Neidio i'r prif gynnwy

1. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Bydd y penderfyniadau polisi a nodir yn Adran 1 yn effeithio ar bob plentyn a pherson ifanc a manylwyd ar y rhain yn Adrannau 1 i 5 o'r Asesiad Effaith Integredig hwn, gan gynnwys y camau lliniaru ategol rydym wedi ceisio eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, yn gryno, mae'n debygol y bydd yr effeithiau hyn fel a ganlyn:

Tarfu ar ddysgu

Gyda gwyliau'r Pasg yn cael eu symud ymlaen, ysgolion yn cael eu haddasu at ddibenion gwahanol ac felly ar gau i'r mwyafrif o ddysgwyr a chyflwyno dysgu o bell. Mae'n debyg y bydd wedi cymryd rhywfaint o amser i bob dysgwr addasu i'r sefyllfa hon, ni waeth beth fo'i amgylchiadau, ac ni fwriedir i'r rhaglen Parhad Dysgu na'r ddarpariaeth mewn ysgolion a addaswyd at ddibenion gwahanol atgynhyrchu'r addysg a fyddai'n cael ei darparu mewn ysgolion fel arfer. Bydd llawer o ysgolion eisoes wedi bod yn cynllunio trefniadau pontio a gweithgareddau i ddysgwyr blwyddyn 6 sy'n symud i ddarpariaeth uwchradd y flwyddyn nesaf cyn i'r cyfyngiadau symud gael eu rhoi ar waith.

Effaith negyddol bosibl ar iechyd a llesiant dysgwyr

Gall peidio â bod yn yr ysgol effeithio ar arferion dyddiol a rhyngweithio cymdeithasol a all gynyddu teimladau o unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl. Gall peidio â bod yn yr ysgol gael effaith andwyol ar faeth plant a'u lefelau o weithgarwch corfforol, ac mae'n bosibl y bydd gorbryder yn cynyddu o ganlyniad i natur y pandemig a phryder am deulu a ffrindiau. Bydd llawer o ddysgwyr wedi dioddef trawma i ryw raddau o ganlyniad i beidio â bod yn yr ysgol. Gall diffyg chwarae hefyd effeithio ar iechyd a datblygiad emosiynol. Er bod yr effeithiau ar ddysgu i'r rhai mewn blynyddoedd pontio yn annhebygol o fod yn sylweddol i'r rhan fwyaf o ddysgwyr, mae'r goblygiadau llesiant i'r rhai sy'n symud o un lleoliad i'r llall, heb gyfle i ffarwelio o bosibl, wedi'u nodi.

Llesiant diwylliannol

Effaith negyddol ar lesiant diwylliannol, gyda llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, celfyddydol, chwaraeon a hamdden. I'r rhai mewn cartrefi di-Gymraeg, bydd mwy o heriau o ran datblygu'r Gymraeg.

Llesiant oherwydd eu hamgylchedd cartref

I rai dysgwyr, gall peidio â bod yn amgylchedd yr ysgol fod yn arbennig o niweidiol. Gallai hyn fod oherwydd eu hamgylchedd cartref: problemau alcohol neu gyffuriau; perthnasoedd camdriniol; diffyg goddefgarwch o grefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol dysgwr, a mwy o risg o gamfanteisio ar-lein; neu am fod angen cymorth ychwanegol ar y dysgwr gyda'i ddysgu neu ei lesiant a ddarperir drwy'r ysgol, er enghraifft cymorth dysgu ychwanegol, offer arbenigol, gwasanaethau cwnsela. Hefyd, bydd peidio â chael trefn ddyddiol yr ysgol a cholli sicrwydd o ran pryd neu sut y bydd pethau'n digwydd yn ystod y dydd yn effeithio ar rai dysgwyr, yn ogystal â pheidio â gweld athrawon a staff cymorth y maent wedi meithrin cydberthynas â nhw. Gall hyn gael mwy o effaith ar y dysgwyr hynny sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, dysgwyr y mae trawma wedi effeithio arnynt neu'r rhai sy'n cael trafferth rheoli eu hemosiynau.

Cyfleoedd cynnydd yn y dyfodol

Mae canslo arholiadau wedi peri gorbryder ymhlith llawer o ddysgwyr, o ran effaith bosibl ar eu cyfleoedd cynnydd yn y dyfodol, amcangyfrif graddau a ph'un a fydd hyn yn adlewyrchiad cywir a theg o'u perfformiad tebygol pe baent wedi sefyll arholiadau, ac effaith y tarfu ar y rhai y disgwylir iddynt sefyll eu harholiadau yn 2021.

