Mae benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi ar gael i adnewyddu tai gwag i’w gwneud yn addas ar gyfer byw ynddynt.
Mae’r benthyciadau yn ddi-log ac mae’r arian ar gael cyn i’r gwaith gael ei ddechrau. Gall y benthyciadau dalu am waith ar dai neu adeiladau masnachol, gan gynnwys rhannu eiddo yn fflatiau.
Cymhwystra
Gall unrhyw un wneud cais. £25,000 yw’r uchafswm y gellir ei fenthyg ar gyfer pob eiddo.
Bydd unrhyw fenthyciad a gynigir yn cael ei sicrhau ar yr eiddo a bydd yn cymryd i ystyriaeth y morgais presennol. Ni all fod yn fwy na 80% o werth yr eiddo
Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais, cysylltwch â’ch awdurdod lleol: