Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cynllun cyllid grant cystadleuol o £23.3m yw'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy sydd ar gael i unigolion a sefydliadau sy'n cydweithio fel grwpiau i wella adnoddau naturiol Cymru. Ariennir yr SMS trwy Raglen Cymunedau Gwledig: Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru (WG RC-RDP) 2014 i 2020.

Nod yr SMS yw cefnogi dulliau cydweithredol o ymgymryd â gweithgareddau rheoli tir a fydd yn gwella adnoddau naturiol ac yn helpu i sicrhau cadernid ecosystemau a fydd, yn ei dro, yn cynnal y manteision cymdeithasol ac economaidd y maent yn eu darparu i gymunedau.

Dyluniwyd y cynllun i gyfrannu tuag at weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac roedd yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Mae'r SMS yn rhoi cryn bwys ar egwyddorion cydweithio ac ymgysylltu, a disgwyliwyd y byddai camau'n cael eu cymryd ar lefel y dirwedd (fel y dalgylch), yn hytrach nag ar lefel ffermydd unigol.

Dewiswyd y prosiectau i'w hariannu mewn dau gam gwahanol. Roedd disgwyl i ymgeiswyr gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ac yna gwahoddwyd y rhai llwyddiannus i gyflwyno cais llawn am gyllid. Gweinyddwyd pum cyfnod gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r SMS yn cael ei arwain a'i reoli gan dîm bach o Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig o fewn Grŵp Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol (tirwedd, natur  a choedwigaeth yw’r enw arno nawr) Llywodraeth Cymru. Fel gyda holl swyddogaethau gweinyddol y Rhaglen Datblygu Gwledig, Uned Reoli'r Cynllun oedd yn gyfrifol am reolaeth ariannol yr SMS i ddechrau cyn trosglwyddo'r awenau i'r Tîm Taliadau Gwledig o fewn Llywodraeth Cymru.

Ran o'r ffordd drwy'r cynllun, sefydlwyd gwasanaeth cymorth i roi arweiniad a chyngor i ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill i ddatblygu syniadau prosiect newydd a ffurfio partneriaethau neu grwpiau newydd er mwyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i'r SMS. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu cymorth i brosiectau a wahoddir i ail gam y broses ymgeisio i'w helpu i ddatblygu cynlluniau prosiect llawn. Darperir y gwasanaeth hwn fel rhan o’r gwasanaeth Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes.

Nodau ac amcanion y gwerthusiad

Penodwyd Ymchwil OB3, ar y cyd â Phartneriaeth BRO, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS).

Nod y gwerthusiad yw adolygu sut mae'r SMS yn cefnogi'r camau gweithredu ar y cyd i wella adnoddau naturiol a helpu i sicrhau cadernid yr ecosystem ac asesu ei gyfraniad at gynnal manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau.

Bwriedir i'r gwerthusiad ymchwilio i bum amcan allweddol:

  1. i ba raddau y mae'r prosiectau'n cyd-fynd ag egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR)
  2. y ffordd y mae'r cynllun yn cael ei reoli a'i weithredu
  3. natur a graddau'r cydweithio a'r hyn a gyflawnwyd drwy hynny
  4. canlyniadau'r cynllun a chamau gweithredu ar y blaenoriaethau polisi
  5. y cyfraniad at y themâu trawsbynciol, yn enwedig addasu a lliniaru'r newid yn yr hinsawdd

Dyma'r cyntaf o dri adroddiad diweddaru blynyddol fel rhan o'r gwerthusiad o'r SMS. Mae'r adroddiad hwn yn nodi theori newid ar gyfer y SMS ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol gwerthusiad proses. Mae'r adroddiad hwn wedi canolbwyntio ar reoli a gweithredu'r cynllun a natur y cydweithredu.

