwarae ei rhan i helpu i adfer a diogelu amgylchedd naturiol Cymru a mynd i'r afael â newid hinsawdd; gydag uchelgais i adfer 4,600 hectar o gynefin â blaenoriaeth a dod yn garbon sero net yng Nghymru erbyn 2030.

Dywedodd Chris Flynn, Prif Arddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer De-ddwyrain Cymru: 

Mae llawer o'r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi ymwneud ag edrych ar newid hinsawdd, sut rydyn ni'n addasu a hefyd sut rydyn ni'n chwarae ein rhan yn y broses o adfer natur.

Gall popeth a wnawn nawr, o dorri lawntiau ac adfer dolydd i dyfu llysiau, i gyd gael eu newid fel ein bod yn cael effaith fwy cadarnhaol yn y dyfodol.

Rydyn ni bob amser yn edrych ar ein harferion; y mathau o blanhigion rydyn ni'n eu defnyddio a hefyd sut rydyn ni'n gweithio'n well gyda'r tymhorau i wneud y gorau o'r hyn sydd gennym yma.

Bydd y Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd newydd nawr yn cael ei defnyddio i ysgogi ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid ar bwnc addasu i'r hinsawdd trwy gynhadledd rithwir Wythnos Hinsawdd Cymru fis nesaf (11-15 Tachwedd).

Mae rhagor o drafodaethau wedi'u cynllunio drwy raglen o ddigwyddiadau cyhoeddus Sgyrsiau am yr Hinsawdd sydd i'w cynnal ledled Cymru rhwng Tachwedd a Ionawr.

Gallwch ddarganfod mwy a chofrestru i gymryd rhan yn yr wythnos yma wythnoshinsawdd.llyw.cymru