Neidio i'r prif gynnwy

Dros yr wythnosau diwethaf mae gosodiad celf 'EPIC' Croeso Cymru wedi denu llawer o sylw ac wedi ymddangos mewn nifer o hun-luniau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe fydd yn ymddangos yn safle poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y 25ain yn barod ar gyfer penwythnos Gwyl y Banc.

Mae'r llythrennau enfawr 4 metr o uchder ac 11 metr o led sydd wedi eu gwneud o ddrychau ac sy'n ffurfio'r gair 'EPIC' yn rhan o gam diweddaraf ymgyrch marchnata Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan antur.  Bydd yn ymddangos mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru dros yr haf. 

Mae Bro Gŵyr wedi bod yn ysbrydoliaeth i hyrwyddwr y Flwyddyn Antur, Lowri Morgan gan mai yn yr ardal y cafodd ei magu. Yr wythnos yma, mae hi’n wynebu ei her epig ei hun trwy redeg o Lanberis i Ben-y-fan gan ddringo Tir Chopa Cymru ar y ffordd – 160 o filltiroedd mewn tridiau.  Meddai Lowri: 

“Mae Bro Gŵyr wedi cael dylanwad mor fawr ar y ffordd rwy’n paratoi ar gyfer fy anturiaethau. Rwy’n hoffi meddwl am Gymru fel fy Nghampfa Werdd a ‘Nghampfa Las.  Mae popeth sydd ei angen arnoch chi ar garreg eich drws.  Gallwch fynd i nofio yn y bore a rhedeg lan mynydd yn y prynhawn.  Mae harddwch y dirwedd hefyd yn ysbrydoliaeth – unwaith yr ewch chi am yr awyr agored a rhoi cynnig ar rywbeth newydd – dyna chi wedi’ch bachu. Rwy’n disgwyl ymlaen yn fawr at fy antur newydd yr wythnos yma i weld mor Epig y gall Cymru fod!" 

Dywedodd y Cyng Robert Francis-Davies, Aelod Menter, Datblygu ac Adfywio Cabinet Cyngor Abertawe: 

“Mae’n bleser cael croesawu gosodiad celf EPIG Croeso Cymru fel rhan o ymgyrch farchnata’r Flwyddyn Antur.  Mae’n briodol iawn bod y gosodiad celf yn dod i Rosili, gan fod yr ardal wedi ennill gwobrau lu rhyngwladol am ei harddwch.  Mae’n fath o gyrchfan sy’n ymgnawdoliad o’r gair Epig ac yn ysbrydoli antur.  Mae Bro Gŵyr yn fan delfrydol i brofi gweithgareddau, gan gynnwys syrffio a merlota, cyfeiriannu a beicio mynydd, gan ddenu ymwelwyr drwy’r flwyddyn. Mae’n anodd gwneud yn fach o bwysigrwydd Bro Gŵyr i’r economi leol.  Mae’n gwneud cyfraniad sylweddol at y diwydiant twristiaeth, sydd bellach yn werth rhagor na £400m y flwyddyn i Fae Abertawe, gan gynnal miloedd o swyddi.  Dyna pam ein bod yn defnyddio delweddau a fidoes trawiadol o Fro Gŵyr mor aml fel rhan o’n hymgyrchoedd marchnata. 

“Bydd y gosodiad celf EPIG yn codi proffil cenedlaethol a rhyngwladol Bae Abertawe eto fyth, gan helpu i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i Fro Gŵyr ac i gyrchfannau rhyfeddol eraill yn ein hardal yn y dyfodol.” 

Meddai Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru: 

“Mae Rhosili wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer nifer o olygfeydd dros y blynyddoedd – o Doctor Who a Torchwood i ymgyrchoedd hysbysebu mawr a hyd yn oed ffilmiau Hollywood. 

“Rydym yn gwybod amdano fel lleoliad epig ac rydyn ni’n credu mai priodol yw ei ddangos i’r byd ac annog ymwelwyr i ddod i’w weld.  Rydyn ni’n falch o gael bod yn rhan o’r fenter hon o dynnu sylw at leoliadau eiconig yng Nghymru yn y gobaith y daw ymwelwyr lleol ac o du hwnt i weld y gosodiad.

“Rhywbeth dros dro yw’r gosodiad celf ond cyfrifoldeb oes yw gofalu am Rosili a Bro Gŵyr.  Felly, rydyn ni’n apelio ar bawb sy’n ymweld â’r ardal i feddwl ychydig sut y gallwn gadw’r lle trawiadol hwn ar ei orau ar gyfer y cenedlaethau i ddod – rhywbeth y mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ei wneud bob dydd.” 

Meddai Roger Button, cadeirydd Twristiaeth Bae Abertawe a pherchennog Parc Carafannau a Gwersylla Pitton Cross: 

"Rydym yn falch iawn bod Rhosili wedi cael ei dewis fel un o leoliadau taith EPIC; rydym wedi bod yn dilyn  llwybr yr arwydd EPIC ar gyfryngau cymdeithasol. Mae Gŵyr yn dathlu 60 mlynedd eleni o fod yr cyntaf i gael ei dynodi yn Ardal o Brydferthwch  Naturiol Eithriadol. Mae lleoliad Rhosili, Pen Pyrod a Llangynydd yn wirioneddol 'EPIC' gyda golygfeydd a machlud ysblennydd; mae wedi cael ei ddefnyddio mewn nifer o leoliadau ffilm dros y blynyddoedd ac fe'i defnyddiwyd fel lleoliad arddangos yn y seremoni agoriadol yn y Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae'r thema ymgyrch farchnata  Blwyddyn Antur Croeso Cymru wedi cael ei groesawu gan y diwydiant, gyda llawer o fusnesau yn dweud ei bod wedi cael blwyddyn EPIC hyd yn hyn. Mae llawer o sôn a brwdfrydedd yn lleol am y dyfodiad yr arwydd, gyda llawer eisoes yn bwriadu wedi ymweld ag ef. "

Bydd y gosodiad celf teithiol, arloesol hwn yn ganolbwynt i ymwelwyr gymryd  hun-luniau ac mae wedi'i ddylunio i annog rhannu delweddau a chynnwys ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio hashnodau #GwladGwlad a #FindYourEpic ein hymgyrch. Cefnogir y daith gan ymgyrch integredig sy'n cynnwys gweithgarwch Cysylltiadau Cyhoeddus a chyda'r cyfryngau, gan gynnwys hysbysebion digidol, marchnata drwy e-bost a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i dargedu teuluoedd ac ymwelwyr yn ein rhanbarthau craidd yng ngogledd-orllewin Lloegr, canolbarth Lloegr, Swydd Efrog a de-ddwyrain Lloegr. 

Dyluniwyd y llythrennau mawr 'EPIC' gan asiantaeth greadigol Croeso Cymru, Smorgasbord, ac maent wedi'u creu gan Wild Creations, y cwmni o Gaerdydd a greodd y 'Bêl yn y Wal' yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015.

Mae'r gair 'EPIC' wedi'i greu o ddrychau ac mae wedi'i ddylunio i adlewyrchu harddwch tirlun Cymru.  Cymerodd y gosodiad dair wythnos a phedwar person i'w adeiladu, ac mae pob llythyren yn pwyso 350kg. Bydd angen deg person i'w osod ym mhob lleoliad.