Effaith ar ymgeiswyr preifat

Bydd effaith ychwanegol ar rai dysgwyr sy'n ymgeiswyr preifat, a all gynnwys y rhai sy'n cael eu haddysgu gartref, y rhai sy'n ymgymryd â dysgu o bell (er enghraifft dysgwyr mwy aeddfed neu'r rhai sy'n paratoi i ailsefyll) a'r rhai sy'n cael gwasanaethau tiwtora preifat a ddarperir drwy'r awdurdod lleol (rhai cyfleusterau addysg heblaw yn yr ysgol neu Unedau Cyfeirio Disgyblion er enghraifft), oherwydd os na fydd gan ganolfan arholiadau ddigon o wybodaeth am ddysgwr er mwyn gwneud dyfarniad, efallai na fydd yn bosibl i'r dysgwr gael gradd amcangyfrifedig.

Er y cydnabyddir y bydd y mwyafrif o'r effeithiau hyn yn cael effaith negyddol ar ddysgwyr, mae rhai effeithiau cadarnhaol posibl yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau hefyd pan fydd ysgolion a lleoliadau ar gau i'r mwyafrif o ddysgwyr. Mae peidio â bod yn yr ysgol neu mewn lleoliad addysgol arall wedi bod yn brofiad cadarnhaol i rai dysgwyr a gwyddom, er enghraifft, fod diddordeb rhai dysgwyr yn yr hyn y maent yn ei ddysgu wedi cael ei ailennyn drwy'r ffordd newydd hon o weithio. 

Gall manteision posibl eraill gynnwys:

  • mwy o amser i'w dreulio â'u teulu agos, gan gynnwys teuluoedd yn agosáu at ei gilydd ar ôl treulio mwy o amser gyda'i gilydd
  • mwy o amser i ganolbwyntio ar hobïau, diddordebau a chyfleoedd i chwarae
  • teimlo'n fwy diogel yn eu lleoliadau maethu
  • lleihad mewn gorbryder os oeddent yn cael eu bwlio yn yr ysgol
  • lleihad mewn gorbryder am nad oes rhaid sefyll arholiadau pwysig yn yr haf

Bydd yn bwysig casglu'r straeon cadarnhaol hyn ac adeiladu arnynt.

O ran y penderfyniad i ohirio gwaith ar y cynigion addysg yn y cartref, er ein bod yn ymwybodol o effaith y penderfyniad hwn ar addysgu plant yn y cartref, mae dyletswydd eisoes ar awdurdodau lleol i nodi plant yn eu hardal nad ydynt yn cael addysg addas. Diben y cynigion ar gyfer y canllawiau statudol a'r rheoliadau cronfa ddata oedd atgyfnerthu a chynorthwyo awdurdodau lleol i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyfredol honno. Mae eu cyfrifoldebau o ran sicrhau bod plant yn cael addysg addas, ni waeth ble y caiff ei darparu, yn gyfredol o hyd.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi dioddef profiad niweidiol yn ystod plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn cartrefi Cymraeg eu hiaith a phlant mewn addysg Gymraeg ac ati.)

Bydd y penderfyniadau polisi a nodir yn Adran 1 yn cael effaith niweidiol ar bob grŵp o blant a phobl ifanc fel y trafodir yn Adrannau 1 i 5. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd rhai o'r effeithiau hyn yn cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol o ddysgwyr:

Addasu ysgolion at ddibenion gwahanol

  • Dysgwyr agored i niwed a dan anfantais, gan gynnwys y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim, y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt a'r rhai o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sy'n tueddu i gael llai o gyfleoedd addysgol y tu allan i'r ysgol. Mae'n bosibl bod eu rhieni'n llai tebygol o fod yn barod ar gyfer dysgu o bell, yn enwedig os oes ganddynt addysg ac adnoddau cyfyngedig eu hunain.
  • Gall fod diffyg gallu i gymryd rhan mewn dysgu o bell oherwydd diffyg mynediad digidol, dim cyfrifiaduron, problemau wrth gysylltu â'r rhyngrwyd ac ati. Yn ôl adroddiad gan Ymddiriedolaeth Sutton, yn yr ysgolion mwyaf difreintiedig nododd 15% o athrawon na fyddai gan fwy na thraean o'u myfyrwyr fynediad digonol at ddyfais electronig er mwyn dysgu o gartref, o gymharu â dim ond 2% yn yr ysgolion gwladol mwyaf cefnog. Mae nifer o astudiaethau yn dangos bod y dysgwyr hynny nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd gartref dan anfantais addysgol. Mae mynediad digidol yn bwysig ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl hefyd, gan fod yr angen i hunanynysu'n gorfforol yn hybu gweithgareddau cymdeithasol ar-lein.
  • Cyn yr argyfwng presennol, roedd bwlch cyrhaeddiad nodedig eisoes yn amlwg rhwng y dysgwyr tlotaf a'r rhai cyfoethocaf, gyda'r rhai o gefndiroedd difreintiedig eisoes ddwywaith mor debygol o adael addysg ffurfiol heb gymwysterau TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg o gymharu â'u cyd-ddisgyblion mwy cefnog. 
  • Mae risg felly y bydd treulio amser i ffwrdd o'r ysgol yn lledaenu'r bwlch cyrhaeddiad hwn, gyda gwaith ymchwil helaeth yn dangos bod y myfyrwyr tlotaf yn mynd hyd yn oed yn fwy ar ei hôl hi yn ystod seibiannau o'r ysgol, megis gwyliau'r haf. Mae hefyd yn debygol y bydd yr effaith ar ganlyniadau ehangach y dysgwyr hyn yn fwy na'r effaith ar eu cyfoedion, a fydd yn debygol o gael mwy o gymorth gartref gyda'u datblygiad a'u dysgu, a hefyd mae'n bosibl y bydd ganddynt lefelau uwch o lesiant oherwydd eu hamgylchiadau gartref.

I'r 24,000 o blant agored i niwed yng Nghymru, daw'r cyfnod hwn â rhagor o ansicrwydd. Mae'n debygol y bydd y bwlch mewn dysgu yn cael mwy o effaith arnynt a gallai anghydraddoldeb posibl yn y cymorth maent yn ei gael gartref eu rhoi dan fwy o anfantais os bydd, er enghraifft, eu gofalwyr maeth, eu perthnasau neu staff mewn cartrefi gofal yn mynd yn sâl. Yn yr un modd, efallai y bydd anawsterau i ofalwyr ifanc wrth gydbwyso dysgu parhaus o gartref â gofalu am aelodau o'r teulu.

Efallai fod dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais wedi bod yn cael cymorth ychwanegol yn yr ysgol. Gallai hyn fod wedi cynnwys, er enghraifft, gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol, THRIVE, coetsio emosiynol, Therapi Lego, defnydd o offer arbenigol neu hyd yn oed gymorth un i un. Er y byddem yn disgwyl i hyn barhau o bell i ryw raddau; mae'n annhebygol y byddai modd darparu'r un cymorth yn yr un ffordd o bell. 

Gall hyn fod wedi cael effaith negyddol ar ddysgu a llesiant y dysgwyr hyn; ond dylid lliniaru'r effaith hirdymor drwy'r cymorth a roddir ar waith wrth inni symud ymlaen i'r cam nesaf ar gyfer y system addysg.

Yn ogystal, i rai plant sy'n agored i niwed, athrawon oedd y gweithwyr proffesiynol oedd mewn cysylltiad mwyaf rheolaidd â'r plant a, thrwy gyswllt dyddiol, roeddent mewn sefyllfa i nodi plant a oedd yn wynebu risg a gwneud atgyfeiriadau at asiantaethau eraill. I rai plant, gallai'r diffyg cyswllt ag athrawon arwain at oedi wrth nodi risg. Fodd bynnag, er mwyn lliniaru hyn, cyn i ysgolion gael eu haddasu, gofynnwyd iddynt nodi eu plant mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai nad oedd gwasanaethau yn gwybod amdanynt, a chadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw. Yn ogystal, rhoddodd y gwasanaethau plant statws 'Coch, Melyn, Gwyrdd' i bob plentyn â gweithiwr cymdeithasol er mwyn asesu lefel y cyswllt a'r cymorth roedd ei angen arno. Mae'r gwaith o fonitro ac adolygu plant sy'n agored i niwed wedi parhau drwy gydol y cyfnod hwn.

