Neidio i'r prif gynnwy

1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Mae Cynllun Nanis 2021 yn debyg yn fras i gynllun 2007, ond mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i wneud rhai newidiadau i’r meini prawf cymeradwyo ac i roi eglurder ynghylch agweddau eraill ar y cynllun.
Disgwylir i Gynllun Nanis 2021 gael yr effeithiau cadarnhaol canlynol ar blant:

  • Cyflogaeth a threchu tlodi: Amlygwyd mai cael dau gyflog (yn achos aelwydydd dau riant) neu gyflogaeth (yn achos aelwydydd un rhiant) yw’r llwybr gorau allan o dlodi, ac mae’n gwneud synnwyr economaidd o ran mwy o refeniw treth a llai o wariant ar fudd-daliadau(darllen Sefydliad Joseph Rowntree (2016) UK poverty: Causes, costs and solutions). Bydd y Cynllun Cymeradwyo yn cael effaith gadarnhaol ar dlodi plant (erthyglau 26 a 27) gan ganiatáu i rieni dderbyn cymorth ariannol Llywodraeth y DU tuag at eu costau gofal plant (os ydynt yn defnyddio gwasanaethau nani “a gymeradwywyd”). Yn aml, gall nanis hefyd gynnig gwasanaethau gofal plant mwy hyblyg, gan alluogi llawer o rieni i gynyddu eu horiau neu gynyddu eu hopsiynau cyflogaeth;
  • Datblygiad plant: Mae addysg a gofal o ansawdd uchel yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol o ran datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol plant yn y tymor byr a’r tymor hirach. Mae’r Cynllun Cymeradwyo yn cefnogi nanis i ddarparu gofal yn y cartref teuluol a allai fod o fudd i les plant gan eu bod yn derbyn gofal mewn amgylchedd cyfarwydd a diogel, a bod hyn yn gallu cyfyngu ar nifer y lleoliadau/teithio sydd ei angen. Gall trefniadau o’r fath hefyd olygu bod ymlyniad agos a pharhaol yn datblygu rhwng y nani a’r plant/teulu. Hefyd, gall plant ag anghenion ychwanegol elwa o’r gofal a ddarperir gan nani mewn lleoliad cyfarwydd (erthyglau 28 a 29). Mae’n ofynnol i nanis a gymeradwywyd o dan y cynllun fod wedi ymgymryd â hyfforddiant mewn datblygiad gofal blynyddoedd cynnar a chymorth cyntaf, o leiaf;
  • Atal: Gwyddom y gall ymyrryd yn y blynyddoedd cynnar arbed arian yn ddiweddarach, a bod mwy o fudd o fuddsoddi’n gynnar nag yn hwyrach, ee gall buddsoddi’n gynnar liniaru ar ganlyniadau negyddol costus yn ddiweddarach mewn bywyd, fel anawsterau llythrennedd neu rifedd (erthygl 27);
  • Diogelu: (erthygl 19). Mae’r trefniadau ar gyfer sicrhau bod nanis a gymeradwywyd o dan y cynllun yn addas i ofalu am blant wedi’u cryfhau, gan ei gwneud yn ofynnol i nanis a gymeradwywyd roi gwybod i’r corff cymeradwyo am unrhyw rybuddiad neu euogfarn. Yng ngoleuni’r adborth ar y cynllun drafft a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ystyried priodoldeb cynnwys gofyniad i nanis a gymeradwywyd o dan y cynllun gael hyfforddiant yng ngweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan, a fydd yn rhoi lefel bellach o sicrwydd bod nanis a gymeradwywyd mewn sefyllfa i adnabod arwyddion o niwed a cham-drin, a rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol;
  • Cydraddoldeb: Nid yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn safleoedd uwch ac mewn proffesiynau sgiliau uchel. Bydd rhoi gwell a mwy o opsiynau gofal plant i rieni yn caniatáu iddynt gydbwyso eu cyfrifoldebau gwaith a gofal yn well ac yn helpu i leihau’r anghydraddoldeb hwn. Mae gan bob rhiant a phlentyn yr opsiwn o gyflogi nani a gymeradwywyd (os gallant ddod o hyd i un), ac i rieni sy’n ennill cyflog uchel ac sy’n aml yn gorfod gweithio oriau hir ac anghymdeithasol, gall nani ddarparu’r math o wasanaethau sy’n ofynnol yn ôl eu hunion sefyllfa.

Gan fod y Cynllun Cymeradwyo newydd yn debyg yn fras i gynllun presennol 2007, ni ragwelir y bydd unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i’r newidiadau. Byddai effeithiau negyddol pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â chyflwyno’r cynllun newydd gan y byddai hynny’n atal rhieni sy’n defnyddio nanis at ofal plant rhag cael mynediad at gonsesiynau treth a/neu fudd-daliadau perthnasol Llywodraeth y DU.

2. Eglurwch sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Bydd y Cynllun yn cefnogi ac yn hyrwyddo hawliau plant drwy gefnogi’r erthyglau canlynol:

  • Mae Erthygl 3 yn nodi y dylai pob sefydliad weithio tuag at yr hyn sydd orau i’r plentyn. Buddiannau gorau’r plentyn sy’n cael y lle canolog yn y Cynllun Cymeradwyo, ac mae hyn yn golygu sicrhau bod gwasanaethau gofal plant yn cyrraedd safon benodol;
  • Dywed Erthygl 18 y dylai’r Llywodraeth gefnogi rhieni i ofalu am blant, yn enwedig pan fydd y ddau riant yn gweithio. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad statudol i sicrhau bod gofal plant cynaliadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru, ac mae’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gyflawni hyn;
  • Dywed Erthygl 19 fod yn rhaid i’r Llywodraeth weithredu i ddiogelu plant rhag camdriniaeth gan ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddi. Mae cynllun 2021 wedi’i gryfhau o ran ei elfennau “diogelu”, ac mae cynlluniau ar y gweill i weithio gyda rhanddeiliaid i gyflwyno gofynion pellach o ran hyfforddiant diogelu;
  • Dywed Erthygl 27 fod gan blant hawl i safon byw sy’n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol, ac y dylai’r Llywodraeth helpu teuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio darparu hyn. Drwy gynyddu incwm gwario teuluoedd neu gynyddu opsiynau cyflogaeth rhieni, mae’r Cynllun Cymeradwyo yn helpu i gyfrannu at safon byw well i deuluoedd;
  • Dywed Erthygl 30 fod gan blant yr hawl i ddysgu a defnyddio iaith ac arferion eu teuluoedd, p’un a yw’r rhain yn cael eu rhannu gan y rhan fwyaf o bobl y wlad ai peidio. Un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, drwy ei strategaeth Cymraeg 2050, yw cynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy’n gallu siarad y Gymraeg. Mae’r asesiad o’r effaith ar y Gymraeg yn rhoi rhagor o fanylion am gyfraniad y Cynllun Cymeradwyo yn hyn o beth.