Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn ddogfen fyw a gellir ei ddiweddaru ar unrhyw adeg.

Cyflwyniad

Canser yw’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth a marwolaeth cyn amser, gan gyfrif am tua chwarter yr holl farwolaethau yng Nghymru. Yn rhannol oherwydd bod disgwyliad oes wedi cynyddu, a bod y boblogaeth yn heneiddio o ganlyniad, bydd tua 1 o bob 2 person yn cael diagnosis o ganser yn ystod ei oes. Mae’n hanfodol, felly, fod canser yn cael ei atal yn effeithiol pan fo hynny’n bosibl, bod achosion o ganser yn cael eu canfod ar gamau cynharach, a bod llwybrau triniaeth cymhleth yn cael eu hoptimeiddio i roi mynediad cyflym i bobl at driniaeth. At hynny, mae angen i bobl gael eu cefnogi’n briodol drwy’r cyfan a chael cydgynhyrchu eu gofal. Yn y pen draw, lleihau nifer yr achosion o ganser a gwella cyfraddau goroesi a marwolaethau canser yw’r nod.

Cyfeiriwyd gyntaf at y bwriad i gyflwyno datganiadau ansawdd yn Cymru Iachach a disgrifiwyd hynny yn y fframwaith clinigol cenedlaethol fel y lefel nesaf o gynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol. Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn gosod y disgwyliadau cynllunio cenedlaethol ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys llwybrau a manylebau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn genedlaethol i lywio gwaith cynllunio a chyflawni’r GIG, yn ogystal â’r metrigau a fydd yn cael eu defnyddio i fesur ansawdd a chanlyniadau. Mae sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn cadw eu cyfrifoldeb statudol am gyflawni eu swyddogaethau drwy eu prosesau cynllunio a chyflawni yn unol â’r disgwyliadau, y llwybrau a’r manylebau gwasanaeth hyn.

Bydd y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru yn cael eu cefnogi i gyflwyno’r datganiad ansawdd gan weithrediaeth GIG Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill. Bydd y gefnogaeth hon yn cael ei chydlynu gan Fwrdd Arweinyddiaeth Canser Cenedlaethol Llywodraeth Cymru dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, ynghyd â chefnogaeth gan brif weithredwr arweiniol y GIG ar gyfer canser a’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Canser. Bydd y Bwrdd Arweinyddiaeth Canser Cenedlaethol yn cydlynu’r ffrydiau gwaith cenedlaethol canlynol:

Bydd y Bwrdd Arweinyddiaeth Canser Cenedlaethol yn datblygu ac yn cyflwyno cynllun gwaith i gyflawni a monitro’r ffrydiau gwaith cenedlaethol hyn. Bydd y bwrdd yn mynd i’r afael ag unrhyw ddiffyg cynnydd drwy gyfarfodydd sicrwydd misol Llywodraeth Cymru ar ganser â’r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG.

Y disgwyliadau cynllunio ar gyfer darparu gofal canser yng Nghymru

Teg:

  1. Mae swyddogion gweithredol, arweinwyr clinigol, a rheolwyr gweithredol y sefydliadau yn cydweithio fel mater o drefn ar y lefel genedlaethol i wella ansawdd y gofal a ddarperir yn lleol ac i fynd i’r afael ag annhegwch o ran y ddarpariaeth.
  2. Mae’r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yn defnyddio setiau data y gellir eu cymharu’n genedlaethol, adolygiadau gan gymheiriaid ac archwiliadau cenedlaethol i ysgogi cylchoedd gwella ansawdd i fynd i’r afael â niwed, gwastraff ac amrywiadau direswm.
  3. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn adolygu setiau data ac yn defnyddio adroddiadau adolygiadau gan gymheiriaid i nodi amrywiadau mewn gwasanaethau neu fregusrwydd gwasanaethau, a’u huwchgyfeirio i brosesau atebolrwydd ffurfiol.
  4. Mae’r GIG yn gweithio gyda’r diwydiant drwy Fforwm Diwydiant Canser Cymru i gefnogi sefydliadau i nodi, profi, a phan fo’n briodol, i gyflwyno dulliau arloesi mewn gofal canser drwy raglenni cenedlaethol.
  5. Mae’r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG, gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn defnyddio prosesau cynllunio’r gweithlu i sicrhau bod gan wasanaethau lleol y gweithlu angenrheidiol ar waith i gyflawni’r llwybrau wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol.

