Neidio i'r prif gynnwy

Mae bellach yn parhau ar ei daith o amgylch Cymru wrth iddo deithio tua'r de i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd ‘EPIC’ yn symud o Landegla i Gwm Elan ddydd Llun 8 Awst ac yn aros yno nes 16 Awst. 

Mae'r llythrennau enfawr 4 metr o uchder ac 11 metr o led sydd wedi eu gwneud o ddrychau ac sy'n ffurfio'r gair 'EPIC' yn rhan o gam diweddaraf ymgyrch marchnata Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan antur.  Bydd yn ymddangos mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru dros yr haf. 

Dywedodd Ed Parsons o Dŵr Cymru, y mae ei gronfa ddŵr yn croesawu’r llythrennau 'EPIC' am yr wythnos nesaf, 

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gosodiad i Gwm Elan. Mae'r golygfeydd yma yn odidog ac rydym yn falch iawn o gael ein dewis fel lleoliad gan fod cynifer o dirluniau gwych ar gael yng Nghymru. Rydym yn sicr y bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn, a bydd yn helpu i ddenu sylw pawb at olygfeydd Cymru a'i thirluniau dramatig.” 

Bydd y gosodiad celf teithiol, arloesol hwn yn ganolbwynt i ymwelwyr gymryd  hun-luniau ac mae wedi'i ddylunio i annog rhannu delweddau a chynnwys ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio hashnodau #GwladGwlad a #FindYourEpic ein hymgyrch. Cefnogir y daith gan ymgyrch integredig sy'n cynnwys gweithgarwch Cysylltiadau Cyhoeddus a chyda'r cyfryngau, gan gynnwys hysbysebion digidol, marchnata drwy e-bost a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i dargedu teuluoedd ac ymwelwyr yn ein rhanbarthau craidd yng ngogledd-orllewin Lloegr, canolbarth Lloegr, Swydd Efrog a de-ddwyrain Lloegr.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, 

“Mae'n gyfnod gwych i dwristiaeth yng Nghymru. Mae mwy o bobl nag erioed yn dod yma ac yn aros yma ac mae hyn oherwydd ein bod yn codi ein proffil ar lwyfan y byd.

“Mae'r wefr ar ôl Pencampwriaeth Ewrop yn wych ac rwy'n hyderus y bydd datblygu atyniadau arloesol newydd, safon y dwristiaeth a mwy o anturiaethau epig tebyg yn parhau i wella twristiaeth yng Nghymru. 

“Mae'r llythrennau 'EPIC' yn anferth a byddant yn ymddangos mewn lleoliadau ar draws Cymru, gan annog pobl i ddod o hyd i brofiadau epig eu hunain yn ystod y Flwyddyn Antur.” 

Dyluniwyd y llythrennau mawr 'EPIC' gan asiantaeth greadigol Croeso Cymru, Smorgasbord, ac maent wedi'u creu gan Wild Creations, y cwmni o Gaerdydd a greodd y 'Bêl yn y Wal' yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015.

Mae'r gair 'EPIC' wedi'i greu o ddrychau ac mae wedi'i ddylunio i adlewyrchu harddwch tirlun Cymru.  Cymerodd y gosodiad dair wythnos a phedwar person i'w adeiladu, ac mae pob llythyren yn pwyso 350kg. Bydd angen deg person i'w osod ym mhob lleoliad.