Mae'r costau ychwanegol i deuluoedd yn sgil newidiadau ehangach o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y teuluoedd sy'n cael credyd cynhwysol. Mae'n debygol y bydd llawer o'r rhain yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu hincwm – mae'r lefelau cynyddol o ddiweithdra yn fwy cyffredinol yn golygu bod risg y bydd mwy o achosion o ddyledusrwydd, diymgeledd a thlodi plant.

Mae yna hefyd risgiau nad ydynt mor hawdd eu mesur gan nad yw'r holl blant sy'n byw mewn tlodi yn ‘gymwys’ i gael prydau ysgol am ddim, ac felly maent yn llithro drwy'r bylchau yn y cymorth ychwanegol a gynigiwyd hyd yn hyn, megis talebau bwyd.

Mae cau ysgolion i'r mwyafrif o ddysgwyr hefyd yn golygu y bydd dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais gartref yn amlach ac yn fwy agored i straen canlyniadol, a all gynnwys y canlynol:

Dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

Gall aros gartref darfu mwy ar fywydau a threfn feunyddiol dysgwyr ag anghenion addysgol ychwanegol ac anableddau, yn arbennig o ganlyniad i'w hanghenion addysgol arbenigol. Mae'r effaith hefyd yn debygol o fod yn fwy sylweddol ar eu teuluoedd a'u gofalwyr, am nad yw'r gofal seibiant a'r cyfleusterau y maent yn dibynnu arnynt ar gael, neu am fod y ddarpariaeth yn gyfyngedig iawn.

Dysgwyr o leiafrifoedd ethnig

Gall fod effaith anghymesur ar ddysgwyr o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig y rhai y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, yn debyg i'r problemau a nodir ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg (isod), oherwydd bod llai o gymorth gan rieni i barhau i ddysgu gartref os nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg.

Dysgwyr cyfrwng Cymraeg

Efallai y bydd llai o adnoddau ar gael i gefnogi dysgu parhaus drwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft, mae amrywiaeth o wersi ar-lein ar gael i ddysgwyr cyfrwng Saesneg ond efallai fod yr ystod i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg yn fwy cyfyngedig gyda llai o opsiynau neu amrywiaeth ar gael i ennyn diddordeb dysgwyr. Mae risg felly y gallai ysgolion cyfrwng Cymraeg ei chael yn anos ailennyn diddordeb dysgwyr ar ôl y cyfnod o ddysgu o bell na'u cymheiriaid mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a gall hyn effeithio ar ganlyniadau TGAU yng Nghymru yn y dyfodol. Efallai fod y cymorth y gall rhieni dysgwyr cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ei roi er mwyn helpu'r dysgwyr i barhau i ddysgu gartref yn gyfyngedig hefyd. Gallai hyn waethygu'r effeithiau uchod gan olygu y bydd dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn cael mwy o anawsterau na'u cyfoedion cyfrwng Saesneg.

Pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr?

Defnyddiwyd amrywiaeth o wybodaeth i lywio'r asesiad hwn, gan gynnwys:

  • cyngor gwyddonol a chyngor iechyd gan Ystafell Friffio Swyddfa'r Cabinet a'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • data a gasglwyd ac a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid allweddol
  • ymchwil flaenorol y gellir ei defnyddio i ddod i gasgliadau
  • trafodaethau ag ymarferwyr a chynrychiolwyr eraill, a all roi adborth o safbwyntiau dysgwyr
  • adborth ar faterion a godir gyda'r Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg
  • canlyniadau ymgyngoriadau a gynhaliwyd â rhanddeiliaid allweddol ar y penderfyniadau polisi hyn, er enghraifft ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar yr egwyddorion ar gyfer cyfrifo graddau a oedd hefyd yn cynnwys fersiwn i blant a phobl ifanc
  • adroddiadau gwrando cymdeithasol dyddiol sydd wedi tynnu sylw at y pynciau allweddol sy'n trendio ar y cyfryngau cymdeithasol a chrynodebau o'r materion allweddol sy'n cael eu codi drwy ohebiaeth, y Ganolfan Pwynt Cyswllt Cyntaf a'r Uned Gwynion yn Llywodraeth Cymru
  • profiad a chamau gweithredu gwledydd eraill y mae rhai ohonynt ar gam pellach yn yr ymateb i'r pandemig neu wedi gwneud dewisiadau gwahanol o ran polisïau
  • adborth gan randdeiliaid allweddol a chyrff cynrychioliadol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen ym myd addysg
  • amrywiaeth o adroddiadau ymchwil sydd ar gael yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a gwybodaeth am effeithiau COVID-19 a chlefydau pandemig tebyg