Diogel:

  1. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o niwed sylweddol neu eang, neu fregusrwydd gwasanaethau a all arwain at niwed, yn cael ei nodi a’i huwchgyfeirio ar gyfer gweithredu gan y system drwy’r Bwrdd Cyflawni Ansawdd.
  2. Mae'r boblogaeth a argymhellir a'r rhaglenni sgrinio wedi'u targedu ar gyfer canser ar gael. Mae’r nifer sy'n cymryd rhan ac yn ddilynol yn bodloni'r safonau gwasanaeth, ac mae cyfranogiad yn deg.
  3. Mae gwasanaethau canser mwy arbenigol sy’n fregus neu sy’n methu â chyrraedd safonau clinigol wedi’u had-drefnu i fod yn wasanaethau mwy gwydn ar sail bwrdd iechyd cyfan neu ranbarthol neu uwch-ranbarthol.
  4. Mae gwasanaethau oncoleg acíwt ar gael ym mhob ysbyty acíwt ac maen nhw wedi’u hintegreiddio â gwasanaethau gofal heb ei drefnu.

Effeithiol:

  1. Mae mwy o achosion o ganser yn cael eu canfod ar gamau cynharach drwy fynediad mwy amserol at archwiliadau diagnostig a thrwy cymhwyso’r canllawiau ar gyfer atgyfeiriadau lle’r amheuir canser.
  2. Mae therapïau a argymhellir yn genedlaethol ar gael fel mater o drefn, ac mae therapïau newydd yn destun prosesau cynllunio llwybrau cyfan.
  3. Mae pob claf cymwys yn cael cynnig mynediad at dreialon ymchwil ac mae Cymru’n darparu seilwaith cefnogi rhagorol ar gyfer ymchwil canser.

Effeithlon:

  1. Mae llwybrau wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol ar waith ar gyfer pob math o ganser, a chlefydau sy’n digwydd dro ar ôl tro, ac maen nhw’n cael eu gweithredu’n llawn gan sefydliadau’r GIG.
  2. Mae’r cofnod cleifion canser yn cael ei ddarparu ar blatfform TG modern, sefydlog a diogel. Mae hyn yn golygu bod modd integreiddio gofal yn well a bod data perthnasol ar gael i lywio’r gwaith o ddarparu a datblygu gwasanaethau.
  3. Mae arbenigwyr clinigol sy’n gweithio mewn llwybrau canser yn cael eu cefnogi i weithio hyd eithaf eu trwydded, gwella eu cymysgedd sgiliau, a gallant gymryd rhan i arloesi mewn gwasanaethau, gwella ansawdd, ac mewn gweithgarwch ymchwil.

Canolbwyntio ar yr unigolyn:

  1. Dylid defnyddio dull cyfannol o asesu anghenion ar adegau allweddol drwy gydol y llwybr canser i nodi anghenion penodol yr unigolyn.
  2. Dylid cydgynhyrchu cynlluniau triniaeth drwy wneud penderfyniadau ar y cyd, gan sicrhau bod unigolion sydd wedi’u heffeithio gan ganser yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau ac i ddeall y risgiau a’r manteision sy’n gysylltiedig â’r driniaeth.
  3. Mae meddygaeth fanwl yn ei gwneud yn bosibl i’r driniaeth gywir gael ei defnyddio ar gyfer y person iawn ar yr amser iawn, gan wella effeithiolrwydd ac osgoi gwenwyndra (sgil-effeithiau).
  4. Dylid cynnig gwasanaethau cyn-sefydlu ac adsefydlu ar gyfer pob claf sydd â chanser, neu sy’n debygol iawn o fod â chanser, a dylai timau clinigol eu cymhwyso gan wneud i bob cyswllt gyfrif drwy gydol y llwybr.

Amserol:

  1. Mae o leiaf 75% o’r unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio i’r llwybr lle amheuir canser yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i’r adeg y caiff ei amau.
  2. Mae gwasanaethau yn darparu mynediad at driniaeth radiotherapi yn unol â metrigau’r Is-bwyllgor Oncoleg Glinigol a mynediad at therapi gwrthganser systemig (SACT) yn unol â’r metrigau SACT cenedlaethol.
  3. Dylai’r byrddau iechyd ddarparu archwiliadau diagnostig canser prydlon ac amserol yn unol â’r holl lwybrau wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol cyhoeddedig i gefnogi cleifion i ddechrau ar eu triniaeth neu i gael eu sicrhau nad oes ganddynt ganser.

