Messi, Ronaldo, Bale a Ramsey oll yn breuddwydio am lwyddiant yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Mae cam y grwpiau drosodd yn ddiogel, a gemau cyntaf y cam bwrw allan wedi'u dewis, mae 16 tîm bellach yn cystadlu am le yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin, a fydd yn dilyn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y menywod ar y 1af o Fehefin.
Wrth inni weld yn gliriach pwy fydd angen teithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm, mae'r paratoadau i gynnal digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yng Nghymru yn mynd yn ei flaen, ac mae disgwyl i 200 milwin o bobl wylio’r gem derfynol yg Ngharerdydd y fyw mewn 200 o wledydd
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
"Blwyddyn Chwedlau yw hi yng Nghymru y flwyddyn nesaf – a dyna ddigwyddiad hanesyddol fydd hwn i Gaerdydd a Chymru.
"Rydyn ni'n paratoi i gynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gorau erioed. Mae safbwynt y byd o rôl Cymru ym mhêl-droed wedi newid yn dilyn cystadleuaeth yr Ewros eleni, ac mae wedi rhoi llwyfan ardderchog inni lle gallwn weithio ar gyflawni'r digwyddiad rhyfeddol hwn y flwyddyn nesaf. Bydd y digwyddiad hwn ar raddfa gwbl newydd i Gymru, a Chaerdydd.
"Mae Cymru wedi denu llawer o brif ddigwyddiadau chwaraeon y byd dros y deng mlynedd diwethaf – y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, cyfres y Lludw, sawl Cwpan y Byd, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Rali Cymru GB, rownd derfynol y Cwpan Heineken, Ironman, ras Cefnfor Volvo a'r Cwpan Ryder, ymysg pethau eraill.
"Mae hyn yn gryn lwyddiant i wlad o dair miliwn o bobl ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi cymaint o'r ceisiadau hyn yn uniongyrchol. Rydyn ni'n edrych ymlaen nawr at groesawu ein digwyddiad mwyaf hyd yma."