Mae gwybodaeth wedi cael ei chasglu gan blant a phobl ifanc drwy amrywiaeth o sianeli a, lle y bo'n bosibl, mae hyn wedi bwydo i mewn i'r Asesiad Effaith Integredig hwn. Mae hyn yn cynnwys:

  • yr adroddiadau gwrando cymdeithasol dyddiol a gaiff eu llunio
  • y Gweinidog Addysg yn cynnal sesiynau Holi ac Ateb ar y cyfryngau cymdeithasol gyda phobl ifanc
  • y Gweinidog Addysg yn mynychu'r Senedd Ieuenctid
  • yr ymateb i negeseuon fideo ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr neu eu rhieni
  • monitro pynciau'n ddyddiol sy'n codi mewn gohebiaeth, ymholiadau i'r ganolfan Pwynt Cyswllt Cyntaf neu'r Uned Gwynion – mae'r rhain hefyd wedi cael eu defnyddio i fireinio a diweddaru'r adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan Coronafeirws Llywodraeth Cymru

Sut rydych wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych wedi, esboniwch pam.

Oherwydd natur ddigynsail yr argyfwng iechyd y cyhoedd rydym yn ei wynebu a pha mor gyflym y bu'n rhaid gwneud rhai o'r penderfyniadau polisi cychwynnol a'u rhoi ar waith, nid oedd yn bosibl ymgynghori â phlant a phobl ifanc cyn gwneud y penderfyniadau hyn.

Rydym yn cydnabod hyn ac rydym wedi cymryd camau er mwyn helpu i roi cyfle i ddysgwyr fynegi eu barn am y ffordd y mae'r penderfyniadau hyn wedi effeithio arnynt. Defnyddir y wybodaeth hon i'n helpu i ystyried a oes angen unrhyw gamau lliniaru pellach ac i roi sylfaen dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau polisi pellach, yn enwedig y rhai hynny am gynllunio adferiad.

Mewn prosiect ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru a Plant yng Nghymru, a chyda chymorth y Senedd Ieuenctid, lansiodd Llywodraeth Cymru arolwg ymgynghori ar-lein er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr fynegi eu barn am COVID-19. Rhoddodd yr arolwg gipolwg ar farn plant a phobl ifanc yn ystod pythefnos ym mis Mai. Cafwyd dros 23,000 o ymatebion i'r arolwg a chawsom farn plant a phobl ifanc am amrywiaeth o faterion, gan gynnwys cau ysgolion a chanslo arholiadau. Gan mai dewis yr ymatebwyr oedd ymateb i'r arolwg, efallai na fydd y canlyniadau yn gynrychioliadol, ond gwnaethom ymdrech arbennig i geisio mewnbwn gan amrywiaeth eang o oedrannau a grwpiau gwahanol o blant.

Yn seiliedig ar yr Erthyglau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, crëwyd yr arolwg mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc. Roedd yr arolwg yn ceisio:

  • dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi hawliau plant
  • helpu i sicrhau bod y Llywodraeth yn gwrando ar farn plant
  • darparu dolenni i ffynonellau gwybodaeth dibynadwy
  • rhoi cyngor ar gymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio canfyddiadau'r arolwg i sicrhau ein bod yn myfyrio ar hawliau a barn plant yn ystod argyfwng COVID-19 ac ar ei ôl.

Nid ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed er mwyn sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu yn ystod pandemig COVID-19. Nid yw llawer o blant, yn enwedig plant iau, yn sylweddoli eu bod yn cael prydau ysgol am ddim a gall tynnu sylw at hyn beri trallod a chynyddu stigma. Mae'r Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 yn rhoi dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddiogelu hunaniaeth dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn golygu y byddai ymgynghori â'r rhai dan sylw yn arbennig o anodd, a byddai risg y byddem yn torri'r gyfraith.

Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad?

