Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan bobl Denmarc eu 'Hygge', ond yma yng Nghymru mae gennym rywbeth sy'n rhagori ar hwnnw - 'Cwtsh'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel gyda 'hiraeth', dim ond y Cymry sy'n deall 'cwtsh' yn iawn. Gan fod 'cwtsh' yn gallu cynnwys cysur, tawelwch meddwl a theimlo'n glyd,  beth well fel enw ar ap Cymraeg ar gyfer myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar?

Bydd "Ap Cwtsh" ymhlith y datblygiadau technolegol diweddaraf yn Gymraeg a fydd i'w gweld heddiw yn nigwyddiad 'Cymru Arloesol:   Technoleg Cymraeg 2050' yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd.

Bydd profiad rhithwir yn Gymraeg, sy'n helpu defnyddwyr i ddeall sut beth yw byw gyda dementia yn cael ei lansio yn y digwyddiad â chymorth Beti George, sy'n ymgyrchwraig flaenllaw dros ddementia wrth gwrs.  

Ariannwyd yr holl dechnoleg gan Lywodraeth Cymru drwy'r grant Cymraeg 2050. Mae grant Cymraeg 2050 yn elfen allweddol o strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Mae'n cynnig grantiau bychan tuag at brosiectau arloesol, tymor byr sy'n ceisio cynyddu defnydd pobl o'r iaith o ddydd i ddydd a hybu technoleg sy'n cefnogi'r defnydd a wneir o'r Gymraeg.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

“Rydym am i’r defnydd o’r Gymraeg fod yn rhan arferol o fywyd bob dydd, fel bod siaradwyr ar bob lefel yn teimlo’n hyderus i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

"Mae technoleg yn dod yn rhan bwysicach o hyd o'r bywyd bob dydd hwnnw, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddatblygu technoleg yn y Gymraeg fel bod pobl yn gallu defnyddio'u Cymraeg ar-lein yn ogystal ag yn eu bywyd bob dydd. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod ieithoedd fel iaith Gwlad yr Iâ dan fygythiad oherwydd bod Saesneg yn teyrnasu ym maes technoleg, felly mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi i sicrhau bod gan y Gymraeg bresenoldeb cryf ar-lein yn ogystal ag yn ein cymunedau.

"Mae'n arbennig o bwysig ar gyfer rhywbeth fel y prosiect dementia sy'n defnyddio rhith-wirionedd oherwydd, pan fydd unigolyn yn datblygu dementia, yn aml iawn bydd yn colli'r gallu i gyfathrebu yn ei ail iaith.

"Dw i wrth fy modd bod y prosiectau hyn wedi dwyn ffrwyth. Dw i'n ymwybodol iawn o faint yr her o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dw i'n hynod o falch bod cynifer o sefydliadau a phobl sydd â'r sgiliau a'r ymroddiad i ymuno â ni yn y gwaith."

Dyma rai o'r datblygiadau technolegol eraill sy'n cael eu harddangos:

  • WordNet - prosiect i greu  WordNet (cronfa ddata eiriadurol) ar gyfer y Gymraeg.
  • Mapio Cymru - fersiwn Gymraeg o OpenStreetMap a fydd yn ei gwneud yn rhoi rhwydd hynt i fapio Cymru yn Gymraeg o dan drwydded agored.
  • Bys a Bawd - adnodd canu rhyngweithiol ar gyfer teuluoedd a phlant.
  • Wici Caerdydd - nod y prosiect yw cynyddu'r nifer o erthyglau sydd ar gael yn Gymraeg ar Wikipedia, a phrosiect i hybu defnyddio'r Gymraeg drwy Snapchat.