Dull

Roedd y gweithgareddau gwerthuso yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • cam cychwynnol, a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol gydag un o swyddogion Llywodraeth Cymru a pharatoi dull methodolegol a chynllun prosiect wedi'u mireinio 
  • ymchwil desg, a oedd yn cynnwys dadansoddiad o bolisïau a dogfennau strategol perthnasol yn ogystal ag adolygiad o ddogfennau ac adroddiadau'r cynllun SMS
  • paratoi canllawiau trafod ansoddol ar gyfer cyfweld â chyfranwyr i’r gwerthusiad
  • paratoi a dosbarthu arolwg ar-lein i bob ymgeisydd llwyddiannus ac aflwyddiannus i'r SMS
  • cyfweld ag 18 o randdeiliaid a 26 o gynrychiolwyr ar draws 18 o brosiectau SMS
  • cynnal trafodaethau grŵp ffocws ar-lein gyda deg aelod o'r gwasanaeth cymorth gan hwylusydd
  • cyfweld â deg o randdeiliad allweddol ychwanegol o Lywodraeth Cymru a sefydliadau allanol eraill gan gynnwys CNC
  • syntheseiddio canfyddiadau'r gwaith maes a'r adolygiad desg i ddatblygu model rhesymeg Damcaniaeth Newid ar gyfer yr SMS a pharatoi’r adroddiad terfynol

Prif ganfyddiadau

Rhesymeg y cynllun a chyfatebiaeth prosiectau ag egwyddorion SMNR

  • Mae'n amlwg bod yr SMS wedi'i ddylunio a'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn ffordd sy'n adeiladu ar y Gronfa Natur, ond gydag egwyddorion SMNR yn ganolog iddo.
  • Mae'r dull cyllido ar raddfa'r dirwedd, yn hytrach nag ar raddfa fferm, yn caniatáu ar gyfer partneriaethau prosiect yn seiliedig ar le a all arwain at fanteision llawer ehangach ar lefel gymunedol. Mae'n rhoi cyfle i bartneriaethau o'r fath ehangu eu gwaith a chryfhau eu ffyrdd cydweithredol o weithio. Mae Llywodraeth Cymru i'w chanmol am ddatblygu a chyflwyno cynllun sy'n seiliedig ar yr egwyddorion cadarn hyn.
  • Roedd egwyddorion yr SMNR wedi'u hymgorffori'n gadarn yn y meini prawf cyllido a'r broses ymgeisio, gan ei gwneud yn ofynnol i brosiectau ddangos eu bod yn mabwysiadu dull cyfannol yn seiliedig ar yr ecosystem. Ariannwyd ymyriadau yn seiliedig ar le neu ddalgylch sy'n ceisio cynhyrchu mwy o fanteision a chanlyniadau. Roedd sicrhau bod cyllid ar gael i bartneriaethau sefydliadau a pherchnogion tir, ac, yn y camau olaf, cyllido gwasanaeth cymorth gan hwylusydd i alluogi partneriaethau o'r fath i gael eu sefydlu, hefyd yn cyd-fynd i raddau helaeth ag egwyddorion SMNR a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Mae'r adborth a gafwyd gan brosiectau yn awgrymu eu bod yn deall nodau'r SMS ac egwyddorion SMNR ac yn teimlo eu bod wedi cyflawni'r prosiectau yn unol â'r rhain. Fodd bynnag, mae'r gofyniad am ddealltwriaeth fanwl o flaenoriaethau ac egwyddorion polisi amgylcheddol yn heriol i bartneriaethau a ddatblygwyd yn lleol. Fe wnaeth yr SMS gydnabod hyn yn ystod y cyfnodau cyllido cynnar, ac o’r herwydd, ymddengys fod darparu gwasanaeth cymorth gan hwylusydd wedi chwarae rhan hanfodol o ran egluro egwyddorion SMNR i dirfeddianwyr a ffermwyr na fyddent o reidrwydd mor gyfarwydd â’r rhain â staff cyrff anllywodraethol.