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ac yn defnyddio amrywiaeth o ymchwil ac arolygon er mwyn monitro effeithiau ar ddysgwyr a'u teuluoedd. Ceir manylion llawn y rhain yn Adran 7.4 ac maent yn cynnwys:

  • adolygiad cyflym o dystiolaeth ymchwil yn y DU ac ymchwil ryngwladol sy'n canolbwyntio ar effeithiau argyfyngau ar iechyd meddwl a llesiant dysgwyr, a dulliau o gefnogi adferiad. Bwriedir cynnal rhagor o adolygiadau, a fydd yn helpu i ddatblygu'r cynllun Parhau Dysgu
  • dadansoddiad ymchwiliol o gyfranogiad mewn dysgu o bell, drwy ddadansoddi data ar weithgarwch mewngofnodi
  • cymorth cynllunio ar gyfer cyfres o weithgareddau ymchwil i'w cynnal gan sefydliadau addysg uwch ac ymarferwyr ysgol ar effaith y pandemig. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar addysg gychwynnol i athrawon yn y dyfodol ac ar ddarpariaeth mewn grwpiau o ysgolion
  • ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu arolwg o ymarferwyr ysgol er mwyn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth fanylach o'u profiadau o ddarparu addysg, drwy ddulliau gwahanol, i ddysgwyr, er mwyn deall beth oedd yn fwy neu’n llai effeithiol a pham, yn ogystal â'r effeithiau ar lwyth gwaith a llesiant staff
  • cynnwys cwestiynau a gaiff eu hadolygu bob mis yn Arolwg Cenedlaethol Cymru am brofiadau teuluoedd o ddarparu addysg
  • ad-drefnu'r gweithgarwch a oedd eisoes yn mynd rhagddo cyn yr argyfwng, er mwyn casglu gwybodaeth am ei effeithiau, gan gynnwys:
    • gwerthuso rhaglen beilot fewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) 
    • adolygu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned a threialu gwasanaethau i ddysgwyr iau
    • ymchwil i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer y Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

2. Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Isod ceir tabl o erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP) yr ystyrir eu bod fwyaf perthnasol i'r polisïau a nodir yn Erthygl 1.

Rhif yr ErthyglDisgrifiadCysylltiadau â phenderfyniadau
2Mae'r confensiwn yn gymwys i bob plentyn heb wahaniaethu, ni waeth beth fo'i ethnigrwydd, rhyw, crefydd, iaith, galluoedd neu unrhyw statws arall, ni waeth beth mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud, ni waeth beth fo'i gefndir teuluol.

Yng ngoleuni'r pandemig, mae pob dysgwr yn cael gofal gartref ar hyn o bryd, lle bynnag y bo'n bosibl. 

Mae ysgolion wedi cael eu haddasu er mwyn canolbwyntio ar ddarparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol, os nad oes dewis amgen diogel, ac ar gyfer plant sy'n agored i niwed.

3Rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy'n effeithio ar blant.Er mwyn cadw plant a'u teuluoedd yn ddiogel yn ystod y pandemig ac i gefnogi'r ymateb brys i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws, bu'n rhaid cau ysgolion i'r mwyafrif o ddysgwyr a bu'n rhaid gofalu amdanynt yn y cartref cyn belled ag y bo modd. Os nad oes dewis amgen diogel, mae ysgolion sydd wedi'u haddasu yn darparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed.
6Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu i'w llawn botensial.

Mae cau ysgolion i'r mwyafrif o ddysgwyr a'u haddasu er mwyn darparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed yn sicrhau diogelwch dysgwyr ac ymarferwyr drwy gyfyngu ar gyswllt.

Mae'r canllawiau ar ddarpariaeth hybiau yn cynnwys cyngor penodol ar gapasiti diogel, cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid, a chaiff cyfran y dysgwyr sy'n bresennol ei monitro'n ddyddiol.

Mae'r rhaglen Parhad Dysgu yn darparu adnoddau, cyngor a chymorth i ddysgwyr, rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr er mwyn cefnogi dysgu o bell yn ystod y cyfnod pan fydd ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddysgwyr. Mae ymgysylltiad â dysgu hefyd yn cael ei fonitro a rhennir arferion da.

12Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a'i ddymuniadau mewn perthynas â phob mater sy'n effeithio arno, ac i bobl ystyried ei safbwyntiau o ddifrif.

O ganlyniad i'r argyfwng iechyd y cyhoedd a pha mor gyflym y bu'n rhaid gwneud rhai o'r penderfyniadau hyn a'u rhoi ar waith, ni fu'n bosibl i blant fynegi eu barn er mwyn llywio'r penderfyniadau a wnaed am resymau gweithredol.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o hyn ac mae amrywiaeth o gamau yn cael eu rhoi ar waith er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr fynegi eu barn am rai o'r penderfyniadau a wnaed a'u heffaith arnynt, er mwyn helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys yr arolwg ar-lein a ddatblygwyd i geisio barn dysgwyr am yr effaith y mae COVID-19, ac ymateb polisi Llywodraeth Cymru, wedi'i chael arnynt.

