Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fframwaith craffu ar gyfer:

  • Y rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol: aelodau byrddau a phwyllgorau, cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol.
  • Uwch-arweinwyr: prif weithredwyr, cadeiryddion a phenaethiaid gwasanaeth.
  • Y rheini sy’n arwain ar lywodraethu a chydymffurfio.

O dan y ddyletswydd hon, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig, wrth iddynt wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion, ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau’r anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cafodd y fframwaith hwn ei ddatblygu er mwyn helpu’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i gyflawni’r ddyletswydd sydd arnynt i roi ‘sylw dyledus’ i’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Termau allweddol ar gyfer y rheini sy’n gwneud penderfyniadau

Penderfyniad Strategol

Yn gyffredinol, bydd penderfyniadau strategol yn rhai a fydd yn effeithio ar sut y bydd y corff cyhoeddus perthnasol yn cyflawni ei ddiben statudol arfaethedig (ei swyddogaethau o ran y set o bwerau a dyletswyddau y mae’n eu defnyddio i gyflawni ei gylch gwaith) dros gyfnod sylweddol, ac ni fyddant yn cynnwys penderfyniadau rheolaidd ‘o ddydd i ddydd’.

Sylw Dyledus

Mae sylw dyledus yn gysyniad cyfreithiol sydd wedi ennill ei blwyf yn y gyfraith ar gydraddoldeb. Dylai fod gan gyrff cyhoeddus perthnasol ddealltwriaeth dda o’r cysyniad sylw dyledus mewn perthynas â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’n golygu y dylai’r pwysigrwydd a roddir i fater penodol fod yn gymesur â’i berthnasedd.

Trywydd Archwilio

Yn y cyd-destun hwn, dylai ‘trywydd archwilio’ fod yn gofnod gam wrth gam o’r dystiolaeth a gasglwyd er mwyn llywio penderfyniad.

Anogir cyrff cyhoeddus perthnasol i:

  • Gyflwyno trywydd tystiolaeth clir ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir o dan y ddyletswydd.
  • Sicrhau bod y dystiolaeth yn dangos unrhyw effaith neu effeithiau y byddai’r penderfyniada hynny’n debygol o’u cael ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
  • Cyflwyno tystiolaeth i ddangos eu bod wedi rhoi sylw dyledus i’r penderfyniad, gan gynnwys cofnodi unrhyw newidiadau a wnaed i’r penderfyniad.

Gallwch ystyried anfanteision economaiddgymdeithasol wrth ymgymryd â phrosesau sy’n bodoli eisoes, megis asesiadau effaith, systemau ar gyfer ymgysylltu a chynnwys pobl, ystyried tueddiadau yn y dyfodol, a defnyddio’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dylech gyfeirio at yr ‘Offeryn mapio’ i’ch helpu yn hynny o beth:

Rôl penderfynwyr strategol

Mae’r isod yn dod o’r canllawiau anstatudol ac mae’n rhoi enghraifft gam wrth gam o sut y gallech gyflawni’r ddyletswydd yn ymarferol. Diben cam pedwar yw galluogi penderfynwyr i gadarnhau eu bod wedi dilyn yr holl gamau, gan sicrhau bod ‘sylw dyledus’ wedi’i roi.

Er mwyn gwneud penderfyniadau da, rhaid ichi fynd ati’n barhaus i adolygu ac i wella. Dylech barhau i asesu effaith, a chyflwyno newidiadau er mwyn sicrhau bod anghydraddoldeb o ran canlyniadau yn parhau i leihau.

Cam 1: cynllunio

  • A yw’r penderfyniad yn benderfyniad strategol?

Cam 2: tystiolaeth

  • Pa dystiolaeth sydd gennych am anfantais gymdeithasol-economaidd ac anghydraddoldeb posibl o ran canlyniadau mewn perthynas â’r penderfyniad hwn?
  • A ydych wedi cysylltu a thrafod gyda’r rheini yr effeithir arnynt gan y penderfyniad?
  • A ydych wedi ystyried cymunedau a mannau buddiant?

Cam 3: asesu a gwella

  • Beth yw prif nodau ac effeithiau posibl y cynnig?
  • Sut y gellid ailwampio neu wella’r cynnig er mwyn lleihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau a achosir gan anfantais gymdeithasol-economaidd?

Cam 4: penderfynwyr strategol

  • Diben y cam hwn yw galluogi penderfynwyr i gadarnhau bod sylw dyledus wedi’i roi, er enghraifft, cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol, aelodau byrddau a phwyllgorau. Dylent fodloni eu hunain bod y corff wedi deall y dystiolaeth a’r effaith debygol, a’i fod wedi ystyried a ellir newid y polisi er mwyn lleihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau ac achosir gan anfantais gymdeithasol-economaidd.

Cam 5

  • Y cam hwn yw’r broses o ddarparu tystiolaeth a chofnodi sut y cafodd ‘sylw dyledus’ ei roi. Dylai newidiadau i’r penderfyniad gael eu gwneud a’u cofnodi yn ystod y cam hwn.

Cadarnhau bod sylw dyledus wedi’i roi

Gall penderfynwyr strategol ddefyddio’r rhestr wirio isod i wneud hynny:

Enghreifftiau a allai helpu i gadarnhau bod
sylw dyledus wedi’i roi
Enghreifftiau o wybodaeth y gellid ei darparu
ar gyfer penderfynwyr, neu wybodaeth y gallent
ofyn amdani
Mae digon o dystiolaeth wedi cael ei hystyried, mae unrhyw fylchau yn y dystiolaeth wedi’u nodi, ac mae camau yn eu lle i fynd i’r afael â’r bylchau hynny.

Trywydd archwilio o’r dystiolaeth, gan gynnwys:

Y sefyllfa bresennol, gwybodaeth am dueddiadau yn y dyfodol, gwybodaeth sydd wedi dod i law drwy ymgynghori, ymgysylltu a chynnwys eraill. Dyma rai enghreifftiau o le y gallech ddod o hyd i dystiolaeth:

  • Dogfennau asesu effaith
  • Dogfennau asesu risg
  • Dogfennau ar ddefnyddio’r 5 ffordd o weithio
  • Cynlluniau a chofnodion ymgysylltu
  • Cynlluniau busnes adrannau
  • Prosesau Cynllunio Corfforaethol Strategol
Mae gan bobl a chymunedau, ac yn enwedig y bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, lais.Adborth ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu, prif negeseuon, adroddiadau cryno.
Sut y mae’r penderfyniad yn debygol o effeithio ar anghydraddoldeb o ran canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.Dogfennau asesu effaith.
Sut y mae’r penderfyniad yn debygol o
effeithio mwy ar rai cymunedau buddiant neu
gymunedau lle.
Dogfennau asesu effaith.
Yr effaith ar y bobl hynny sydd â nodweddion
gwarchodedig ac effeithiau eraill yng nghyswllt croestoriadedd.
Dogfennau asesu effaith.
Os oes modd, cyflwynwyd newidiadau i sicrhau bod y penderfyniad yn lleihau anghydraddoldeb a achosir gan anfanteision economaidd-gymdeithasol.

Dogfennau asesu effaith.

Papurau a nodiadau ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau/cyfarfodydd y bwrdd, cynlluniau prosiect.

Dylech gyfeirio ar dudalen 8 yn y canllawiau statudol i gael rhagor o wybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am dermau allweddol i’w gweld yn y canllawiau a gyhoeddwyd.

Rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol i’ch helpu i gyflawni’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys canllawiau, dogfen mapio dyletswyddau ac offeryn tracio cynnydd.