Mesur gofal canser a chanlyniadau

Mae gofal canser yn destun set helaeth o fesurau. Mae’r prif darged perfformiad (disgwyliad 20) yn rhan o fframwaith perfformiad y GIG ac mae’r data llwybr caeedig (a gwblhawyd) yn cael eu cyhoeddi’n fisol fel ystadegau swyddogol, gan gynnwys mwy na deugain o fesurau sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’r rhain ar gael yn y tudalen we ynghylch data canser Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu deg archwiliad clinigol cenedlaethol fel rhan o’r rhaglen archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau. Mae’r archwiliadau hyn yn cymharu ansawdd y gofal i gleifion ledled Cymru a Lloegr. Mae’r archwiliadau yn cefnogi timau clinigol i gyflwyno cylchoedd gwella ansawdd a darparu data meincnodi i sefydliadau’r GIG i fonitro ansawdd y gofal a chanlyniadau. Mae adroddiadau’r archwiliadau hyn ar gael i’r cyhoedd yn y gwefan ar gyfer y Ganolfan Gydweithredu Archwiliadau Canser Cenedlaethol.

Cesglir ystadegau swyddogol ar ganlyniadau canser – fel cyfraddau goroesi a marwolaethau – ac adroddir arnynt yn flynyddol gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru. Mae’r rhain ar gael yn y tudalen gwe ar gyfer yr Uned Deallusrwydd a Gwyliaethwriaeth Canser Cymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ogystal â’r setiau data hyn sydd ar gael i’r cyhoedd, mae’r GIG yng Nghymru yn casglu ac yn defnyddio llawer iawn o ddata rheoli sy’n disgrifio arosiadau cydrannol y llwybrau i gleifion. Nid yw’r data rheoli hyn yn cael eu dilysu i fodloni’r safonau data gofynnol ar gyfer cyhoeddi. Maen nhw’n cynnwys data ar yr holl lwybrau agored (na chwblhawyd), sef pob claf sy’n aros i gael diagnosis neu driniaeth. Maen nhw hefyd yn cynnwys mesurau amser i ddechrau triniaeth radiotherapi ac amser i ddechrau therapi gwrthganser systemig ar gyfer pob claf. Mae mynediad y GIG i’r data hyn ar gael yn y tudalen gwe ar gyfer y dangosfwrdd set ddata canser ar wefan Iechyd Digidol Cymru.

Er mwyn gwella’r setiau data hyn ac argaeledd y data yr adroddir arnynt ar gyfer y cyhoedd, mae’r Bwrdd Arweinyddiaeth Canser Cenedlaethol yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gytuno ar fap trywydd ar gyfer datblygu data canser. Y nod fydd ceisio mynd i’r afael â bylchau pwysig yn y set ddata i ddarparu set fwy cynhwysfawr o fetrigau ansawdd a chanlyniadau ar gyfer gwasanaethau canser.

Atodiad A - llwybrau a manylebau gwasanaeth cenedlaethol

Mae Gweithrediaeth y GIG wedi datblygu’r llwybrau canlynol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol i’w mabwysiadu gan sefydliadau’r GIG:

  • canser y fron
  • canser metastatig y fron
  • canser plant
  • canser y colon a’r rhefr
  • canser gynaecolegol
    • ceg y groth
    • endometriaidd
    • yr ofarïau
    • y fwlfa
  • y pen a’r gwddf
    • y pilennau gludiog
    • nodau lymff y gwddf
  • profion imiwnocemegol ar ysgarthion (FIT) y bibell gastroberfeddol isaf
  • canser yr ysgyfaint
  • canser niwroendocrin
  • sarcoma
  • canser pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc
  • canser y bibell gastroberfeddol uchaf
    • gastrig
    • carsinoma hepatogellol
    • yr oesoffagws
    • y pancreas
  • canser wrolegol
    • y bledren
    • y pidyn
    • y prostad
    • yr arennau
    • y ceilliau
  • symptomau amhendant

Mae’r rhain ar gael yn y tudalen gwe ar gyfer y Llwybr Canser a Amheuir ar wefan y Weithrediaeth GIG Cymru.

Mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi datblygu’r manylebau gwasanaeth cenedlaethol canlynol i gefnogi trefniadau cynllunio a sicrwydd y byrddau iechyd:

  • Llawfeddygaeth Hepato-Pancreatig-Bustlaidd
  • Llawfeddygaeth Oesoffagaidd a Gastrig
  • Canolfannau Diagnostig Cyflym
  • Radiotherapi
  • Oncoleg Acíwt (yn cael ei ddatblygu)

Mae’r rhain ar gael yn y tudalen gwe ar gyfer manylebau gwasanaeth ar wefan y Weithrediaeth GIG Cymru.