Ffordd y mae'r cynllun yn cael ei reoli a'i weithredu:

  • Mae'r SMS wedi profi i fod yn gynllun cyllido poblogaidd, gan dderbyn cyfanswm o 226 o Ddatganiadau o Ddiddordeb ar draws y pum cyfnod ariannu. Mae'r lefel iach hon o ddiddordeb yn yr SMS ac ymwybyddiaeth ohono ar draws ystod eang o ddarpar ymgeiswyr yn ddangosydd cychwynnol cryf o'r angen am yr SMS a'i lwyddiant.
  • Mae'r SMS hefyd, i ryw raddau, wedi dioddef yn sgil ei lwyddiant ei hun. Mae maint y galw am y cynllun, y manylion y mae angen eu cynnwys ar y templed Datganiad o Ddiddordeb ac ansawdd uchel a nifer y Datganiadau o Ddiddordeb a gyflwynwyd wedi golygu, er bod yr ansawdd wedi gwella ym mhob cylch cyllido, bod y gystadleuaeth wedi cynyddu. O ganlyniad, nid yw llawer o brosiectau yn y cyfnodau cyllido diweddarach wedi gallu symud ymlaen i'r cam cais llawn. Mae nifer o brosiectau aflwyddiannus (ond o ansawdd uchel) yn teimlo'n ddiwerth gan nad yw eu disgwyliadau wedi'u gwireddu.
  • Er bod y broses benderfynu ar gyfer yr SMS yn gadarn ac yn briodol i raddau helaeth, mae achos cryf dros symleiddio a lleihau hyd y ffurflenni, yn enwedig o ran y wybodaeth y gofynnir amdani yn y cam Datgan Diddordeb. Yn ogystal, o ystyried faint o amser a gymerir i gymeradwyo ceisiadau a dyfarnu cyllid, mae angen symleiddio a chyflymu'r broses pe bai cynllun tebyg ar gael yn y dyfodol. Yn seiliedig ar yr adborth a gasglwyd, mae dadl hefyd dros fabwysiadu dull mwy cyfannol o ymdrin â'r broses asesu, er mwyn osgoi ailadrodd diangen o fewn ceisiadau. Mae'r adborth a gafwyd yn ystod y gwerthusiad hefyd yn awgrymu y byddai ymwneud yn agosach â llunwyr polisi, staff strategol CNC a'r rhai sydd â dealltwriaeth a throsolwg o flaenoriaethau rhanbarthol yn gwella'r broses.
  • Mae tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad gwerthuso blynyddol cyntaf hwn yn cael ei chasglu'n bennaf o brosiectau a ariannwyd yn ystod y tri chyfnod cyllido cyntaf pan nad oedd gwasanaeth cymorth gan hwylusydd ar gael. Fodd bynnag, mae arwyddion cynnar ac adborth cychwynnol drwy'r arolwg a chyfranwyr eraill yn awgrymu bod y gwasanaeth hwn wedi'i werthfawrogi'n fawr ac wedi galluogi cydweithio ac wedi sicrhau mwy o degwch o ran mynediad at gyllid yr SMS.
  • Mae'n ymddangos bod y materion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at broblem yn ymwneud â chapasiti gweinyddol yn Llywodraeth Cymru a rwystrodd eu gallu i gyflawni'r broses asesu o fewn yr amserlenni cychwynnol a bennwyd. Mae tîm yr SMS wedi cael ei ganmol am ei gefnogaeth a'i barodrwydd i helpu, ond mae'r pwysau ar ei amser a'r galwadau arno yn awgrymu y gallai ei swyddogaeth cymorth parhaus elwa o gael mwy o adnoddau i helpu i ymdopi â llwyth gwaith trwm.
