Mae adeiladu seiliau cadarn ar gyfer twf, paratoi diwydiannau at y dyfodol a grymuso rhanbarthau Cymru i gyd yn rhan ganolog o gynllun newydd ar yr economi.
Mae Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn nodi sut y byddwn yn cyflawni dau nod, sef tyfu economi Cymru a gwella llesiant, gan leihau anghydraddoldeb ar yr un pryd. Fe'i datblygwyd i ddiwallu’r anghenion sy’n wynebu busnesau heddiw, ond hefyd i baratoi cymunedau a busnesau Cymru ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Rydym yn byw mewn oes o newid na welwyd ei debyg o'r blaen, ond rhaid cofio bod cyfleoedd sylweddol yn dod law yn llaw â hynny. Wedi'i sbarduno gan y pedwerydd chwyldro diwydiannol, mae'r ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn treulio ein hamser hamdden yn newid o flaen ein llygaid.
"Mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer y newid hwnnw drwy roi'r gallu i bobl, busnesau a lleoedd wynebu'r dyfodol yn hyderus.
"Dyna yw nod ein Cynllun newydd ar yr Economi.
Mae ymrwymiad wrth galon Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi i ddatblygu perthynas newydd a deinamig rhwng y Llywodraeth a busnesau sy'n seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol.
"Bydd hynny'n golygu cyflwyno contract economaidd newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd eisiau cymorth gan Lywodraeth Cymru ymrwymo i ysgogi twf, arferion gweithio teg, lleihau eu hôl-troed carbon a hyrwyddo iechyd, a sicrhau mwy o gyfleoedd i weithwyr feithrin mwy o sgiliau ac i ddysgu yn y gweithle. Yn gyfnewid, ac mewn ymateb i alwadau gan y sector, bydd y Llywodraeth yn darparu pecyn cymorth symlach, unedig a chystadleuol i fusnesau.
"Bydd y ffordd hon o ddatblygu'r economi a sicrhau ffyniant yn sail i'r ffordd y bydd y Llywodraeth yn rhoi cymorth ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, gan helpu i ddatblygu ymdeimlad cryfach o undod a phwrpas.
Mae'r cynllun yn nodi pum maes gweithredu i helpu busnesau i oresgyn heriau allweddol y dyfodol, sef:
- Arloesi, Entrepreneuriaeth a Phencadlys – i helpu busnesau i arloesi, i gyflwyno cynnyrch a gwasanaethau newydd.
- Allforio a Masnachu – i fod yn rhagweithiol wrth gefnogi cyfleoedd masnachu â gweddill y DU a gweddill y byd.
- Swyddi o'r Ansawdd Gorau, Datblygu Sgiliau a Gwaith Teg – i wella ein sylfaen sgiliau a sicrhau bod gwaith yn cael ei roi'n deg.
- Ymchwil a Datblygu, Awtomeiddio a Digideiddio – i helpu i ddatblygu cynhyrchion newydd, i awtomeiddio ac i ddigideiddio i sicrhau bod Cymru yn para'n gystadleuol yn y bedwaredd oes ddiwydiannol.
- Datgarboneiddio – i helpu mwy o fusnesau Cymru i fod yn garbon-ysgafn neu'n ddi-garbon.
Er mwyn sicrhau'r effaith orau, mae'r Cynllun yn cydnabod bod yn rhaid i'r Llywodraeth dargedu ei gymorth ar sectorau penodol a gweithio ar draws y sectorau hynny i ddatblygu sgiliau newydd, ac i greu modelau busnes a seilwaith newydd.
Mae'r Llywodraeth, felly, yn symleiddio ei ffordd o weithio sy'n ymdrin â thri sector thematig cenedlaethol a phedwar sector sylfaen.
Y tri sector thematig a ddewiswyd yw Gwasanaethau y Gellir eu Masnachu, gan gynnwys gwasanaethau technoleg ariannol, yswiriant ar-lein, Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth, gan gynnwys lled-ddargludyddion cyfansawdd a gweithgynhyrchu cyfansoddion newydd, a Galluogwyr, gan gynnwys y sector digidol, arbed ynni ac ynni adnewyddadwy. Maent i gyd yn cynnig cyfleoedd penodol i ysgogi diwydiannau'r dyfodol.
Y pedwar Sector Sylfaen yw Twristiaeth, Bwyd, Manwerthu a Gofal. Maent yn rhan hanfodol o fywydau pobl a chymunedau Cymru a gallant fod yn arwyddocaol o ran sicrhau gwell swyddi yn agosach i gartref. Bydd gweithio'n fwy effeithlon ar draws y Llywodraeth yn y meysydd hyn yn cynyddu manteision.
Mae'r Cynllun yn ymrwymo'r Llywodraeth i raglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf sydd â'r nod o ddarparu prosiectau yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol.
Mae disgwyl i hynny sicrhau arbedion effeithlonrwydd o 15-20% ar brosiectau newydd, a chan ddefnyddio'r ffigurau ar gyfer cyfalaf trafnidiaeth dros y tair blynedd nesaf sydd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018/19, gallai sbarduno arbedion effeithlonrwydd o hyd at £630 miliwn dros ddeng mlynedd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Er bod ein Contract Economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wneud y pethau cywir heddiw, mae ein Meysydd Gweithredu yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ymateb i heriau'r dyfodol. Gyda'i gilydd, byddant yn sicrhau y bydd ein buddsoddiadau busnes yn darparu ar gyfer y presennol a'r dyfodol.
"Bydd ein penderfyniad i hoelio ein cymorth ar dri sector thematig a phedwar sector sylfaen yn ein galluogi sicrhau bod ein hymyriadau yn cael yr effaith orau bosibl.
"Rhan allweddol o'r cynllun yw cydnabod cyfleoedd a heriau unigryw sy’n wynebu economïau ein rhanbarthau. Yn hytrach na defnyddio un dull ar gyfer pawb, byddwn yn cydweithio'n fwy ar draws rhanbarthau ac yn defnyddio deallusrwydd lleol i deilwra'r ffordd y byddwn yn rhoi cymorth yn genedlaethol, ac yn sicrhau bod ffyniant i'w weld yn deg ar draws Cymru.
"Rwy'n galw ar fusnesau, ein sefydliadau dysgu, ein hundebau llafur a'r gymdeithas ehangach i gydweithio â ni i dyfu ein heconomi, i sicrhau Cymru decach ac i wireddu ein huchelgais o sicrhau ffyniant i bawb".