Mae person ifanc sydd wedi cofrestru â chynllun peilot Incwm Sylfaenol arloesol Llywodraeth Cymru wedi canmol y cynllun am gefnogi ei huchelgais i ddod yn barafeddyg.
Mae hi wedi siarad wrth i ystadegau newydd ddangos bod mwy na 600 o bobl ifanc wedi cofrestru â'r cynllun peilot yn y cyfnod cofrestru blwyddyn. Mae gan y cynllun gyfradd dderbyn o 97%, sy'n sylweddol uwch na chynlluniau eraill ledled y byd.
Mae'r cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn rhoi cyfle i bobl ifanc sy'n gadael gofal dderbyn £1,600 (cyn treth) y mis pan fyddant yn troi'n 18 oed, a hynny am gyfnod o ddwy flynedd.
Mae un person ifanc sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ers mis Medi y llynedd wedi dechrau dysgu gyrru, yn astudio yn y coleg ac yn gobeithio mynd i'r brifysgol a dod yn barafeddyg.
Dywedodd Lil, sydd bellach yn rhentu ei llety ei hun:
"Mae'n gwneud i chi deimlo'n sefydlog yn ariannol. Mae'n helpu'n fawr, yn enwedig pan ydych chi'n dod yn oedolyn, rydych chi'n dechrau cael y pryderon ariannol hynny ac rydych chi'n dechrau meddwl am eich bywyd ychydig yn fwy. Pe bai gen i fy fflat ond ddim yn rhan o'r cynllun peilot hwn, byddwn yn ei chael hi'n anodd iawn."
Dywedodd Lil, sy'n astudio nyrsio, meddygaeth a gofal iechyd yn y coleg ar hyn o bryd, ei bod wedi cael cefnogaeth gan gynghorydd pobl ifanc a chan Cyngor ar Bopeth i'w helpu i reoli ei harian:
"Pan wnes i ddechrau ar y cynllun, roedd cynilo arian yn rhan fawr o hynny. Ers hynny, rydw i wedi dechrau prynu pethau yn barod ar gyfer fy lle fy hun.
"Mae pobl wedi fy helpu i reoli fy arian ac i wybod beth i'w wneud gyda chynilion. Mae gen i rywun sy'n siarad gyda fi, unwaith neu ddwywaith y mis, dim ond i glywed sut mae'n mynd a gweld beth dwi'n ei wneud gyda'r arian, fy helpu i gyllidebu a chyfrifo faint dwi'n ei wario bob mis a faint alla i gynilo."
Roedd pobl ifanc a oedd yn troi'n 18 oed rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Mehefin 2023, sydd wedi bod mewn gofal am o leiaf 13 o wythnosau, yn gymwys i ymuno â'r cynllun peilot. Amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai tua 500 o bobl ifanc yn gymwys, ond mae 635 wedi cofrestru â'r cynllun. Y rheswm dros y cynnydd hwn yw bod mwy o bobl wedi mynd i ofal a dod yn gymwys ar gyfer y cynllun peilot yn ystod y flwyddyn gofrestru.
Mae'r gyfradd dderbyn dros dro o 97% yn cynrychioli nifer sylweddol o bobl yn manteisio ar y cynllun arloesol hwn. Mae'r gyfradd dderbyn hon yn uwch na'r hyn a welir gyda chynlluniau incwm sylfaenol optio i mewn eraill ledled y byd, gan adlewyrchu'r cynnig hael ac arloesol i'r grŵp hwn o bobl ifanc.
Mae'r ystadegau, a gyhoeddwyd yn ystod Wythnos Incwm Sylfaenol, yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt:
"Mae'r cynllun peilot incwm sylfaenol yn gyfle gwych i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas gael help llaw yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol.
"Rwy'n falch iawn bod dros 600 o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal wedi bod yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun hwn ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r gyfradd dderbyn uchel ar gyfer y cynllun peilot yn dangos natur hael y gefnogaeth a gynigir.
"Rydw i wedi cwrdd â phobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun ac roeddwn i wrth fy modd yn clywed am yr effaith y mae'r cynllun wedi'i chael ar eu bywyd, gan ganiatáu iddyn nhw brofi pethau nad oedden nhw erioed wedi'u gwneud o'r blaen a chymryd camau cadarnhaol a fydd o fudd i'w dyfodol."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
"Rydyn ni'n falch o fod yn rhoi help llaw i'r rhai sy'n gadael gofal wrth iddyn nhw ddod yn oedolion.
"Mae'n wych clywed eu bod yn defnyddio'r cymorth sydd ar gael i ddysgu sut mae rheoli eu harian, gwneud arbedion a gwario'n ddoeth.
"Rydyn ni'n falch iawn o weld y gyfradd dderbyn uchel ac yn edrych ymlaen at weld sut maen nhw i gyd yn dod yn eu blaenau."
Mae'r cynllun peilot yn caniatáu i'r rhai sy'n cymryd rhan ddewis pryd maent yn derbyn eu taliadau. Mae mwy na hanner, 353 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (56%), wedi dewis cael eu taliad yn fisol, ac mae’r 282 (44%) sy’n weddill wedi dewis cael taliadau ddwywaith y mis. Mae 164 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (26%) wedi dewis i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i landlordiaid
Mae'r gallu i ddewis amlder taliadau a gwneud taliadau yn uniongyrchol i landlordiaid yn ddwy nodwedd sy'n unigryw i'r cynllun peilot hwn o gymharu â chynlluniau incwm sylfaenol eraill. Cyflwynwyd y nodweddion hyn o ganlyniad i'r gwaith ymgysylltu helaeth a wnaed yn ystod y gwaith datblygu polisi.