Mae dull partneriaeth gymdeithasol lwyddiannus Cymru, sy'n dod â gweithwyr, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd wedi dod yn gyfraith – wrth i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol.
Dyma'r ddeddf gyntaf yng Nghymru i gael Cydsyniad Brenhinol gan y Brenin Charles III ac mae'n golygu y bydd gweithwyr yn cael mwy o gyfle i lunio polisïau, gweithgareddau a blaenoriaethau strategol ar lefel llywodraeth genedlaethol ac mewn rhai sefydliadau sector cyhoeddus.
Bydd y Ddeddf newydd yn creu fframwaith partneriaeth gymdeithasol statudol drwy Gyngor Partneriaeth Gymdeithasol parhaol i Gymru.
Bydd y dull Tîm Cymru hwn yn uno Llywodraeth Cymru, gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus i weithio tuag at y nod cyffredin o wneud y wlad yn gryfach ac yn lle tecach i fyw a gweithio ynddo.
Mae’r Ddeddf hon hefyd yn cynnwys darn cyntaf Cymru o ddeddfwriaeth sylfaenol ym maes caffael. Bydd gofyn i gyrff cyhoeddus sicrhau dulliau caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, sy’n golygu rhoi lle canolog i les amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth wario swm blynyddol o £8bn yn y maes.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:
“Rwy'n falch iawn o fod wedi darparu’r gyfraith newydd bwysig hon i Gymru.
“Rydyn ni’n gwybod mai dim ond drwy weithio mewn partneriaeth â gweithwyr, cyflogwyr a busnesau y gallwn ni wneud newidiadau go iawn a fydd yn ymgorffori cydraddoldeb, tegwch a lles yn ein gweithleoedd.
“Dw i am ddiolch i'n holl bartneriaid cymdeithasol yr ydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw, ac i bawb a weithiodd gyda ni ar y dyletswyddau caffael, am eu cymorth wrth greu'r Ddeddf hon, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, i weithleoedd, ac i Gymru gyfan.”
Bydd dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol yn cael eu gosod ar rai cyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru i wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â sicrhau lles cymdeithasol ac economaidd.
Bydd partneriaid cymdeithasol yn cael yr adnoddau i gydweithio i geisio’r nodau lles sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn diwygio nod lles ‘Cymru Lewyrchus’ gan ddatgan gwaith teg yn un o’r deilliannau.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd o weithio sy’n unigryw i Gymru. Mae ei gwneud yn gyfraith yn ein cefnogi ar ein taith i greu Cymru gryfach a thecach.
“Yng Nghymru, rydyn ni’n codi ansawdd gwaith a hawliau gweithwyr drwy ddeialog agored. Mae hon yn wlad ag economi ffyniannus sy'n gwerthfawrogi ac yn diogelu ein gweithlu.”
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ddarn deddfwriaeth aruthrol bwysig.
“Mae’n mynd â ni y tu hwnt i fodelau llywodraethiant hynafol ac ynysig, ac yn cofleidio dull blaengar, ffres sy’n rhoi’r lle canolog i lais gweithwyr mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru.
“Drwy bwysleisio cyd-ddeialog a gweithio gydag undebau llafur i ddatrys problemau, mae’r Ddeddf yn arwyddo naid radical ymlaen ym mhrosesau penderfynu’r llywodraeth.
“Drwy ymrwymiad i waith teg a chydnabod undebau llafur fel partneriaid hanfodol, mae’r Ddeddf yn creu’r amodau ar gyfer gwell swyddi, gweithleoedd saffach, ac economi ddeinamig gref.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros y Gweithlu, Cyllid ac Adnoddau:
“Ar ran llywodraeth leol Cymru, dw i’n croesawu’r Ddeddf newydd flaengar hon a fydd yn cryfhau ac yn adeiladu ymhellach ar gyfraniad partneriaeth gymdeithasol i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru.
“Fel rhai sy’n darparu gwasanaethau lleol, mae ein gweithlu yn destun balchder inni, ynghyd â rôl llywodraeth leol mewn partneriaeth agos â’n hundebau llafur i weithredu ar ran cymunedau ledled y wlad.”