  • Nid yw'n ymddangos bod y gofynion anhyblyg ac aneglur ar gyfer adrodd ar hawliadau ariannol, a'r diffyg cyfathrebu ac ymateb yn amserol i ymholiadau yn cyd-fynd â'r dull rheoli ymaddasol sydd wedi'i ymgorffori yn yr SMNR. Mae'r materion hyn wedi bod yn niferus ac yn eang, gan lesteirio cynnydd ac achosi problemau difrifol i nifer o'r partneriaethau a ariannwyd drwy'r SMS, yn enwedig sefydliadau llai yn y trydydd sector neu bartneriaethau wedi'u harwain gan dirfeddianwyr. Mae'n amlwg bod angen gwelliannau ar unwaith i'r weithdrefn hawliadau ariannol. Mae anghysondeb rhwng y ffaith bod yr SMS yn annog partneriaethau lleol ar raddfa'r dirwedd i wneud cais am gyllid ond wrth wneud hynny, yn cyflwyno system gymhleth iddynt nad oes ganddynt y gallu (ac na ddylid disgwyl bod ganddynt y gallu) i ddelio â hi. Mae'n anodd gweld sut y gellir parhau i annog partneriaethau o'r fath i arwain cynigion, heb gymorth sylweddol gan gyrff anllywodraethol neu systemau a phrosesau'r sector cyhoeddus, o fewn y system adrodd gyfredol.
  • Mae'r SMS yn rhoi cryn bwys ar egwyddorion cydweithio ac ymgysylltu ar raddfa'r dirwedd gyda disgwyliad y bydd prosiectau a ariennir yn dangos cydweithio ystyrlon ac ymrwymiad gan ystod eang o sefydliadau ac unigolion. Nododd mwyafrif y prosiectau a ariannwyd a oedd yn rhan o'r gwaith maes eu bod yn cydweithio cyn iddynt ddatblygu eu ceisiadau. Er bod yr SMS wedi cryfhau'r partneriaethau hyn ac wedi ehangu eu heffaith, mae llai o dystiolaeth ar gael hyd yma ei fod wedi ysgogi cydweithrediadau cynaliadwy newydd. 
  • Er bod prosiectau'n gweld mewnbwn a chyfranogiad CNC yn ddefnyddiol, nid yw'n ymddangos bod lefel gyson o ymgysylltu â phrosiectau ledled Cymru. Yn yr un modd, mae'n ymddangos bod cyfleoedd ychwanegol ar gyfer mwy o gydlyniant rhwng yr SMS a CNC ar lefel fwy strategol gyda chyfle gwirioneddol i gysylltu prosiectau SMS yn agosach â blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg yn y Datganiadau Ardal sydd bellach wedi'u cyhoeddi.
  • Nododd y gwerthusiad rywfaint o gydweithio rhwng prosiectau SMS a oedd wedi galluogi dysgu am arfer da ac wedi helpu i osgoi dyblygu ymdrech. Yn gyffredinol, roedd prosiectau'n awyddus i weld mwy o gyfleoedd i gydweithio â phrosiectau eraill a ariennir gan SMS ac mae ymdeimlad bod cyfle wedi'i golli yma, lle y gallai'r rhaglen fod wedi gwneud mwy i hwyluso cyfleoedd o'r fath yn uniongyrchol i rannu profiadau a dysgu. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu diffyg capasiti o fewn strwythur staff Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau yn llawn fel y byddent wedi dymuno.
  • Y wers allweddol sy'n dod i'r amlwg yw bod dull cydweithredol o reoli tir yn llwyddiannus yn cymryd amser - i ddatblygu ymddiriedaeth rhwng partneriaid ac i ddatblygu syniadau. Mae angen dull tryloyw gyda chyfathrebu rheolaidd. Yn hyn o beth, ac yn arbennig ar gyfer partneriaethau dan arweiniad tirfeddianwyr, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cam datblygu sylweddol yn bwysig ar gyfer dylunio cynllun cyllido fel yr SMS. Gallai rôl mentor 'dal llaw' ar gyfer dyddiau cynnar y cyfnod cyflawni fod yn ddefnyddiol, gan ehangu rôl yr hwylusydd o bosibl.
  • Mae'n galonogol gweld bod rhai prosiectau SMS eisoes yn cyfrannu at ddealltwriaeth o sut i ddatblygu dulliau TWE o fewn rheolaeth amgylcheddol. Yn wir, roedd sawl prosiect hefyd yn edrych ar gyllid Glastir neu gontractau TWE fel rhan o'u cynlluniau cynaliadwyedd. Mae cyfle gwirioneddol hefyd i'r llunwyr polisi ystyried y gwersi a gynhyrchir o'r SMS wrth i ddulliau cyllido ar gyfer ffermio gael eu datblygu yn y dyfodol.