17Mae gan bob plentyn yr hawl i gael gwybodaeth ddibynadwy o amrywiaeth o ffynonellau, a dylai llywodraethau annog y cyfryngau i gyflwyno gwybodaeth y gall plant ei deall.

Cymerwyd nifer o gamau i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy a hygyrch. Mae hyn yn cynnwys cyfranogiad y Gweinidog Addysg mewn sesiynau Holi ac Ateb gyda phlant a phobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon fideo rheolaidd ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr neu eu rhieni/gofalwyr, a phresenoldeb rheolaidd y Gweinidog yn y Senedd Ieuenctid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin am yr ymateb i bandemig y coronafeirws a'r camau a gymerwyd yn y sector addysg. Caiff y rhain eu llywio gan yr ohebiaeth a'r ymholiadau a geir drwy'r ganolfan Pwynt Cyswllt Cyntaf, y mae llawer ohonynt gan ddysgwyr.

Mewn perthynas â chanslo arholiadau, mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi fersiwn o'i ymgynghoriad sy'n addasi blant a phobl ifanc.

18

Dylai’r ddau riant rannu cyfrifoldeb dros fagu eu plentyn, a dylent ystyried yr hyn sydd orau i'r plentyn bob amser. 

Rhaid i lywodraethau gefnogi rhieni drwy greu gwasanaethau cymorth ar gyfer plant a rhoi'r help sydd ei angen ar rieni i fagu eu plant.

Mae darparu cymorth drwy addasu ysgolion yn galluogi'r rhieni hynny sy'n weithwyr hanfodol i sicrhau bod trefniadau diogel ar waith i ofalu am eu plant, pan nad oes dewis amgen, fel y gallant barhau i weithio yn ystod y pandemig hwn.

Mae'r rhaglen Parhad Dysgu wedi llunio canllawiau i rieni a gofalwyr er mwyn eu cefnogi nhw a'u plant i aros yn ddiogel ac yn iach ac i gefnogi dysgwyr i barhau i ddysgu pan fydd ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Mae trefniadau lleol wedi cael eu rhoi ar waith i gefnogi teuluoedd â dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond nad ydynt yn gallu cael y ddarpariaeth hon pan fydd ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddysgwyr.

Mae mwy o deuluoedd wedi dod yn gymwys i hawlio Credyd Cynhwysol felly mae'n bosibl y byddant yn gymwys i gael prydau ysgolam ddim. Mae lwfans safonol Credyd Cynhwysol wedi cynyddu hefyd.

Darparwyd cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgolac i fynd i'r afaelag allgáu digidol.

23

Mae gan blant anabl hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas ac annibyniaeth, i'r graddau mwyaf posibl, yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn y gymuned. 

Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.

Er bod ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddysgwyr, maent ar agor i blant sy'n agored i niwed ac mae'r diffiniad hwn yn cynnwys y dysgwyr hynny sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mater i awdurdodau lleol yw gweithio gydag ysgolion i flaenoriaethu'r dysgwyr hynny sydd â'r angen mwyaf am y ddarpariaeth hon.

Mae egwyddor Cynhwysiant yn sail i'r rhaglen Parhad Dysgu a sefydlwyd er mwyn ystyried addysg grwpiau sy'n agored i niwed a dan anfantais ac i eirioli ar gyfer y grwpiau hynny a'u hawl i gael addysg, gan sicrhau bod eu hanghenion yn ystyriaeth allweddol ym mhob gweithgarwch sy'n rhan o'r rhaglen Parhad Dysgu.

24Mae gan bob plentyn yr hawl i'r iechyd gorau posibl. Rhaid i lywodraethau ddarparu gofal iechyd o ansawdd da, dŵr glân, bwyd maethlon, amgylchedd glân ac addysg ar iechyd a llesiant fel y gall plant aros yn iach.

Mae'r holl benderfyniadau polisi a nodir yn Adran 1 wedi cael eu seilio ar yr angen i ymateb i'r argyfwng iechyd y cyhoedd ac atal y pandemig rhag gwaethygu'n gynt. 