Canlyniadau'r cynllun a chyfraniad at themâu trawsbynciol

  • Er bod arwyddion cynnar yn awgrymu bod yr SMS yn cyflawni yn erbyn ei nodau a'i amcanion a bod y prosiectau, yn gyffredinol, yn cyflawni eu targedau a'u hallbynnau, bydd angen i adroddiadau diweddaru'r gwerthusiad yn y dyfodol ystyried a dadansoddi data i asesu hyn yn gadarnach. Cryfder dull gweithredu'r SMS yw ei hyblygrwydd, ac er ei bod yn ofynnol i bob prosiect fodloni meini prawf penodol, i raddau helaeth maent wedi gallu diffinio a gosod eu targedau eu hunain.
  • Mae'n bwysig bod prosiectau SMS eu hunain yn deall yn llawn y gofynion i ymgymryd â'u prosesau monitro a gwerthuso eu hunain ar lefel prosiect, ac yn defnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at y ffaith eu bod wedi cyrraedd targedau (neu ragori arnynt) ac unrhyw dystiolaeth o effeithiau a manteision y prosiect ar y cam hwnnw. Mae'r gwerthusiad ar lefel rhaglen yn cydnabod yr anawsterau wrth geisio cael allbynnau a chyflawniadau allweddol cyfanredol ar lefel rhaglen ac adrodd arnynt, ond bydd adroddiadau dilynol yn anelu at wneud hyn gymaint â phosibl. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gynorthwyo gan ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i ddatblygu dangosyddion cyfanredol cyffredin ar gyfer y rhaglen. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn gallu crynhoi, dangos a chyfathrebu'n ehangach y canlyniadau y mae wedi'u cyflawni.
  • Mae hefyd yn wir bod union natur yr SMS yn golygu mai dim ond allbynnau uniongyrchol y gellir adrodd amdanynt ar hyn o bryd (e.e., nifer y coed a blannwyd, neu'r hectarau a adferwyd) yn hytrach na'r manteision ehangach a thymor hwy i'r ecosystem a'r canlyniadau cymdeithasol-economaidd a all gymryd sawl blwyddyn i'w gwireddu'n llawn. Bydd angen i adroddiadau diweddaru'r gwerthusiad yn y dyfodol barhau i gadw hyn mewn cof ac ystyried beth fyddai'r goblygiadau ar gyfer gwerthusiadau ar lefel prosiect fel bod cymaint â phosibl o'r canlyniadau ehangach hyn yn cael eu cofnodi a'u hadrodd. 
  • Mae'r cyfyng gyngor hwn hefyd yn awgrymu y gallai dyluniad cynllun fel yr SMS elwa o ystyried cyfnod cyflawni llawer hwy o bum mlynedd o leiaf er mwyn gwireddu'r canlyniadau a ddymunir yn llawn ac er mwyn i dystiolaeth o'i effaith ddod i'r amlwg yn llawn.
  • Mae'n addawol gweld cyfraniad mor gryf gan brosiectau SMS at y themâu trawsbynciol, amcanion trawsbynciol y Rhaglen Datblygu Gwledig ac, at nodau strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.
  • Hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, mae'r gwerthusiad wedi cynhyrchu tystiolaeth y dylid ei defnyddio i lywio'r ffordd y mae rhaglenni cyllido yn y dyfodol yn hwyluso cyd-ddylunio dulliau rheoli tir yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd yn agosach â blaenoriaethau ac anghenion rhanbarthol.

Argymhellion

Mae'r gwerthusiad yn cynnig wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried ar gyfer y cyfnod sy'n weddill o'r rhaglen SMS ac argymhellion ehangach a allai helpu i lywio dulliau cyllido yn y dyfodol.

Argymhelliad 1

Dylid ystyried gwersi allweddol o ran dylunio polisi ar gyfer prosiectau cydweithredol ar raddfa'r dirwedd mewn unrhyw ddulliau cyllido yn y dyfodol. Dylid rhannu canfyddiadau a chanlyniadau cynnar yr adroddiad gwerthuso hwn â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn llunio'r strwythur ar gyfer cyllido ffermio yng Nghymru yn y dyfodol.

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i sicrhau bod dulliau cyllido ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylchedd yn y dyfodol yn adeiladu ar ddull cydweithredol arloesol a hyblyg yr SMS ond yn ystyried mabwysiadu amserlen gyflawni 5 mlynedd a mwy ar gyfer cynlluniau grant o'r fath yn y dyfodol.

Argymhelliad 3

Mae sawl pwynt dysgu allweddol wedi dod i'r amlwg o broses Datgan Diddordeb a phroses ymgeisio'r SMS y mae angen eu hystyried wrth ddatblygu proses ymgeisio ar gyfer unrhyw gynllun cyllido yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • yr angen am broses Datgan Diddordeb fyrrach (dim mwy na 15 tudalen o hyd)
  • cyfnod datblygu o rhwng chwech a 12 mis cyn cyfnod cyflawni tair blynedd llawn
  • proses asesu sy'n asesu'r cais cyfan yn hytrach nag adrannau unigol
  • mwy o gyfranogiad CNC yn y broses asesu, er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol
  • amlinellu'r dyddiadau ar gyfer cyfnodau cyllido o'r cychwyn cyntaf a chadw atynt
  • proses gyflym o ymdrin â cheisiadau llwyddiannus a dyfarnu cyllid

Argymhelliad 4

Dylai'r rôl cymorth gan hwylusydd gael ei darparu o ddechrau cynllun cyllido yn y dyfodol a dylid ymestyn ei gylch gwaith i helpu prosiectau i bontio'r bwlch a symud o'r cam ymgeisio i'r cam cyflawni. Gallai hwyluswyr ymgymryd yn rhannol â rôl rheoli prosiectau o fewn prosiectau cydweithredol nad ydynt yn cael eu harwain gan awdurdod cyhoeddus neu gyrff anllywodraethol nes bod tîm rheoli'r prosiect wedi'i benodi.

Argymhelliad 5

Mae angen i Lywodraeth Cymru hwyluso ac annog rhwydweithio rhanbarthol rhwng cymheiriaid ymysg prosiectau'r SMS er mwyn rhannu profiadau a'r hyn a ddysgwyd. Dylai'r sesiynau hyn fod yn sesiynau rheolaidd (bob chwarter o leiaf ym mhob rhanbarth), a gynhelir ar y safle lle bo hynny'n bosibl, a dylent gynnwys mewnbwn gan Lywodraeth Cymru a CNC.

Argymhelliad 6

Dylid ymchwilio'n llawn hefyd i gyfleoedd i ymgysylltu'n fwy rhwng yr SMS a CNC. Byddai seminar polisi i staff CNC i ledaenu'r gwersi cynnar o'r SMS yn galluogi gwell dealltwriaeth o'r cynllun. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried ffyrdd o annog CNC i ymgysylltu'n fwy cyson â phob prosiect SMS ledled Cymru.

Argymhelliad 7

Dylid cynyddu capasiti Llywodraeth Cymru fel bod digon o amser ac adnoddau staff ar gael i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar gyfer ystod mor eang o brosiectau cymhleth ac amrywiol a ariennir gan yr SMS ar gyfer y cyfnod sy'n weddill.

Argymhelliad 8

Mae angen adolygu ac addasu'r weithdrefn hawliadau gyfredol ar unwaith fel y gall fod yn fwy ymatebol i anghenion yr SMS. Dylid trefnu hyfforddiant i sicrhau bod holl staff Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â hawliadau yn deall natur cynlluniau grant ar raddfa'r dirwedd a goblygiadau oedi wrth gyflawni. Dylid ystyried sefydlu tîm pwrpasol o fewn Taliadau Gwledig Cymru, er mwyn caniatáu prosesau asesu a chymeradwyo symlach, a dyrannu unigolyn penodol ar gyfer pob prosiect SMS i ymateb yn brydlon i ymholiadau.

Manylion cyswllt

Awduron: Bebb, H; and Bryer, N; (2021)

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y gangen ymchwilio, monitorio a gwerthuso
E-bost: rme.mailbox@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 75/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-304-9

Image
GSR logo