Mae'r canllawiau a ddarparwyd i gefnogi gweithrediad darpariaethau hybiau yn cynnwys cyngor manwl ar gadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid, yn ogystal â chyngor ar gefnogi iechyd a llesiant staff a dysgwyr.

Gan gydnabod effaith negyddol y cyfyngiadau symud, mae cyflymu'r gwaith o gynhyrchu adnoddau iechyd a llesiant wedi bod yn un o flaenoriaethau'r rhaglen Parhad Dysgu. Mae cyllid ychwanegol hefydwedi cael ei ddarparu i gefnogi ymdrechion i ehangu gwasanaethau cwnsela ysgolion.

Mae trefniadau lleol wedi cael eu rhoi ar waith i gefnogi teuluoedd sydd â phlant a phobl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond nad ydynt yn gallu cael y ddarpariaeth hon pan fydd ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddysgwyr. Diben hyn yw lliniaru'r risg y bydd y plant a'r bobl ifanc hyn yn llwgu o ganlyniad i golli'r bwyd maent yn ei gaelyn yr ysgol,gan gynnwys cinio,brecwast a llaeth am ddim.

Pan gaiff bwyd ei ddanfon, ystyrir canllawiau maeth lle bynnag y bo modd, er efallai y bydd angen teilwra hyn gan ddibynnu ar broblemau gyda'r gadwyn gyflenwi leol. Lle caiff cymorth ariannol ei ddarparu i deuluoedd er mwyn prynu eu bwyd eu hunain, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datblygu canllawiau ar ddewisiadau maethol iach.

Darparwyd cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgolac i fynd i'r afaelag allgáu digidol.

28Mae gan bob plentyn yr hawl i gael addysg.

Sefydlwyd y rhaglen Parhad Dysgu er mwyn darparu adnoddau, gan gynnwys dyfeisiau a chymorth gyda chysylltedd, a chyngor i gefnogi dysgu o bell pan fydd ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddysgwyr.

Mae enghreifftiau o elfennau i'w cyflawni yn cynnwys cyngor, canllawiau a chyfarwyddiadau 'sut i helpu' ar gyfer Hwb a'i amrywiaeth eang o adnoddau; cymorth i ymarferwyr ddatblygu eu sgiliau i gefnogi dysgu o bell a datblygu eu dealltwriaeth o gynllunio dysgu ar gyfer dysgu o bell; canllawiau i rieni ar ffyrdd o gefnogi dysgu gartref; ac wrth gwrs, amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr eu defnyddio.

Mewn perthynas â chefnogi athrawon ac ymarferwyr i ddarparu addysg, rydym wedi parhau i sicrhau bod adnoddau dysgu proffesiynol ar gael ac mae'r consortia addysg rhanbarthol wedi gwneud hyn hefyd. 

Cynhwysiant yw un o'r pedair thema sy'n sail i'r rhaglen, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg a'r cymorth i ddysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais yn gynhwysol ac yn gyfwerth â'r hyn a gaiff eu cyfoedion er mwyn eu galluogi i wneud cynnydd addas yn ystod y ffordd newydd hon o ddysgu.

Mae hyd at £3 miliwn o gyllid hefyd yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, darparu dyfeisiau sydd wedi'u haddasu a chysylltedd Mi- Fi. Darparwyd canllawiau ar ddysgu o bell, a chanllawiau ar ffrydio byw a chadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, a sut i helpu (gan esbonio sut i gael gafael ar raglenni ac adnoddau) a ffyrdd o ehangu adnoddau sydd ar gael.

Mae galluogi dysgwyr i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg hefyd wedi bod yn un o themâu ategol y rhaglen, a darparwyd canllawiau ac adnoddau i rieni a gofalwyr ac ymarferwyr er mwyn cefnogi dysgu.

Cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu, penaethiaid ac ymarferwyr mewn perthynas â darparu addysg i ddysgwyr 3 i 19 oed. Bwriedir iddo gynnig pwynt cyfeirio cyffredin ar gyfer pob sefydliad sy'n gweithio gydag ysgolion ac ymarferwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym hefyd yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i fonitro lefelau ymgysylltu, rhannu arferion effeithiol a llywio datblygiadau parhaus. Yn ogystal â'r adroddiadau hyn gan ranbarthau, rydym yn defnyddio adroddiadau gwrando ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, arolygon a data Hwb i lywio ein dealltwriaeth o'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ac unrhyw broblemau.